[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Afon Moscfa

Oddi ar Wicipedia
Afon Moscfa
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Moscfa, Oblast Smolensk, Moscfa Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Cyfesurynnau55.0833°N 38.8333°E, 55.4823°N 35.4529°E, 55.0753°N 38.8456°E Edit this on Wikidata
AberAfon Oka Edit this on Wikidata
Dalgylch17,600 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd502 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad109 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon sy'n llifo trwy Orllewin Rwsia yw Afon Moscfa (Rwseg: река Москва, Москва-река, Moskva-reka). Cwyd tua 90 milltir i'r Gorllewin o Foscfa a llifa i'r Dwyrain trwy Oblast Smolensk ac Oblast Moscfa, gan basio trwy ganol dinas Moscfa. Oddeutu 70 milltir i'r De o Foscfa ger dinas Kolomna mae'r afon yn ymuno ag Afon Oka, sydd yn un o isafonydd Afon Folga, a lifa yn y pen draw i mewn i Fôr Caspia.

Map o Afon Folga: mae hynt Afon Moscfa wedi ei huwcholeuo
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.