[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Crug Hywel

Oddi ar Wicipedia
Crug Hywel
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr451 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8792°N 3.1264°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO22552065 Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynydd Du Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR128 Edit this on Wikidata

Bryn â chopa gwastad ar ymyl ddeheuol y Mynydd Du yn ne-ddwyrain Cymru yw Crug Hywel (Saesneg: Table Mountain). Mae'n codi i uchder o 451 m uwchben lefel y môr o ystlys ddeheuol Pen Cerrig-calch (701 m), ac mae'n sefyll uwchben tref Crucywel, Powys ac yn rhoi ei enw iddi. Cyfeirnod OS: SO225206.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Ar gopa'r bryn ceir bryngaer Geltaidd o Oes yr Haearn sy'n llenwi pen y mynydd i gyd. Mae ei ffos a chlawdd pridd a cherrig i'w gweld yn eglur. Mae'r ammddifynwaith unigol ar siap triongl neu ddeigryn afreolaidd sy'n dilyn amlinell naturiol y bryn. Ceir mynedfa sy'n troi i mewn ar ei hun yn y gongl orllewinol. Ymddengys na chafodd y bryngaer ei gwella yn ddiweddarach a bod yr adeiladwaith yn perthyn i un cyfnod yn unig.

Cefndir

[golygu | golygu cod]
Crug Hywel

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: BR128.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[2] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[3] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[4]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cofrestr Cadw.
  2. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  3. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-08-25.
  4. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2013-08-25.