Gwyfyn
- Am y ffilm Gymraeg gweler Gwyfyn (ffilm).
Gwyfynod | |
---|---|
Ymerawdwr (Saturnia pavonia) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera (rhan) |
Teuluoedd | |
tua 120 |
- Am restr o löynod byw gweler yma. Am restr o dros 1,050 o erthyglau Cymraeg ar wyfynod a gloÿnnod byw, gweler yma.
Pryfed sy'n perthyn i'r urdd Lepidoptera ynghyd â'r gloÿnnod byw yw gwyfynod. Mae tua 160,000 o rywogaethau o wyfynod - deg gwaith mwy nag o loynnod byw.[1] Credir fod miloedd o rywogaethau'n dal heb eu hadnabod a'u henwi. Mae'r mwyafrif o wyfynod yn nosol.
Does 'na ddim llawer o wahaniaeth rhwng gwyfyn a glöyn byw; weithiau defnyddir y gair "heterocera" am y gwyfyn a "rhopalocera" am y glöyn byw. Ond geiriau cyffredinol, a geir ar lafar ydy'r rhain yn hytrach na dosbarthiad gwyddonol. Gwyddom erbyn heddiw mai grŵp bychan ydy'r glöyn byw sydd wedi esblygu o fewn grŵp ehangach y gwyfyn, hynny yw o fewn "Ditrysia" y "Neolepidoptera".[2]
Ysglyfaethwyr
[golygu | golygu cod]Mae llawer o rywogaethau nosol yn bwyta gwyfynod, gan gynnwys yr ystlym, rhai mathau o dylluanod ac adar eraill, madfallod, cathod, cŵn a llygod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Moths". Smithsonian Institution. Cyrchwyd 12 Ionawr 2012.
- ↑ ""Neolepidoptera" on Tree of Life Web Project<http://tolweb.org/>". 1 Ionawr 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-27. Cyrchwyd 31 Mawrth 2010.