Bahrain
Teyrnas Bahrein مملكة البحرين Mamlakat al-Baḥrayn | |
Arwyddair | Ours. Yours. Bahrain |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, ynysfor |
Prifddinas | Manama |
Poblogaeth | 1,569,666 |
Sefydlwyd | 15 Awst 1971 o Loegr[1] |
Anthem | Bahrainona |
Pennaeth llywodraeth | Salman bin Hamad, Crown Prince of Bahrain |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Bahrain |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, De-orllewin Asia, Gwladwriaethau'r Gwlff |
Gwlad | Bahrain |
Arwynebedd | 786.5 km² |
Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia |
Cyfesurynnau | 26.0675°N 50.55111°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Bahrain |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | brenin Bahrain |
Pennaeth y wladwriaeth | Hamad II of Bahrain |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Bahrain |
Pennaeth y Llywodraeth | Salman bin Hamad, Crown Prince of Bahrain |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $39,303 million, $44,391 million |
Arian | Bahraini dinar |
Canran y diwaith | 4 canran |
Cyfartaledd plant | 2.056 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.875 |
Gwlad Arabaidd, fechan yng Ngwlff Persia yw Teyrnas Bahrein neu Bahrein (Arabeg: مملكة البحرين Mamlakat al-Baḥrayn). Mae'n un o wledydd y Dwyrain Canol a hefyd yn rhan o orllewin Asia. Mae'r wlad yn cynnwys nifer o ynysoedd. Mae wedi'i lleoli rhwng arfordir gogledd-ddwyreiniol Sawdi Arabia, a phenrhyn Qatar: mewn geiriau eraill: saif rhwng Gwlff Persia a'r Dwyrain Canol. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Manama. Mae arwynebedd y wlad yn 295.37 mi sgwâr (765 km2); mewn cymhariaeth, mae arwynebedd Ynys Môn yn 276 milltir sgwâr (715 km2).
Canolbwynt a chanolfan weinyddol Bahrain yr ynysfor (archipelago) hon yw Ynys Bahrain ei hun: y fwyaf ohonynt. Mae Saudi Arabia 23 km (14 mill) i ffwrdd ohoni a gelwir y ffordd sy'n eu cysylltu yn 'Gob y Brenin Fahd', sy'n gymysgedd o gobiau a phontydd. Mae Penrhyn Qatar hefyd yn eitha agos - 50 km (31 mill) i'r de-ddwyrain, a gelwir y môr sy'n eu gwahanu yn Wlff Bahrain. 200 km (124 mill) i'r gogledd ar draws Gwlff Persia mae Iran.
Poblogaeth Teyrnas Bahrein yn 2010 oedd 1,234,567 gyda 666,172 ohonynt yn dramorwyr.[2] Mae arwynebedd y wlad yn 780 km2 sy'n ei gosod yn drydydd wlad lleiaf yn Asia, yn dilyn y Maldives a Singapôr.[3]
Protestiadau 2011
[golygu | golygu cod]Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "CIA – The World Factbook – Bahrain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-24. Cyrchwyd 2016-12-11.
- ↑ "General Tables". Bahraini Census 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-22. Cyrchwyd 3 Mawrth 2012.
- ↑ "The smallest countries in the world by area". countries-ofthe-world.com.
|