Caer Idris
Math | caer bentir |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanidan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1874°N 4.2546°W |
Cod OS | SH49456797 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN051 |
Mae Caer Idris yn fryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli ger Llanidan yn Ynys Mon, Cymru; cyfeirnod OS: SH494679. Amgylchynir Caer Idris gan dair rhes o gloddiau amddiffyn a godwyd, hyd y gellir barnu, yr un pryd i ffurfio caer gonsentrig.[1]
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae tarddiad yr enw 'Caer Idris' yn anhysbys. Ceir sawl cyfeiriad at Idris - cawr enwog Cader Idris - yn llên gwerin Cymru ond does dim traddodiad i'w gysylltu â'r gaer hon, er bod yr enw'n awgrymiadol.[2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: AN051.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cadair Idris
- Idris Gawr
- Llech Idris, maen hir ger Trawsfynydd
- Llwythau Celtaidd Cymru
- Rhestr copaon Cymru
- Rhestr o fryngaerau Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ R. G. Livens, 'Yr Oes Haearn Geltaidd'; Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Gwasg Gomer, 1987), tud. 25.
- ↑ T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (adargraffiad 1979), tud. 77.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-05.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-05.