Sutra
Gwedd
Sutra (ynganiad: 'sŵtra') yw'r term Sansgrit am wireb neu ddywediad athronyddol sydd wedi cael ei drosglwyddo ar lafar neu mewn llyfr. Ystyr y gair sutra yw 'llinyn' ac mae'n dal perthynas ieithyddol a'r gair Lladin suere ('gwnïo').
Yn Hindŵaeth mae sutrau yn cael eu priodoli i athrawon mawr y gorffennol fel Shankara neu rai o ddoethion traddodiad y Veda. Mae'r gair yn medru golygu casgliad o ddywediadau athronyddol yn ogystal.
Ym Mwdhaeth mae sutra yn enw ar sawl cyfres o ddywediadau gan y Bwdha neu ei ddisgyblion.