Prilep
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 63,308 |
Pennaeth llywodraeth | Q61119921 |
Cylchfa amser | CET, CEST |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Sant Nicolas |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Prilep, Strymon |
Gwlad | Gogledd Macedonia |
Arwynebedd | 1,194.44 km² |
Uwch y môr | 620 metr |
Cyfesurynnau | 41.3464°N 21.5542°E |
Cod post | 7500 |
Pennaeth y Llywodraeth | Q61119921 |
Dinas yng Ngogledd Macedonia yw Prilep (Tyrceg: Perlepe). Saif i dde'r brifddinas Skopje, ar y rheilffordd rhwng Titov Veles a Bitola.
Roedd Prilep yn ganolfan bwysig yn ystod yr Oesoedd Canol, ac mae sawl eglwys a mynachlog o'r cyfnod hwnnw gan gynnwys Eglwys Sant Niclas, a adeiladwyd ym 1299 ac sydd yn enwog am ei ffresgoau, a Mynachlog yr Archangel Mihangel ac Eglwys Sant Demetrius, y ddau ohonynt a godwyd yn y 14g. Ar un pryd bu Stefan Dušan, Brenin Serbia o 1331 i 1346, yn byw yma. Prilep oedd man geni Marko Kraljević, Brenin Serbia o 1371 i 1395, ac un o brif arwyr y Balcanau yn y frwydr yn erbyn yr Otomaniaid. Mae olion o Gastell Prilep, a godwyd gan y Brenin Marko, yn sefyll hyd heddiw.
Prilep yw'r ddinas bedwaredd fwyaf yng Ngogledd Macedonia ac yn brif ganolfan i fasnach a gweithgynhyrchu yn ardal Pelagonia. Tyfir ffrwythau a thybaco yn iseldiroedd ffrwythlon Basn Prilep, ac yma hefyd cynhyrchir tecstilau, gwin, a lledr. Gwneir briciau silica a defnyddiau ynysol o ddiatomit yn y ddaear.[1]
Gostyngodd y boblogaeth o 71,899 ym 1994[2] i 66,246 yn 2002, ac i 64,830 yn 2016.[1]