Seleri
Seleri | |
---|---|
Y planhigyn seleri | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Apium |
Rhywogaeth: | A. graveolens |
Enw deuenwol | |
Apium graveolens L. |
Math o blanhigyn yn nheulu'r 'Apiaceae' yw'r Seleri (neu Helogan) (Lladin: Apium graveolens; Sa: Celery) a bwyteir ei goesyn a'i wreiddiau (seleriac).
Roedd y Chiniaid y ei ddefnyddio dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Cafodd ei ddisgrifio gan Carolus Linnaeus (Species Plantarum) yn 1753.[2] Ystyr yr enw yw 'gweithredu'n gyflym' a chredir fod hyn yn cyfeirio at ei effaidd meddygol i leddfu poenau'r gwynegon (gweler isod) oherwydd y lefel uchel o sodiwm sydd ynddo.
Aelod arall o'r teulu yw'r Apium bermejoi o ynys Minorca sy'n un o blanhigion prinaf y byd, gyda dim ond tua 60 yn bodoli.
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Defnyddir had seleri ar ffurf tabledi yn nyddiau'r Rhufeiniaid; sgwennodd Aulus Cornelius Celsus am hyn tua'r flwyddyn 30 AD.[3]
Caiff y seleri ei ddefnyddio ar gyfer mendio'r gwynegon neu gricmala (cryd y cymalau) drwy ei ferwi mewn llaeth neu ei fwyta'n amrwd.[4]
Mae rhai'n ei ddefnyddio fel tonig cyffredinol hefyd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan Saesneg 'The Online Vitamins Guide'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-01. Cyrchwyd 2009-04-19.
- ↑ Llyfr gan Carolus Linnaeus: 'Species Plantarum'; cyhoeddwyd gan Holmiae. (Laurentii Salvii), 1753.
- ↑ Gwefan saesneg Celsus, de Medicina, Cyfieithiad
- ↑ Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.