Gerbera
Gwedd
Gerbera | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Is-deulu: | Mutisioideae |
Llwyth: | Mutisieae |
Genws: | Gerbera L. |
Rhywogaethau | |
Tua 30 |
Mae gerbera (Gerbera L.) yn blanhigyn addurniadol sy'n dod o deulu blodyn yr haul (Asteraceae). Cafodd ei enwi fel teyrnged i'r naturyddwr Almaenig Traugott Gerber, a oedd yn ffrind i Carolus Linnaeus.
Mae iddo tua 30 rhywogaeth yn y gwyllt, yn ymestyn o Dde America trwy Affrica a Madagasgar i'r Asia drofannol. Gwnaed y disgrifiad gwyddonol cyntaf ohono gan y botanegydd J. D. Hooker yng nghylchgrawn Botaneg Curtis ym 1889 pan ddisgrifiodd y Gerbera jamesonii, rhywogaeth o Dde Affrica sy'n cael ei adnabod fel 'Llygad y dydd Transvaal' neu 'Lygad y dydd Barberton'.