[go: up one dir, main page]

Seleri
Y planhigyn seleri
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Apium
Rhywogaeth: A. graveolens
Enw deuenwol
Apium graveolens
L.
Croesdorriad o'r seleri
Hadau'r Helogan

Math o blanhigyn yn nheulu'r 'Apiaceae' yw'r Seleri (neu Helogan) (Lladin: Apium graveolens; Sa: Celery) a bwyteir ei goesyn a'i wreiddiau (seleriac).

Roedd y Chiniaid y ei ddefnyddio dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.[1] Cafodd ei ddisgrifio gan Carolus Linnaeus (Species Plantarum) yn 1753.[2] Ystyr yr enw yw 'gweithredu'n gyflym' a chredir fod hyn yn cyfeirio at ei effaidd meddygol i leddfu poenau'r gwynegon (gweler isod) oherwydd y lefel uchel o sodiwm sydd ynddo.

Aelod arall o'r teulu yw'r Apium bermejoi o ynys Minorca sy'n un o blanhigion prinaf y byd, gyda dim ond tua 60 yn bodoli.

Rhinweddau meddygol

golygu

Defnyddir had seleri ar ffurf tabledi yn nyddiau'r Rhufeiniaid; sgwennodd Aulus Cornelius Celsus am hyn tua'r flwyddyn 30 AD.[3]

Caiff y seleri ei ddefnyddio ar gyfer mendio'r gwynegon neu gricmala (cryd y cymalau) drwy ei ferwi mewn llaeth neu ei fwyta'n amrwd.[4]

Mae rhai'n ei ddefnyddio fel tonig cyffredinol hefyd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Gwefan Saesneg 'The Online Vitamins Guide'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-01. Cyrchwyd 2009-04-19.
  2. Llyfr gan Carolus Linnaeus: 'Species Plantarum'; cyhoeddwyd gan Holmiae. (Laurentii Salvii), 1753.
  3. Gwefan saesneg Celsus, de Medicina, Cyfieithiad
  4. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am seleri
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato