Idolinguo
Datblygiad o'r iaith artiffisial ryngwladol Esperanto yw Ido neu Idolinguo. Uniono por la Linguo Internaciona Ido (ULI), Undeb yr Iaith Ryngwladol Ido (ULI) yw'r undeb swyddogol ar gyfer y mudiad dros ddatblygu’r iaith Ido. Gyda'i bencadlys yn Amsterdam, yn Yr Iseldiroedd, ei brif swyddogaeth yw hyrwyddo'r iaith, trefnu cynadleddau blynyddol lle mae siaradwyr Ido yn cwrdd, a chyhoeddi'r cylchgrawn Progreso (=cynnydd) a ddechreuwyd ym 1908 gan Louis Couturat, un o sefydlwyr y mudiad a fu farw ym 1914. Yn gyfoes (2008) mae cynrychiolwyr o 23 o wledydd yn aelodau swyddogol o'r undeb.
Gwyddor Ido a’r ynganiad
[golygu | golygu cod]Defnyddir yr un 26 llythyren ag sydd yn yr wyddor Saesneg a’r wyddor Ffrangeg. Ni ddefnyddir unrhyw farciau diacritig (acenion).
Ynganu cytseiniaid
[golygu | golygu cod]Yngenir y cytseiniaid canlynol fel yn y Gymraeg: b, d, g, h, k, l, m, n, p, r, s, t, v, z.
c = fel ts yn y gair Cymraeg tsar; f = fel ff yn Gymraeg; j = fel yn Ffrangeg neu fel s yn y gair Saesneg pleasure; ch = fel yn Saesneg; qu = fel yn Saesneg; sh = fel yn Saesneg; w = fel w yn y gair Cymraeg wedi; x = fel cs yn y gair Cymraeg bocs hyd yn oed ar ddechrau gair; y = fel i yn y gair Cymraeg iechyd. D.S. Ni defnyddir w na y fel llafariaid yn Ido.
Ynganu llafariaid
[golygu | golygu cod]Yngenir y llafariaid fel a ganlyn: a, e, i, o = fel yn Gymraeg; u = fel w yn y gair Cymraeg pwn.
Dylid nodi, mewn geiriau o ddwy syllaf neu fwy, fod i yn troi’n hanner cytsain, felly mae ia yn swnio fel ya, ie = fel ye, ii = fel yi, io = fel yo, iu = fel yu.
Dylid nodi hefyd, mewn geiriau o ddwy syllaf neu fwy, fod u yn troi’n hanner cytsain, felly mae ua yn swnio fel wa, ue = fel we, ui = fel wi, uo = fel wo, uu= fel wu.
Hyd llafariaid: Nid oes rheol pendant, felly anelir at ynganu llafariaid mewn modd rhywle rhwng ‘hir’ a ‘byr’.
Deuseiniaid
[golygu | golygu cod]Ceir y deuseiniaid canlynol yn Ido: au = fel aw yn Gymraeg, eu = fel ew yn Gymraeg.
Pwyslais: Fel yn Gymraeg pwysleisir geiriau ar y goben (sillaf olaf ond un) e.e. kandelo = cannwyll, ond mae geiriau sy’n gorffen â’r terfyniadau -ar, -ir, -or, sef y terfyniadau berfenwol, yn eithriad, gyda’r pwyslais yn disgyn ar y sillaf olaf ei hunan e.e. amar = caru, helpar = helpu, peskar = pysgota.
Geirfa
[golygu | golygu cod]Mae geirfa’r iaith Ido yn seiliedig ar ryw 10,000 o wreiddiau, gwreiddiau sy’n gyffredin i nifer o ieithoedd fel yn yr enghreifftiau canlynol: Ffrangeg 91%, Eidaleg 83%, Sbaeneg 79%, Saesneg 79%, Almaeneg 61%, Rwsieg 52%.
Geirfa ehangach. Mae’r iaith yn defnyddio dros 60 o ôl-ddodiaid a rhag-ddodiaid i ehangu’r eirfa ac adeiladu geiriau mwy cymhleth. Dyma gwpl o enghreifftiau: ’des-‘ sy’n rhoi’r ystyr croes i air e.e. facila = hawdd, des-facila = anodd; ‘-ed’ sy’n cyfieithu’r terfyniad Cymraeg ‘-aid’ h.y. ‘llawn’ e.e. taso = cwpan, tasedo = cwpanaid, boteledo de vino = potelaid o win; ‘-ey’ sy’n dynodi ‘lle’ ar gyfer rhywbeth e.e. kavalo = ceffyl, kavaleyo = stabal.
Rhagenwau
[golygu | golygu cod]me = fi tu = ti vu = chi (unigol) ilu = ef (person) elu = hi (person) olu = yn cyfateb i’r gair ‘it’ yn Saesneg lu = rhagenw trydydd person unigol di-genedl, h.y. ‘hi’ neu ‘fe’ ni = ni vi = chi (lluosog) li = nhw
Berfau
[golygu | golygu cod]Mae modd creu nifer o amserau eraill, ond yn sylfaenol defnyddir y terfyniadau canlynol: amser presennol -as, amser gorffennol -is, amser dyfodol -os, amser amodol -us. e.e.
Me havas tri libri = Mae tri llyfr gyda fi; Ni skribis letro a tu = Ysgrifennon ni lythyr atat ti; Nivos morge = Bydd hi’n bwrw eira yfory; La infanti helpus = Basai’r plant yn helpu.
Negyddol. Defnyddir y gair ‘ne’ i ffurfio’r negyddol e.e. Me ne esas richa = Dw i ddim yn gyfoethog.
Cwestiynau. Defnyddir y gair ‘ka’ sy’n cyfateb â geiryn gofynnol ‘A’ Cymraeg e.e. Ka tu prizus glasedo de aquo ? = A hoffet ti wydraid o ddŵr ?
Gorchmynion. Defnyddir y terfyniad ‘-ez’ e.e. Sidez hike ! = Eisteddwch yma ! ; Ne parolez ! = Peidiwch â siarad !
Y fannod
[golygu | golygu cod]Fel yn Gymraeg does dim bannod amhendant. Y fannod bendant yw ‘la’. e.e. kafeo = coffi, la kafeo = y coffi.
Enwau
[golygu | golygu cod]Mae pob enw unigol yn terfynu â’r llythyren -o e.e. kato = cath (niwtral o ran cenedl), katino = cath fenyw, katulo = cath wryw, infanto = plentyn, tablo = bwrdd, domo = tŷ, arboro = coeden. Mae pob enw lluosog yn terfynu â’r llythyren -i e.e. kati = cathod, infanti = plant, tabli = byrddau, domi = tai, arbori = coed.
Ansoddeiriau
[golygu | golygu cod]Mae siaradwyr Ido yn rhydd i osod yr ansoddair o flaen neu ar ôl yr enw, ond mae o flaen yn fwy cyffredin. Y terfyniad ar gyfer ansoddeiriau yw ‘-a’ e.e. granda domo = tŷ mawr, granda domi = tai mawr, bruna hari = gwallt brown, salado fresha = salad ffres, La yuna familio habitas en mikra urbo an la bordo di la maro = Mae’r teulu ifanc yn byw mewn tref fach ar lan y môr.
Adferfau
[golygu | golygu cod]Y terfyniad ar gyfer adferfau yw ‘-e’. Gellir troi ansoddair yn adferf fel a ganlyn: lenta = araf, lente = yn araf; rapida = cyflym, rapide = yn gyflym e.e. Elu natis lente trans la rivero = Nofiodd hi yn araf dros yr afon.