[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Gwyfyn cynffon gwennol

Oddi ar Wicipedia
Ourapteryx sambucaria
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Ourapteryx
Rhywogaeth: O. sambucaria
Enw deuenwol
Ourapteryx sambucaria
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Phalaena sambucaria Linnaeus, 1758
  • Urapteryx sambucaria

Gwyfyn eitha mawr, sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyfyn cynffon gwennol, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwyfynod cynffon gwennol; yr enw Saesneg yw Swallow-tailed Moth, a'r enw gwyddonol yw Ourapteryx sambucaria.[1][2]

siani flewog
wyau
o'r tu blaen

Mae i'w ganfod yn rhan gorllewinol o Asia ac mae lled ei adenydd yn fwy na'r cyffredin: 50–62 mm. Edrycha'n hynod o debyg i löyn byw a chaiff ei enw oherwydd siap ei adenydd yn y cefn. Fe'i gwelir ar ei adain ym Mehefin a Gorffennaf, yn y nos. Yn aml, caiff ei ddenu at olau.

Mae'r siani flewog yn hoff iawn o fwyta dail llaeth y gaseg, y ddraenen, eiddew ac ysgawen.

Cyffredinol

[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyfyn cynffon gwennol yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.