Yn sgil Chwyldro Ffrengig 1789: Cyfieithu radicalaidd i’r Cymry1
Ddinesydd,
Os bernwch fod yn y llinellau isod ryw beth a fyddai, naill a’i er addysg a’i pleser i’m
cydwladwyr, y mae i chwi ryddid i’w gwneuthur yn gyhoedd, drwy gaffael o honynt le
yn eich Cylchynol Drysorfa: Hyderu yr wyf, y bydd i chwi a’m Cydwladwyr hynaws,
gyd-ddwyn a llawer o feiau, oblegid, er fod y cyfieithydd yn hen ac yn benllwyd o ran
dyddiau, nid ydyw ond ieuangc yn y gelfyddyd o gyfieithu. Ni fernais yn addas chwilio
am hen eiriau caledion, tywyll ac anystwyth, y rhai sydd yn peri diflasrwydd i’r cyffredin,
ar bethau buddiol a da: Ac ni fedraf fi weled fod y cyfryw ddull er harddwch, na
gogoniant i’r hen fam Iaith; i’r hon y mae gennyf gymmaint o barch a neb i’m cenedl. 2
Dyma ddechrau’r neges a anfonodd ‘Eiddil’ o’r ‘Glyn-dyfroedd Hyfryd’ at olygydd y
Geirgrawn ar 8 Hydref 1796 i gyflwyno ei gyfieithiad, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Lawscrif-lyfr a gafwyd yn Llyfr-gell y diweddar Frenhin Ffraingc’. Y mae’r cyflwyniad a’r testun
ill dau’n arwyddocaol o ran cyfieithu ac ysgrifennu gwleidyddol radicalaidd yn sgil Chwyldro
Ffrengig 1789. Datgana’r cyfarchiad gweriniaethol newydd, ‘Ddinesydd’, duedd wleidyddol
yr awdur yn glir.3 Yng nghorff y cyflwyniad esbonia Eiddil ei fod am addysgu’r werin yn
ogystal â hyrwyddo’r Gymraeg y mae ef am ei gweld ‘yn ei gem-wisg aur’, wedi ei gwisgo â
geiriau heirdd.4 Pwysleisia ei awydd i Gymreigio testun ei ffynhonnell a’i gartrefoli i
gynulleidfa benodol, ‘y cyffredin’ neu’r werin Gymraeg. Golyga hyn iddo ddefnyddio geiriau
a phriod-ddulliau cyffredin ar lafar gwlad.5 Yn hyn o beth cysyllta radicaliaeth wleidyddol â
chenedlaetholdeb diwylliannol, gan felltithio’r Saesneg fel tarddle llygru’r Gymraeg, ac y
mae’n amcanu at ‘feddygyniaethu ei madredig friwiau’ drwy ei waith cyfieithu.6 Ceir
datganiadau tebyg yn rhageiriau ambell gyfieithydd radicalaidd arall, a’r amcan didactig,
1
Yr wyf yn ddiolchgar i Dr Gwen Gruffudd a Dewi Huw Owen am sylwadau ar y testun, a Dr Heather Williams
am ei chyfraniad i brosiect cysylltiedig â’r ysgrif hon.
2
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr a gafwyd yn Llyfr-gell y diweddar Frenhin Ffraingc’, Y
Geirgrawn, IX (1796), 274–5.
3
Am sylwadau ar y para-destunau hyn, gweler Marion Löffler, Welsh Responses to the French Revolution.
Press and Public Discourse (Cardiff, 2012), tt. 12–13; am esiamplau eraill gweler ibid., tt. 157, 205, 275.
4
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr’, 274.
5
Am sylwadau John Jones (Jac Glan-y-Gors) i’r un perwyl, gweler ei ragdraeth i Seren tan Gwmmwl, ym
Marion Löffler (gyda Bethan Jenkins), Political Pamphlets and Sermons from Wales 1790–1806 (Cardiff,
2014), tt. 111–12.
6
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr’, 275.
1
addysgiadol yn amlwg. Dengys nodweddion yr awdur ei hun, ‘yn hen ac yn benllwyd o ran
dyddiau’ ond yn ‘ieuangc yn y gelfyddyd o gyfieithu’, yr ehangiad yng nghylch y cyfranwyr i
gynnwys y sawl nad oedd erioed wedi cyfrannu at drafodaeth gyhoeddus a’r sawl oedd yn
mynd at y gwaith o gyfieithu am y tro cyntaf. Fel yn Lloegr, democrateiddiwyd y ddisgẃrs
gyhoeddus a’i hiaith yn sgil Chwyldro 1789 i gynnwys awduron a chyweiriau mwy gwerinol
nag o’r blaen. Yn wahanol i Loegr, bu i gyfieithu rhyngieithol rôl bwysig yn y proses hwn yng
Nghymru.
Eiddil a’r Haft Payka
Cyfieithiad yw cyfraniad Eiddil, fel llawer o’r testunau gwleidyddol a gyhoeddid yng Nghymru
cyn diwedd Rhyfeloedd Napoleon, yn fwy aml na pheidio mewn cysylltiad â’r ddau genre
newydd a ddatblygodd yn y Gymraeg yr adeg hon, y cylchgrawn a’r pamffled. Testun Saesneg
yw’r ffynhonnell, er ei fod wedi tarddu yn bell i ffwrdd o Loegr, yn ddaearyddol ac ieithyddol.
Ar wahân i ychydig iawn o eithriadau, trosglwyddwyd syniadau newydd yr Ymoleuo a’r
Chwyldro Ffrengig i’r Cymry wedi eu hidlo drwy iaith a disgyrsiau Lloegr, gan ffurfio’r elfen
derfynol mewn cadwyn ‘cyfieithu dilynol’ i sawl iaith.7 Dewisodd Eiddil drosi ensiampl neu
foeswers o’r Haft Payka, cerdd Bersiaidd ganoloesol, er nad yw hyn yn amlwg yn nheitl y darn,
a’i anfon at y Geirgrawn.8 Yn y chwedl, y mae’r werin bobl wedi codi mewn gwrthryfel yn
erbyn y brenin ifanc Bahrām V Gōr a orddibynnodd ar ei gynghorydd i’w llywodraethu. O
ganlyniad i sgwrs â bugail sydd newydd grogi ei gi am droi’n llofrudd defaid yn lle bugeilio’r
Am ‘gyfieithu dilynol’, h.y. ‘relay translation’, o un iaith i sawl iaith arall yn olynol, gweler James St André,
‘Relay’, ym Mona Baker a Gabriela Saldanha (goln.), Routledge Encyclopedia of Translation Studies (2il arg.,
Abingdon, 2009), tt. 230–2. Am esiamplau eraill, gweler Marion Löffler, ‘The Marseillaise in Wales’, yn MaryAnn Constantine a Dafydd Johnston (goln.), ‘Footsteps of Liberty and Revolt’: Essays on Wales and the French
Revolution (Cardiff, 2013), tt. 99–101; Heather Williams, ‘Cymru, y Chwyldro Ffrengig a Gwyn Alf Williams:
Ailasesu’r Dystiolaeth’, Llên Cymru, 35 (2012), 181–5.
8
Nizami Ganjavi, The Haft Paykar. A Medieval Persian Romance. Translated with an Introduction and Notes
by Julie Scott Meisami (Indianapolis, 2015), tt. xix–xx.
7
2
praidd, y mae’r brenin ifanc yn dienyddio ei gynghorydd bradwrus ac yn adfer heddwch. Dyma
hefyd yw llif naratif Eiddil. Honiad Eiddil yn y pennawd yw mai o ‘Law-scrif-lyfr a gafwyd
yn Llyfr-gell y diweddar Frenhin Ffraingc’ y daeth y testun ffynhonnell. Er y cyhoeddasid
cynnwys llyfrgell brenin Ffrainc ym 1789 a’i gyfieithu i’r Saesneg (gyda gofal, yn ôl y
cyfieithydd, ‘to render it faithful’), ni cheir y chwedl yn y ddwy gyfrol. 9 Dyfais er mwyn
cysylltu’r ensiampl â hanes diweddar Ffrainc oedd y cyd-destunoli ffug hwn, mwy na thebyg;
a’r chwedl wedi ymddangos mewn cylchgronau Saesneg ers 1770, o dan benawdau megis
‘Historical Anecdote. A Young King of Persia taught Wisdom by a Shepherd’. 10 Dengys y
cyfieithiad yn glir mai’r rhain oedd ffynonellau Eiddil, ond erbyn iddo droi’r ensiampl i’r
Gymraeg, yr oedd ganddi ystyr ychwanegol. Methasai brenin Ffrainc wrando ar gyngor y bobl
gyffredin ar adeg gynhyrfus, gan golli ei wlad a’i fywyd o ganlyniad ym 1793. Erbyn 1796, yr
oedd y chwedl hefyd yn rhybudd i lywodraeth Lloegr a fu’n ceisio llethu’r mudiad grymus er
diwygio system wleidyddol y wlad yn ogystal â darostwng y terfysgoedd prinder bwyd a’r
gwrthwynebiadau ffyrnig i’w presgangiau oedd am orfodi rhagor o ddynion cyffredin i ymuno
â’r rhyfel yn erbyn y weriniaeth newydd.11
Fel gyda’i gyfarchiad a’i deitl, y mae Eiddil yn siapio ei destun yn ofalus yn ôl ei
argyhoeddiad gwleidyddol, gan ychwanegu at y ffynhonnell mewn ychydig fannau, i
gymhwyso’r ensiampl Bersiaidd i wleidyddiaeth y Brydain fodern a chryfhau’r neges
radicalaidd. ‘Vizir’ yw’r gair a ddefnyddir yn y ddau destun ffynhonnell Saesneg am y
cynghorydd drwyddi draw, heb esbonio’r swydd mewn cyd-destun Ewropeaidd a chan
Accounts and Extracts of the Manuscripts in the Library of the King of France. Published under the Inspection
of a Committee established by the Royal Academy of France. Translated from the French (London, 1789), t. ii.
10
‘A young King taught wisdom by a shepherd’, The Oxford Magazine. Or Universal Museum, 5 (Medi 1770),
107; ‘Historical Anecdote. A Young King of Persia taught Wisdom by a Shepherd’, The London Magazine, or
Gentleman’s Monthly Intelligencer, 47 (Tachwedd 1778), 503–4. Y mae bodolaeth rhagor o destunau
ffynhonnell yn bosib, gan fod cylchgronau’r cyfnod yn rhannu a dyblygu deunydd yn rhydd.
11
Pasiwyd rhes o ddeddfau i wahardd y ddisgẃrs gyhoeddus o 1792 ymlaen, e.e. Royal Proclamation against
Seditious Writings, 21 May 1792; Habeas Corpus Suspension Act 1794 (34 Geo. III: c. 54); Seditious Meetings
Act 1795 (36 Geo. III: c. 8); Treasonable and Seditious Practices Act 1795 (36 Geo. III: c. 7); Habeas Corpus
Suspension Act 1798 (38 Geo. III: c. 36); Habeas Corpus Suspension Act 1799 (39 Geo. III: c. 15).
9
3
ddefnyddio’r gair estron fel arwydd o wreiddiau dwyreiniol y chwedl. Cyhoeddwyd anecdotau
tebyg yn fynych mewn cylchgronau Saesneg, yn adrodd am wledydd pellennig, yn addurno
bywgraffiadau enwogion y byd, ac yn cyfleu moeswersi cyffredinol. Yn y testun Cymraeg ceir
eglurhad ychwanegol wrth adrodd y ffaith fod y brenin ifanc wedi rhoi ‘gofal ei lywodraeth
i’w weinidog pennaf (Vizir, neu Prime Minister)’, cyn rhoi’r collfarniad, ‘yr hwn a feddyliodd
nad oedd raid iddo yntef byth ofalu am roddi cyfrif o’r oruchwyliaeth’. 12 Esbonnir mewn
termau cyfoes Cymraeg a Saesneg mai ‘gweinidog pennaf’ neu ‘Prime Minister’ yw y ‘vizir’
hwn, a thrawsblannu’r ffigwr i rôl wleidyddol Brydeinig. Cyfieithiad o’r ‘Prime Minister’, sef
‘prif Weinidog’, a geir drwy gydol y testun wedyn, fel petae Eiddil am i’r gynulleidfa
ymgyfarwyddo â’r term gwleidyddol hwn a ganfu, o bosib, yng ngeiriadur John Walters.13 Yn
lle gwarchod ‘bydd [sic] y Cyffredin’, camarferodd y Prif Weinidog hwnnw ei ‘awdurdod’, a
chododd pobl Persia mewn gwrthryfel yn ei erbyn. O ganlyniad, ‘all forts of order, justice and
œconomy, were now no more’, yn ôl y testun Saesneg.14 Ehanga Eiddil ar hyn hefyd i esbonio:
Nid oedd un math o drefn yn cael ei chynnal, cyfiawnder heb gael lle mewn dim; nag
un math o gyssondeb (œconomy) Llywodraethol yn cael ei arferyd.15
Diddorol gweld bod Eiddil yn cynnig gair Cymraeg am ‘œconomy’, gan geisio creu term sy’n
cysylltu hyn â gwlad a llywodraeth. Gwaetha’r modd, nid ydym yn gallu bod yn sicr mai
‘cysondeb llywodraethol’ yn ei ystyr gwleidyddol y bwriadai ei ddatgan.
Ychwanega Eiddil at y testun Saesneg hefyd pan ddaw hi at newid meddwl y brenin
ifanc er gwell. ‘He roused himself from his lethargy’, meddai’r ddau destun Saesneg, ond
‘dechreuodd arffed diofalwch a menyweidd-dra (effeminacy)’, medd Eiddil. Cysylltid
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr’, 275–6.
John Walters, An English-Welsh Dictionary, Wherein not only the Words, but also the Idioms and
Phraseology of the English Language, are carefully translated into Welsh, by proper and equivalent Words and
Phrases (London, 1794), d.g. ‘prime minister’.
14
‘A young King taught wisdom’, 107; ‘Historical Anecdote’, 503.
15
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr’, 276.
12
13
4
‘menyweidd-dra’ â chwedlau orientalaidd yn nhestunau Saesneg y cyfnod, ond yr oedd hefyd
yn arwydd o ddiogi ac anlladrwydd cylchoedd brenhinol Ewropeaidd.16 Yn ôl Geiriadur
Prifysgol Cymru,17 dyma’r tro cyntaf i’r gair ddigwydd mewn cyhoeddiad Cymraeg, ac er nad
yw’n dderbyniol (bellach), rhaid cydnabod ymdrech y cyfieithydd i fynegi cysyniad oedd yn
amlwg yn y wasg boblogaidd Saesneg ar y pryd, gan ei ddefnyddio i gryfhau ei gollfarniad ar
ymddygiad y brenin. Ar ddiwedd yr ensiampl, newidir y foeswers yn syfrdanol gan Eiddil drwy
ddewis berf wahanol ac felly wrthdroi cyfeiriad gweithredu’r frawddeg. ‘The misfortunes of
the multitude will always fall upon the governor or leader’,18 meddai’r bugail Persiaidd yn y
testunau Saesneg. I’r Cymry, y mae Eiddil yn gosod tarddiad y drwg gyda’r sawl sydd mewn
awdurdod:
Cyfyngderau’r bobl, ebr y bugail, sydd bob amser yn ymgyfodi oddiwrth ddrwg
ymddygiad y rhai hynny a fyddont wedi cael eu gosod uwchlaw iddynt.19
Y mae cystudd y bobl gyffredin yn tarddu oddi wrth y sawl sy’n eu llywodraethu. Hwy sydd
wrth wraidd y drwg, ac felly troir neges y testun ffynhonnell y tu chwith allan. Ond y mae gan
y werin gyffredin bŵer hefyd. O ganlyniad i gyngor y bugail, a dienyddio’r cynghorydd
bradwrus:
Trefn dda a rheolau addas a adferwyd yn Persia; a’r brenhin a ddysgodd, trwy’r bugail
diniweid, pa fodd y dylai tywysogion lywodraethu eu deiliaid.20
Newidia Eiddil y cymal olaf sydd yn cyfleu’r foeswers. Yn lle y ‘mankind’, h. y. ‘dynolryw’,
dysga’r tywysog sut i lywodraethu ei ‘[dd]eiliaid’, gan gyfeirio yn fwy penodol at frenin
Prydain a’i ddeiliaid. Osgoir cyfieithu ‘poor shepherd’ yn uniongyrchol. Yr oedd i’r rhan fwyaf
o ystyron yr ansoddair ‘poor’ ystyr negyddol, gan gynnwys ‘mean’, ‘narrow’ a
Samuel Johnston, A Dictionary of the English Language (6ed arg., London, 1785), d.g. ‘effeminacy’.
Geiriadur Prifysgol Cymru [GPC], d.g. ‘menyweidd-dra’.
18
‘A young King taught wisdom’, 107; ‘Historical Anecdote’, 503.
19
‘Eiddil’, ‘Hanes a gymmerwyd allan o Law-scrif-lyfr’, 276.
20
Ibid., 276.
16
17
5
‘contemptible’.21 Dewisodd ‘diniwed’ yn hytrach, ansoddair positif â chysylltiadau beiblaidd
cryf,22 sy’n dyrchafu’r bugail ymhellach. Y mae’n siŵr fod pwysigrwydd trosiad y bugail mawr
a amddiffynna’r praidd dynol rhag y bleiddiaid, a gymhathwyd i’r sefyllfa wleidyddol yn
nhestunau eraill y cyfnod,23 wedi ychwanegu at atyniad y testun Saesneg i Eiddil, ac at bŵer
gwleidyddol-grefyddol y foeswers hon yng Nghymru.
Yn fwy cyffredinol, amlygir y berthynas ymerodraethol a threfedigaethol rhwng y
diwylliannau perthynol i gadwyn cyfieithu dilynol y chwedl hon o’r Bersieg i’r Saesneg
(drwy’r Ffrangeg o bosib) ac yna o’r Saesneg i’r Gymraeg. Gadawyd olion clir o ddiwylliant
estron ‘orientalaidd’ yn fersiwn yr iaith bontio, Saesneg, er mwyn cadw pellter, o bosib, a
phwysleisio’r elfen egsotic, israddol. Yn y Gymraeg, ar y llaw arall, cartrefolir y chwedl i
raddau pell gan ei chymhathu i’r dirwedd wleidyddol Brydeinig yr oedd Cymru yn rhan ohoni
er mwyn ei beirniadu, fel y dengys cyfarchiad a chyflwyniad Eiddil a’r cyd-destun yn y
cylchgrawn radicalaidd Y Geirgrawn.24 I’r sawl sydd yn ystyried cyfieithu yng nghyd-destun
astudiaethau ôl-drefedigaethol, y mae hi’n werth ystyried taith y chwedl ganoloesol hon o’r
Bersia ddwyreiniol. Mewnforiwyd hi i’r Ewrop freniniaethol yn sgil trefedigaethu Persia gan
sawl pŵer Ewropeaidd, ond canfu gartref ac ystyr gwleidyddol newydd mewn iaith
drefedigaethol ar gyrion gorllewinol Ewrop wedi Chwyldro 1789.
Jac Glan-y-gors a syniadau gweriniaethol Thomas Paine
Er bod testunau ffynhonnell cyfieithwyr adeg y Chwyldro Ffrengig fel arfer yn tarddu’n
agosach, rhannent nodweddion pwysig eu gwaith ag Eiddil. Defnyddient eu gallu ieithyddol
Johnston, A Dictionary of the English Language, d.g. ‘poor’.
GPC, d.g. ‘diniwed’.
23
Gweler, e.e., [Thomas Evans], ‘HYMN i’w chanu ar ddydd ympryd gan gyfeillion dynolryw’, The
Miscellaneous Repository: Neu, Y Drysorfa Gymmysgedig, I (1795), 16–18.
24
Am y Geirgrawn, gweler Löffler, Welsh Responses, tt. 29–35.
21
22
6
a’r traddodiad a etifeddasant gan gyfieithwyr y Beibl i’r Gymraeg er mwyn cymhathu
negeseuon gwleidyddol radicalaidd o America, Ffrainc a Lloegr i dirwedd feddyliol y Cymry.
Dim ond rhyw ychydig o destunau a droswyd yn y dull hwn yn ystod y ddeunawfed ganrif,
ond yr oedd digon ohonynt i barhau’r traddodiad o Gymreigio (h. y. cartrefoli) testunau, a
datblygu’r arfer o fathu geiriau gwleidyddol a’u hesbonio, yn fynych mewn nodiadau neu
rhwng cromfachau, fel y gwelwyd yng nghyfieithiad Eiddil. Yn sgil Chwyldro Ffrengig 1789,
cynyddodd nifer y cyhoeddiadau a’r cyfieithiadau gwleidyddol Cymraeg yn sydyn ac yn
sylweddol. Amcangyfrifir erbyn hyn fod o leiaf dri deg y cant o destunau’r cylchgronau
Cymraeg radicalaidd eu naws a gyhoeddwyd rhwng 1793 a 1796 yn drosiadau o’r Saesneg,25
a chyfieithwyd mwy nag ugain o bamffledi gwleidyddol i’r Gymraeg. Defnyddid cyfieithu gan
radicaliaid crefyddol a gwleidyddol i ledaenu’r syniadau chwyldroadol, ond hefyd gan
gynrychiolwyr swyddogol ac answyddogol y frenhiniaeth a’r wladwriaeth Brydeinig fel
offeryn i gadarnhau pŵer y wladwriaeth ac atal unrhyw newidiadau i’r status quo. Priodolid
cryn bŵer i’r weithred o gyfieithu yn gyffredinol yn y gymdeithas drefedigaethol ddwyieithog
hon ar adeg o ddadymchwel gwleidyddol sylweddol, fel y tystia’r ddisgẃrs am gyfieithu, y
gofyn am gyfieithiadau, yr ofn a ddangosid tuag at y weithred, a hefyd yr ymatebion llenyddol,
diwylliannol ac ymarferol i gyfieithiadau’r dydd.
Ar frig rhestr awduron radicalaidd y Chwyldro Ffrengig yr ofnid eu dylanwad hwy ar
feddwl deiliaid brenhiniaeth Prydain Fawr yr oedd y gweriniaethwr Thomas Paine. Bu ei
weithiau yn sbarduno disgẃrs wleidyddol newydd ers cyhoeddi Common Sense ym 1776, er
gwaethaf ymgyrchoedd eang a hir y wladwriaeth i wahardd ei lyfrau a’i ddedfrydu am enllib
gwrthryfelgar. Yng Nghymru’r 1790au, dadansoddwyd ef fel offeryn Duw mewn
Hywel M. Davies, ‘“Transatlantic Brethren”: A Study of English, Welsh and American Baptists with
Particular Reference to Morgan John Rhys (1760–1804) and his Friends’ (traethawd PhD anghyhoeddedig
Prifysgol Cymru, 1984), t. 329; Löffler, Welsh Responses, tt. 46–7.
25
7
almanaciau,26 condemniwyd ei waith mewn barddoniaeth deyrngarol,27 cyhoeddwyd pamffledi
a thaflenni yn ei erbyn,28 dinistriwyd gweithiau oedd yn ei efelychu a chrogwyd ei ddelw yn
gyhoeddus.29 Yn anad dim, ofnid y posibilrwydd o fodolaeth ei syniadau gweriniaethol ac
ymoleuol ef a’i debyg yn y Gymraeg, i’r Cymry eu derbyn, eu deall a’u gweithredu. 30 Mor
ddwfn a hirhoedlog y bu’r ofn, daeth yn rhan o’r naratif deallusol ar ryddiaith wleidyddol
Saesneg y cyfnod. Yr unig sylw a geir gan Gregory Claeys am Gymru ar ddechrau wyth cyfrol
o bamffledi gwleidyddol y cyfnod, yw bod datblygiadau yno yn dywyll, gan adrodd, serch
hynny, am fodolaeth si ym 1792 ‘that the Rights of Man was being distributed for free in a
Welsh translation, though no copy of this seems to have survived’.31 Gwyddom i adroddiadau
hysterig ar derfysg Dinbych Ebrill 1795 bwysleisio bod y dorf dan arweiniad un John Jones o
Aerddren ger Llangwm,32 ‘who in their own Language echoed the sentiments of Payne and his
Jacobin Crew’.33 Condemniwyd y Jones hwn hefyd fel gohebydd â’r Siacobin John Thelwall,
gan ei gyhuddo o siarad ‘the true Language of Democracy’, yn y Gymraeg. 34 Carcharasid
Thelwall ym mis Mai 1794, a chanddo yntau lythyr yn ei feddiant ‘without any address’ gan
un John Jones o Feirionnydd, a ddefnyddiwyd i geisio profi teyrnfradwriaeth ar ran Thelwall
o’i gynnwys, sef cais y Jones hwn i gyfieithu ‘some of the papers of the Corresponding Society
... into Welch for the information of the inhabitants of Wales’, a hefyd ‘the works of Paine ...
Löffler, Welsh Responses, tt. 80–3.
‘Cân Twm Paen’, yn Cathryn A. Charnell-White, Welsh Poetry of the French Revolution, 1789–1805
(Cardiff, 2012), t. 252.
28
Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 13, 26, 52–4.
29
Löffler, Welsh Responses, tt. 16, 138, 173; Frank O’Gorman, ‘The Paine Burnings of 1792–1793’, Past &
Present, 193 (2006), 111–55.
30
John James Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig ar Lenyddiaeth Cymru (Lerpwl, 1928), tt. 11–15; Löffler,
Welsh Responses, tt. 23–4, 50 –1; eadem (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 52–4; Charnell-White, Welsh
Poetry, tt. 14–19.
31
Gregory Claeys, ‘General Introduction’, yn idem (gol.), Political Writings of the 1790s. Volume 1: Radicalism
and Reform: Responses to Burke 1790–1791 (London, 1995), t. lv, troednodyn. Diddorol gweld haneswyr
radicaliaeth yr Alban yn atgynhyrchu si tebyg am fodolaeth trosiad Gaeleg o Rights of Man mewn llawysgrif
nad oedd dim un o’r awduron erioed wedi ei gweld.
32
W. Lloyd Davies, ‘The Riot at Denbigh in 1795’, Bwletin Bwrdd Gwybodau Celtaidd, 4 (1927), 62–3.
33
Hester Piozzi at Hester Maria Thrale, 3 Ebrill 1795, yn Edward A. Bloom a Lillian D. Bloom (goln.), The
Piozzi Letters (6 chyf., Newark, 1989–2002), II, t. 256. Yr wyf yn ddiolchgar i Dr Elizabeth Edwards am y
cyfeiriad hwn.
34
Ibid.
26
27
8
and that there were people there who had too much spirit to be trampled upon by R—l rogues’.35
Nid oes sicrwydd pa John Jones oedd awdur llythyr ymfflamychol 1794, a phwy a arweiniodd
dorf derfysgaidd Dinbych ym 1795, neu’n wir, ai’r un dyn ydynt. 36 Beth sydd yn sicr yw bod
pob tu gwleidyddol – radicaliaid a theyrngarwyr – wedi priodoli grym eithriadol i’r weithred o
Gymreigio syniadau gweriniaethol Thomas Paine a’i griw o Siacobiniaid.
Er bod cryn ansicrwydd ai John Jones, Jac Glan-y-gors, oedd awdur y llythyr at
Thelwall, ac er y’i cyfrifir fel baledwr gan fwyaf, amlygir yn ei waith ei fod yn un o brif
ladmeryddion syniadau gweriniaethol i iaith gwerin Cymru. Rhoddodd y proses o olygu dau
bamffled Jac Glan-y-gors a’u cyfieithiadau i’r Saesneg gyfle i mi astudio gwaith y ddau, Jac
Glan-y-gors a Thomas Paine, yn fanwl er mwyn canfod a oedd sail i’r si am fodolaeth
cyfieithiad o waith Paine i’r Gymraeg ac ystyried ystod a chyfeiriad dylanwad y gweriniaethwr
Saesneg enwog ar ysgrifennu Jac Glan-y-gors.37 Fy nghasgliad i oedd fod Seren tan Gwmmwl
a Toriad y Dydd, fel cyfanwaith, yn gymysgedd o gyfieithu rhyngieithol, o addasu, ac o
ysgrifennu ymlaen i gyfeiriad diwylliant brodorol Jac, oll o dan ddylanwad syniadaeth Paine,
yn anad dim. O’r tro cyntaf y trafodwyd Seren tan Gwmmwl yn y Geirgrawn ym 1796 tan yn
ddiweddar, y mae’r nodweddion sy’n pwyntio at gyfieithu rhyngieithol wedi dod dan lach o
bob tu. Agorwyd yr ymosodiadau ar Seren tan Gwmmwl yn y Geirgrawn gan ‘Antagonist’, sef
Edward Charles (Siamas Wynedd), yn cyhuddo’r testun o fod ‘megys crippyl, braidd yn
hollawl ymlusgo, wrth nerth baglau gwyr eraill’, sef awduron Saesneg,38 a chysylltwyd hyn â’r
cyhuddiad o ddeistiaeth gan ‘Peris’, sef Peter Bailey Williams, gan fod ‘Sion Jones,
Cyfieithydd y “Seren tan Gwmmwl” ... yn gwrthwynebu pob math o grefydd a Duwioldeb; fal
Hereford Journal, 10 Rhagfyr 1794; ‘The Trial of John Thelwall ([1794])’, yn John Barrell a Jon Mee (goln.),
Trials for Treason and Sedition, 1792–1794 (8 cyf., London, 2008), VIII, t. 32.
36
Nid oes copi o’r llythyr wedi ei ddarganfod, a hebddo, y mae’n anodd profi awduraeth. Y mae’n bosib i John
Jones, Aerddren, neu John Jones (Jac Glan-y-gors), ysgrifennu’r llythyr. Am farn Davies gweler ‘The Riot’, 63.
37
Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 55–61, 111–91.
38
Antagonist, ‘GOLWG BYR AR Y LLYFR A ELWIR SEREN TAN GWMMWL a gyhoeddwyd yn Llundain yn
y flwyddyn, 1795’, Y Geirgrawn: Neu Drysorfa Gwybodaeth, I (1796), 16; Gweler hefyd Löffler, Welsh
Responses, t. 255.
35
9
ag y mae Tom Paine wedi gosod allan, yn eglur yn ei lyfr, a elwir Age of Reason neu Oes
Rheswm’.39 Amddiffynnwyd y testun yn yr un ddisgẃrs wrth-gyfieithu: ‘Nid ydwyf ddim yn
meddwl i’r dyn hwnnw erioed ganlyn Thomas Paine, ac nid ydyw rhediad ymadroddion y llyfr
ddim yn debyg i gyfieithiad’ oedd ateb ‘Carwr Rheswm’ i’r ymosodiadau.40 Ym 1928, barnwyd
gan awdur y gyfrol Gymraeg gyntaf ar effaith Chwyldro Ffrengig 1789 ar Gymru, ‘nad yw
deuparth y Seren Tan Gwmmwl yn ddim amgen na chrynodeb o’r llyfr Saesneg [Rights of Man]
... a gwyddai cystal â neb nad oedd y Seren ddim yn gyfraniad newydd mewn athroniaeth
wleidyddol’.41 Yn hytrach na holi am gyd-destun ac amcan y ddau bamffled, condemniwyd
hwy fel gweithiau eilradd a halog, am eu bod yn gysylltiedig â’r weithred o gyfieithu. Mewn
cyferbyniad, ac er cydnabyddiaeth gyffredinol o ddylanwad syniadau Paine ar gewri’r cyfnod
– yn eu plith Benjamin Franklin a George Washington – nid ystyrir y llu o destunau Saesneg
sy’n seiliedig ar waith arloesol Paine ac yn adlewyrchu ei arddull a’i iaith, yn ddiwerth am fod
yn gyfieithiadau neu’n addasiadau mewnieithol Saesneg.42 Bai Jac Glan-y-gors oedd
trosglwyddo’r syniadau a’u haddasu i gywair gwerinol iaith drefedigaethol ac ar gyfer pobl a
diwylliant nad ystyriwyd hyd yn oed yn fygythiad. Am iddo geisio canfod ffordd fywiog,
werinol o fynegi syniadau chwyldroadol yn yr iaith Gymraeg, y mae ymdrech Jac Glan-y-gors
yn fwy yn hytrach nag yn llai nag eiddo’r sawl a arhosodd y tu mewn i ffiniau’r Saesneg. Dim
ond yn ddiweddar y dechreuwyd gosod gwaith Jac ar yr un lefel â’r rhai Saesneg. Er bod
Damian Walford Davies, er enghraifft, yn barnu bod rhai darnau yn Seren tan Gwmmwl yn
‘straight translations’, y mae’n cyfri’r cyfan yn ‘racy Welsh Paineite tract’, gan amlygu
Peris, ‘Y Golygwr’, Y Geirgrawn: Neu Drysorfa Gwybodaeth, V (1796), 144.
Carwr Rheswm, ‘Golwg ar Ymddiffiniad Peris o Frenhinoedd, Esgobion, etc. At Gyhoeddwr y Geirgrawn’, Y
Geirgrawn: Neu Drysorfa Gwybodaeth, VI (1796), 237. Gweler hefyd Löffler, Welsh Responses, tt. 49–51;
eadem (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 55–61.
41
Evans, Dylanwad y Chwyldro Ffrengig, t. 149.
42
Gweler, e.e., Gregory Claeys, The French Revolution Debate: The Origins of Modern Politics (Basingstoke,
2007); Janes Hodson, Language and Revolution in Burke, Wollstonecraft, Paine, and Godwin (Aldershot,
2007).
39
40
10
gwreiddioldeb y defnydd a wnaed o stori Gwrtheyrn.43 Nid oedd gwreiddioldeb Jac Glan-ygors yn gyfyngedig i’r darnau a gyfansoddodd yn y Gymraeg yn unig, serch hynny. Amlygodd
ei ddawn hefyd yn y darnau a oedd yn seiliedig ar destunau ffynhonnell Saesneg.
Nodir yn Political Pamphlets and Sermons from Wales y rhannau o Seren tan Gwmmwl
a Toriad y Dydd sy’n gyfieithiadau o frawddegau, o ddarnau cyfan neu o ddelweddau a
throsiadau o weithiau cyhoeddedig Paine, wedi eu cartrefoli i’r Gymraeg. 44 Y mae’n
arwyddocaol fod un ohonynt, darn o gyfrol gyntaf Rights of Man,45 wedi ei osod yng nghanol
testun Seren tan Gwmmwl, yn uchafbwynt bywiog, diriaethol ac uniongyrchol ei arddull. Egyr
testun Seren tan Gwmmwl ag esboniadau ar rôl brenhinoedd yn y Beibl a hanes cywilyddus y
brenin Cymreig Gwrtheyrn, cyn symud i’r darn canolog ar natur gyffredinol breniniaethau
etifeddol, ac yna i ail ran y pamffled, sef hanes brenhinoedd Lloegr, llywodraeth Lloegr, a’r
cysylltiadau rhwng rhyfel, trethi a thlodi yn y deyrnas. Tystia’r darn canolog i strategaeth Jac
o fynegi cysyniadau gweriniaethol haniaethol Saesneg mewn ffordd y gellid eu hadwaen gan
werin Gymru. ‘Ymgais yr awdur oedd ysgrifennu at ddealltwriaeth pob Cymro’, gan
ddefnyddio geiriau ‘gordderchaidd’ heb fod yn rhy lenyddol i’r werin eu ddeall, yn ôl rhagair
Jac.46 Felly, cadwodd drosiad cyffredinol y goron yn y darn, ‘a thing in imagination’ yn ôl
Paine, a’r thema o hud a lledrith perfformwyr cyhoeddus y mae’r gynulleidfa yn eu gwylio ac
yna’n talu am eu perfformiad, eu hesgus o realiti. Ond newidir ieithwedd a chynnwys y testun
yn syfrdanol drwy eu haddasu i ddiwylliant y Cymro cyffredin, tlawd, ac i amgylchiadau’r
rhyfel nad oedd wedi cychwyn eto pan bennwyd Rights of Man yn ateb i bamffled gan Edmund
Burke. Disodlir y cwestiynau rhethregol a ddefnyddir yn fynych gan Paine gan atebion; yn lle
Damian Walford Davies, Presences that Disturb. Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of
the 1790s (Cardiff, 2000), tt. 76–8.
44
Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 56–7; 156 nn. 25, 33; 157 n. 42; 189 nn. 2, 3, 4, 6, 8, 14.
45
Thomas Paine, Rights of Man Being an Answer to Mr Burke’s Attack on the French Revolution, yn Mark
Philp (gol.), Thomas Paine. Rights of Man, Common Sense and Other Political Writings (Oxford, 1998), tt.
172–5.
46
Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 111–12.
43
11
sôn am atwrneiod a dosbarthu eiddo ‘B’ i ‘C’ gan ‘A’ drwy wneud ewyllys, ceir esiamplau a
throsiadau o fywyd cyffredin; yn lle rhestru cysyniadau haniaethol ceir cymariaethau
diriaethol. Yn dilyn ystyriaethau cyffredinol am freniniaethau etifeddol, er enghraifft, gofynna
Paine res o gwestiynau rhethregol yn ei destun:
But, after all, what is this metaphor called a crown, or rather what is monarchy? Is it a
thing or is it a name or is it a fraud? Is it ‘a contrivance of human wisdom’, or of human
craft to obtain money from a nation under specious pretences? Is it a thing necessary to
a nation? If it is, in what does that necessity consist, what services does it perform, what
is its business, and what are its merits? Doth the virtue consist in the metaphor, or in
the man? Doth the goldsmith that makes the crown, make the virtue also? Doth it
operate like Fortunatus’s wishing-cap, or Harlequin’s wooden sword? Doth it make a
man a conjuror? In fine what is it?47
Atebion a geir yn rhan fwyaf o’r testun Cymraeg sy’n llawer iawn yn hwy, a Jac yn uniaethu
â’i gynulleidfa am yr unig dro yn ei bamffled drwy ddefnyddio ‘ni’ pan fo’n cyfaddef nad yw
ef yn deall ychwaith sut, drwy ‘ryw rinwedd ryfeddol o’r tywyll i ni, ag sydd yn y tegan a elwir
y goron’, y gwneir dyn yn frenin. Ei gollfarniad yw:
Nid ydyw’r goron ddim ond rhyw degan a debygir ei fod ar ben y brenin; ac yr ydys yn
rhoddi’r tegan yma ar ben dyn a fyddir yn amcanu gwneuthur brenin o hono. Felly pan
roddir y tegan yma ar ben dyn, ac i’r esgobion wneuthur araith wrth ei ben ef, a gwneud
iddo dyngu rhyw ychydig; (ac yr ydwyf fi yn meddwl y bydd rhai’n rhegu hefyd ar yr
achos,) mae’r dyn trwy ryw rinwedd ryfeddol o’r tywyll i ni, ag sydd yn y tegan a elwir
y goron, ac yn yr araith mae’r esgobion yn ei wneud, mae dyn yn dyfod yn frenin. Mae
llawer o bethau eraill yn perthyn i’r achos pwysfawr yma: enneinio corph y dyn ag
olew, neu ei iro ef fel iro penddwyn, er bod iro cnawd dyn iach yn beth pur afreidiol;
ond os bydd rhyw beth am boen, mae pob gweithred ynfyd yn cael edrych arni’n
angenrheidiol, ac yn llesol i roi gorchgudd ar lygaid y cyffredin; felly mae’r esgobion
yn gwneuthur brenin, a’r brenin yn gwneuthur esgobion, i gael lle i lechu mewn
awdurdod, naill yng nghysgod y llall; a’r bobl yn synnu wrth edrych a thalu am eu
gweithredoedd hwy.48
Wedi disgrifio’r proses o greu brenin mewn ffordd atgas-weledol o feddygol, ceir cyffelybiaeth
rhwng y bobl sydd ynghlwm wrth y proses â pherfformwyr garw anterliwtiau, am fod ‘newid
47
Ibid., t. 175.
John Jones, SEREN TAN GWMMWL, NEU YCHYDIG SYLW AR FRENHINOEDD, ESCOBION,
ARGLWYDDI &c. A LLYWODRAETH LLOEGR YN GYFFREDIN. Wedi ei ysgrifennu er mwyn y Cymru
uniaith (Lundain, 1795), yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 119–20.
48
12
henwau pobl, wrth eu gwneuthur yn frenhinoedd, neu’n esgobion, yr un fath ag y bydd
chwaryddion Enterlute yn newid eu hunain yng Nghymru’. Yn y rhan hon – yn wahanol i waith
Paine ac ysgrifenwyr radicalaidd eraill y cyfnod – y mae’r bobl gyffredin yn siarad, gan
amlygu’r proses o dwyll:
‘Daccw’r dynion yn dyfod’; neu ‘Dyma ddyn sydd yn myned i chwareu’; ond pan
roddo’r dyn hwnnw syrcyn brith am dano, a rhyw gap ddigrifol am ei ben, ni henwir
’mo hono’n ddyn ddim yn rhagor; mi fydd yr holl blant yn dechreu galw ar eu gilydd,
ac yn dweud, ‘Dowch, dowch, i wrando, daccw’r ffwl ar y daflod’. Er nad oes fodd i
roi dim dysg, na dawn, na gwybodaeth yn y tegan a elwir yn goron, mwy nag y gellir
roi ysmaldod a digrifwch mewn cap ffwl, etto mae’r dynion a fo’n eu gwisgo hwy yn
cael henwau neillduol, ac yr ydys yn disgwyl i’r dynion a fo’n gwisgo hwy, i un fod yn
gall ac yn ddysgedig, a’r llall yn ysmala a digrifol; a phwy bynnag a ddigwyddo wisgo’r
teganau uchod, mi ddisgwylir ganddynt yr un doniau. Wrth hynny gellir meddwl mai
yn y cap, a’r goron mae’r synwyr, a’r digrifwch.49
Disodlwyd dau ffigwr estron y testun ffynhonnell a’u petheuach hudol – sef Fortunatus,
cymeriad chwedl modern cynnar a dderbyniodd bwrs diwaelod a het hudol gan dduwies
ffortiwn,50 a’r Harlequin, prif gymeriad comedïau ‘Harlequinade’ yr oedd yn cyflawni hud a
lledrith gyda’i bastwn neu gleddyf51 – gan ffŵl yr anterliwt Gymraeg. Y mae’n werth cofio i’r
anterliwt Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc, ac iddi ‘elfen bolemig’ yn ôl ei golygydd
Ffion Mair Jones, gael ei chyfansoddi tua 1795, yr un flwyddyn ag y cyhoeddwyd Seren tan
Gwmmwl, ac y mae ffŵl yr anterliwt hon yn gymeriad hyddysg sy’n darllen papurau newydd.52
Bu Jac Glan-y-gors yn teithio’n ôl ac ymlaen rhwng Llundain a gogledd-ddwyrain Cymru ac
nid yw’n amhosib i’r ddau destun ddylanwadu ar ei gilydd. Dim ond dau gwestiwn ar ddiwedd
yr ail ran sy’n weddill yn addasiad Jac, ac y maent yn cloi’r gymhariaeth o’r goron â chap y
ffŵl, gan awgrymu ateb:
John Jones, SEREN TAN GWMMWL, yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, t. 120.
Ceir chwedl Fortunatus am y tro cyntaf mewn llyfryn Almaeneg a gyhoeddwyd yn Augsburg ym 1509, yn
ymgorffori cymeriadau canoloesol. Ymddangosodd y chwedl yn Saesneg ar ffurf y ddrama ‘The Pleasant
Comedie of Old Fortunatus’ gan Thomas Dekker ym 1599.
51
David Mayer, ‘Pantomime British’, yn Dennis Kennedy (gol.), Oxford Encyclopedia of Theatre and
Performance (2 gyf.; Oxford, 2003), tt. 995–6.
52
Ffion M. Jones (gol.), Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt. Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc
gan Hugh Jones, Glanconwy (Caerdydd, 2014), tt. 3, 5.
49
50
13
Os oes neb yn meddwl fod y dynion uchod yn perchen cymmaint synwyr, a digrifwch
un heb y goron, a’r llall heb ei gap, i ba beth mae’r cap a’r goron da? I synnu pobl
gyffredin, ac i’w hudo hwy i ymadael a’u harian?53
Yn nhrydedd ran y darn, ceir esboniad ychwanegol sy’n symud y ddadl yn erbyn breniniaethau
etifeddol o’r haniaethol i’r adwaeniol, Cristnogol. Yr oedd Jac yn gwybod ‘mor hoff yw fy
nghydwladwyr ddarllen y Bibl’,54 beth bynnag oedd ei ddaliadau crefyddol ei hun. I
argyhoeddi’r Cymry, felly, yr oedd yn bwysig dadlau nad oedd doniau yn etifeddol o dan ras
Duw:
Ond mae lle gwell i ddisgwyl digrifwch gan y gwr a’r cap nag y sydd i ddisgwyl synwyr
gan wr y goron, o herwydd wrth ei anian ei hun mae dyn yn myned yn chwarydd
enterlute; un i ddeg i’w dad ef feddwl am y fath beth, nag i’w fab ef feddwl fyth am
ganu na chwareu ar ei ol ef; ond y mae’r goron yn disgyn o dad i fab, pa un bynnag ai
synhwyrol, ai peidio; ac mi wyr pawb nad yw synwyr a doniau ddim yn cerdded o dad
i fab. Ni ŵyr neb pan fo dyn doniol marw, ymha gwr i’r wlad i ddisgwyl ei ail ef. Ac
os digwydd iddynt farw heb orphen gwneuthur cerdd o un pennill, ni wiw disgwyl i’w
plant, na’u hwyrion hwy orphen hynny. Felly ynfydrwydd ydyw disgwyl i ddoniau
ganlyn yn yr un genhedlaeth. Mae’r goruchaf i ddangos ei gyfiawnder, a’i uniondeb ei
hun, yn rhoi rhyw ddoniau a synwyr neillduol i’r dyn tylottaf o ran pethau bydol; ac nid
gwiw i wr mawr a fyddo wedi cael ei eni yn arglwydd feddwl dweud, nac ysgrifennu
mor synhwyrol a’r dyn tlawd, er iddo îro ei ben, a gwisgo ei ferwisg fawr, a gownau, a
llawer o deganau o’r fath, gan ddisgwyl i bobl feddwl ei fod ef yn synhwyrol, o herwydd
ei wisgiad: yn un fath ag y bydd merch ieuanc a fyddo heb fawr harddwch na
chynnysgaeth ganddi, yn gwisgo’n rhyfeddol o’r gwych, i edrych a fedr hi dwyllo rhyw
ddyn diniwaid wrth ei dillad. Y peth rhyfeddaf sydd yn perthyn i’r goron ydyw’r
awdurdod ag sydd yn llaw’r dyn a fo’n ei gwisgo hi. Heblaw rhannu rubanau, a
gwneuthur arglwyddi, a rhyw chwareu plant yn y pistyll o’r fath hynny, mae’r brenin
yn ben barnwr Lloegr; ac efe ydyw’r ffynnon, lle meddylir fod yr holl farnwyr yn tarddu
allan o honi. Mae gan y brenin allu i wneuthur rhyfel a’r deyrnas a fynno, heb na
chennad, na chyngor gan undyn; ac i wneuthur heddwch pan welo ef yn dda ei hun.
Geill hefyd wneuthur undeb a’r deyrnas a fynno, yn y modd y gwelo ef yn dda ei hun.
Mae ganddo awdurdod i roi allan gyhoeddiad am godi dynion, arfau, ac arian i gynnal
ac i gynnorthwyo pobl isel radd, i ryfela, ac i saethu at benau eu gilydd, ac i ddarnio, ac
i ladd eu gilydd tra gwelo ef yn dda.55
Yn y darn olaf yma, disgrifia Jac bwerau’r brenin mewn ffordd berthnasol iawn i werin gogledd
Cymru a godasai yn erbyn presgangiau swyddogion y brenin sawl gwaith ym 1795.
John Jones, SEREN TAN GWMMWL, yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, t. 120.
Ibid., t. 113.
55
Ibid., t. 121.
53
54
14
Fel Eiddil, dewisa Jac ei eiriau yn ofalus er mwyn gwthio popeth yn ymwneud â’r
goron a’r brenin i fyd y smalio, y plant, a’r gwallgof. Yn dilyn Paine cymherir y ‘goron’ â
chap y ffŵl, ond â ymhellach drwy ei alw’n ‘[d]egan’ saith gwaith yn y testun, sef ‘peth a
lunnir er difyrrwch yn hytrach na defnydd ymarferol’,56 ar gyfer plant gan amlaf, yn hytrach
na chyfieithu ‘thing’ y testun Saesneg fel ‘peth’. Yn yr un modd, cymherir dyletswyddau’r
brenin â ‘chwareu plant yn y pistyll’, gan gysylltu’r frenhiniaeth â byd y plant eto, sydd, yn
debyg i’r brenin ifanc yn chwedl Eiddil, angen goruchwyliaeth gan y werin. Y mae’r holl
broses o etifeddu pŵer brenhinol yn cael ei ddisgrifio fel un ‘ynfyd’, barn a adleisir yn rhan
olaf y darn, pan esbonnir mai ‘ynfydrwydd ydyw disgwyl i ddoniau ganlyn yn yr un
genhedlaeth’,57 fel mewn mannau eraill yn y pamffled. Cartrefolir y cyfieithiad yn drwyadl
gan geisio ffordd arbennig o werinol i fynegi collfarn. Cymherir gweithred eneinio’r brenin
newydd â thrin ploryn, nes yn lle’r eneinio urddasol, y mae’r brenin yn cael ‘ei iro ef fel iro
penddwyn’,58 delwedd lem. Diddorol sylwi i Jac Glan-y-gors ddefnyddio gair tafodieithol ei
ardal, ‘pendduyn’ (wedi ei gamsillafu), o bosib i gartrefoli i gynulleidfa ddaearyddol
benodol.59 Ceir defnydd o eiriau tafodieithol, esboniad arnynt, neu greu cyfieithiadau i
wahanol ardaloedd yng Nghymru gan gyfieithwyr eraill y cyfnod. Yn ei gyfieithiad o’r
newyddion yn rhifyn tri o’r Cylch-grawn Cynmraeg, er enghraifft, defnyddir ‘cann’ gan
Morgan John Rhys, sef y gair am ‘blawd’ y byddai ef a’i gynulleidfa yn Sir Forgannwg a Sir
Gâr yn gyfarwydd ag ef.60 Ond gan ei fod am i’r cylchgrawn deithio i’r gogledd hefyd,
rhoddir ‘cann (flour)’ fel esboniad, yn yr un ffordd ag yr esbonnir geiriau gwleidyddol
newydd yn ei waith, a gwaith awduron eraill y cyfnod.61 Gellir tybio iddo fod yn ymwybodol
Gweler GPC, d.g. ‘tegan’.
Jones, SEREN TAN GWMMWL, yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 115, 120, 122.
58
Gweler GPC, d.g. ‘pendduyn’.
59
Am ddosbarthiad ‘pendd(ü)yn’, gweler Alan R. Thomas, The Linguistic Geography of Wales (Cardiff, 1973),
t. 223. Gwall yr argraffydd yw ‘penddwyn’.
60
Ibid., t. 172.
61
[Morgan John Rhys], ‘Newyddion pellenig a Chartrefol’, Cylch-grawn Cynmraeg, 3 (1793), 178.
56
57
15
o fodolaeth geiriau megis ‘fflŵr’ a ‘blawd’ yn y canolbarth a’r gogledd, ond prisiodd y gair
Saesneg o ran ei botensial i egluro ‘can[n]’, arwydd o statws uchel yr iaith drefedigaethol
Saesneg a arferid yn anymwybodol, hyd yn oed gan radicaliaid Cymru.
Ymddengys yr un strategaeth o Gymreigio syniadau gweriniaethol mewn mannau eraill
yn y ddau bamffled. Newidia Jac fynegiannau haniaethol i rai adwaeniol, er enghraifft drwy
gyfeirio at fywyd beichus y werin, drwy gymariaethau ag anifeiliaid pwn, a thrwy droi’r
cyfeiriadau at wareiddiadau clasurol y mae Paine yn eu dyfynnu i rai ysgrythurol. Egyr Toriad
y Dydd, er enghraifft, â chyfieithiad o ddarn enwog o ddechrau Common Sense. Ysbrydolwyd
Jac Glan-y-gors, fel ysgrifenwyr gwleidyddol eraill y cyfnod, gan olygfa Paine o ryw
‘sequestered part of the earth’, neu ‘ynys anghyfannedd’, fel tabula rasa i natur dyn amlygu ei
hun. Unwaith eto, y mae llif esboniad yr angenrheidrwydd o gydweithio er mwyn goroesi a
datblygiad cyrff llywodraethol yn debyg yn y ddau destun. Eithr, y mae’r Gymraeg yn fwy
syml, a’r cyfieithydd wedi newid cyfeiriad y gweithredu. Yn Common Sense, y mae’r dynion
ar ynys anghysbell yn ystyried yr angen i gydweithio mewn ffordd anhygoel o haniaethol, ond
hefyd oddefol:
In this state of natural liberty, society will be their first thought. A thousand motives
will excite them thereto, the strength of one man is so unequal to his wants, and his
mind so unfitted for perpetual solitude, that he is soon obliged to seek assistance and
relief of another, who in his turn requires the same. … Thus necessity, like a gravitating
power, would soon form our newly arrived emigrants into society …62
Darn yn llawn geiriau Lladin anodd eu hamgyffred, a dyn yn y pen draw yn wrthrych i
angenrheidrwydd sydd yn disgyn arno drwy rym disgyrchiant. Ceir neges symlach yn y
Gymraeg, ac osgo’r gair ‘cymdeithas’ gan sôn am yr ‘undeb’ a’r ‘cyfeillach’ er ‘lles a daioni’
y mae dyn ei hun yn eu creu:
62
Thomas Paine, Common Sense. Of the Origin and Design of Government in General. With concise Remarks
on the English Constitution, yn Philp (gol.), Thomas Paine, t. 6.
16
Dyma lle byddai yn rhydd, ac yn deg i bob un chwilio am ymborth iddo ei hun; hyn a
wnae iddynt ymwahanu oddiwrth eu gilydd am ychydig amser, ond er mwyn lles a
diogelwch pob un o honynt, hwy a unent efo eu gilydd i ddyfod i’r un llanerch at yr
hwyr, i gael iddynt fod yn fwy calonog a chadarn, i wynebu bwystfilod a ddigwyddai
ddyfod yn agos at eu gorweddfa yn y nos. Dyma lle’r ydym yn gweled yn y cychwyn
mor angenrheidiol a brawdol i ddynolryw fod mewn undeb a chyfeillach a’u gilydd, er
lles a daioni y cwbl yn gyffredin, ac nid er mwyn i’r naill ysbeilio a byw ar lafur y
llall.63
Ar ddiwedd y darn, pan ddynoda’r testun Saesneg amcan unrhyw lywodraeth megis ‘viz.
Freedom and security’ mewn hanner brawddeg,64 esblyga Jac unwaith eto i esbonio’r rhaniad
rhwng cyrff deddfwriaethol a llywodraethol gan gynnig brawddeg am eu pwrpas a’u hamcan
hwy a chynnwys yr allweddeiriau ‘undeb’ a ‘brawdgarwch’ eto:
A dyna, wedi yr holl drwst a’r cythryfwl, feddwl ac amcan a’r diben, mae sefydliad
llywodraeth yn ei atteb; sef, diogelu, a sicrhau i bob dyn, ei FREINTIAU ANIANOL, a’i
ryddit i fwynhau ffrwyth ei lafur ei hun yn ddi ormes; ac er mwyn ceryddu, neu gospi
y rhai drygionus, ac er mwyn anrhydedd, a diofalwch y rhai daionus, ac er mwyn
cynnyddu cynneddfau da, ac undeb, a chariad, a brawdgarwch, a mynwesol gyfeilliach
yn eu plith, fal y byddont yn hynaws, a moesol, a charedigol i gynnorthwyo naill y llall,
er lleshad a dedwyddwch y cwbl yn gyffredin.65
Y mae hi’n amlwg i Jac ddarllen ymlaen yn Common Sense. Ar ddechrau’r rhan nesaf ar
‘Monarchy and Hereditary Succession’, collfarna Paine y drefn o rannu pobl yn frenhinoedd a
deiliaid yn nhermau natur a’r nefoedd, gan dynnu ar eirfa newydd gwyddoniaeth eto:
Male and female are the distinctions of nature, good and bad the distinctions of heaven;
but how a race of men came into the world so exalted above the rest, and distinguished
like some new species, is worth enquiring into.66
Ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg, y mae cyfeiriadau at berchnogi anifeiliaid a’r Beibl yn fwy
effeithiol. Er bod rhai yn mynnu bod:
John Jones, TORIAD Y DYDD; NEU SYLW BYR AR HEN GYFREITHIAU AC ARFERION
LLYWODRAETHOL: YNGHYD A CHRYBWYLLIAD AM FREINTIAU DYN, &c. WEDI EI YSGRIFENNU ER
MWYN Y CYMRY UNIAITH (Llundain, 1797), yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, tt. 162–3.
64
Paine, Common Sense, yn Philp (gol.), Thomas Paine, t. 7.
65
Jones, TORIAD Y DYDD, yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, t. 164.
66
Paine, Common Sense, yn Philp (gol.), Thomas Paine, t. 11.
63
17
dwy radd o ddynion yn y byd, ac fod i’r naill ddyn fod yn berchenog ar y llall, yr un
fodd ag y mae dyn yn berchenog ar anifail; ond nid felly y creuwyd dynolryw: nid yn
frenin a deiliaid, nid yn orthrymwr a chaethwas, nid yn dylawd a chyfoethog, nid i un
dyn alw myrddiwnau o’i gyd-greaduriaid, yn bobl, neu’n eiddo iddo ef. Nid ydyw yr
rhagoriaethau uchod, ond dyfeisiau a damweiniau dynol; cymmaint o ragoriaeth a welir
yn y greadigaeth; ydyw, ‘yn wrryw, ac yn fenyw y creodd efe hwynt’.67
Nid oes lle yma i ychwanegu esiamplau eraill o Seren tan Gwmmwl a Toriad y Dydd, ond
gobeithio fy mod wedi arddangos yr amcan didactig a oedd gan Jac Glan-y-gors, a’r dechneg
a ddefnyddiodd i gartrefoli’r darnau a gyfieithodd er mwyn lledaenu’r neges weriniaethol
ymhlith y Cymry uniaith.
Trafod cyfieithu yn oes y Chwyldro
Nid Jac Glan-y-gors oedd yr unig un a briodolodd syniadau radicalaidd America, Ffrainc a
Lloegr i ddiwylliant, crefydd ac iaith y Cymry yn sgil Chwyldro Ffrengig 1789. Fe sylwir bod
y rhan fwyaf o awduron radicalaidd y cyfnod naill ai’n cyfieithu ac addasu, neu yn myfyrio’n
ddwys am y weithred, gan ei gweld yn anodd neu’n amheus yn amlach na pheidio. Bu Thomas
Paine ei hun ystyried anawsterau trosglwyddo negeseuon gwleidyddol i iaith a diwylliant arall
yn ei Age of Reason:
Scarcely any two nations speak the same language, or understand each other; and as to
translations, every man who knows any thing of languages, knows that it is impossible
to translate from one language into another, not only without losing a great part of the
original, but frequently of mistaking the sense.68
Adlais o hyn, mae’n bosib, yw myfyrdod preifat Iolo Morganwg fod:
Those who know how difficult it is very often to translate, even with the greatest
deliberation, will not wonder at some uncouth expressions that occur unavoidably from
translating at the instant of writing into one language what is uttered in the other.69
Jones, TORIAD Y DYDD, yn Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, t. 166; Genesis 1: 27.
Thomas Paine, The Age of Reason. Being an Investigation of True and Fabulous Theology (New-York, 1794),
tt. 64–5.
69
LlGC Llsgr. 2137D, f. 15.
67
68
18
O gofio’r drafodaeth ynghylch Seren tan Gwmmwl a chyfieithu yn y Geirgrawn, coda’r
posibilrwydd diddorol, felly, i Peter Bailey Williams a Iolo Morganwg, dau ddyn ar begynau
eithaf sbectrwm gwleidyddol Cymru a’r Deyrnas Unedig, astudio Age of Reason tua’r un pryd.
Nid oedd Iolo’n gyfieithydd mawr i’r Gymraeg,70 ond gwyddai’n iawn am botensial y weithred,
gan ddefnyddio’r ddyfais o ffug-gyfieithu i honni bod cerddi megis ‘John Bull’s Litany’ yn
‘Translated from the Ancient British’.71 Cafodd sylwadau tebyg ar anawsterau cyfieithu eu
datgan mewn ffordd fwy gwerinol gan Thomas Roberts, Llwynrhudol, a ysgrifennodd mai ‘y
peth sydd ber-arogl mewn un iaith a ddrewa wrth ei gyfieithu yn ôl y llythyren i iaith arall’ yn
ei bamffled Cwyn yn erbyn Gorthrymder, ble y cysylltodd gyfieithu gwael ag anghyfiawnderau
gweithredu cyfraith Prydain yng Nghymru yn ogystal.72 Fel y gwelwyd hefyd yn
rhagarweiniadau Eiddil a Jac Glan-y-gors a’r drafodaeth ynghylch Seren tan Gwmmwl, yr oedd
datganiadau ar sut i gyfieithu er mwyn y Cymry uniaith a’r iaith Gymraeg yn gyffredin yn y
cyfnod.73
Tomos Glyn Cothi, ei gyfeillion a mewnforio syniadau radicalaidd
Aeth eraill ati’n dawel i ymarfer egwyddorion y ddisgẃrs hon, gan gyfieithu testunau a oedd o
fewn eu cyrraedd ac yn ddeniadol i’w hargyhoeddiadau crefyddol a gwleidyddol. Y mae Cylchgrawn Cynmraeg Morgan John Rhys a’i bregethau ef yn llawn addasiadau o waith Bedyddwyr
Eto i gyd, cynhyrchodd gyda’i Poems Lyric and Pastoral waith sydd wedi cael ei alw’n ‘radical bilingual
text’. Gweler Heather Williams, ‘Iolo Morganwg, Edward Williams and the Radically Bilingual Text: Poems
Lyric and Pastoral (1794)’, International Journal of Welsh Writing in English, 2 (2014), 147–67.
71
LlGC Llsgr. 21401, ‘Poetry and Political Material’, ff. 1, 12; Mary-Ann Constantine ac Elizabeth Edwards,
‘“Bard of Liberty”: Iolo Morganwg, Wales, and Radical Song’, yn John Kirk, Andrew Noble a Michael Brown
(goln.), United Islands? The Languages of Resistance (London, 2012), tt. 72–3. Am ystyr a photensial y
cysyniad o ‘ffug-gyfieithu’ neu ‘pseudo-translation’, gweler Gideon Toury, ‘Translation, Literary Translation
and Pseudotranslation’, Contemporary Criticism, 6 (Cambridge, 1984), 73–85.
72
Thomas Roberts, CWYN YN ERBYN GORTHRYMDER, Yn ghyd a Sylwiadau ar hawl ESGOBION, a’u
Gweinidogion i DDEGYMAU, &c. WEDI EI YSGRIFENU ER MWYN Gwerinos Cymru (Llundain, 1798), yn
Löffler (gyda Jenkins), Political Pamphlets, t. 178.
73
Ceir sylwadau ar gyfieithu i’r Cymry hefyd yn rhagarweiniadau cyfieithwyr y Beibl a’r Dadeni. Gweler
Garfield H. Hughes, Rhagymadroddion 1547–1659 (Caerdydd, 1976), tt. 27, 56–7, 89.
70
19
gwleidyddol a ddefnyddid ganddo hefyd i ddatblygu geirfa wleidyddol fodern i’r Gymraeg.74
Nid oes lle yma i drafod ei arddull a’i amcanion, nac ychwaith waith William Richards, Lynn,
fel cyfieithydd, awdur dwyieithog, a geiriadurwr,75 er yr haedda gwaith y ddau ym meysydd
cyfieithu a datblygu geirfâu gwleidyddol sylw manwl. Hoffwn droi at un arall a fu’n weithgar
yn ne-orllewin Cymru, Thomas Evans neu Tomos Glyn Cothi, gwehydd ac arloeswr crefyddol,
y cyntaf i bregethu Undodiaeth yng Nghymru, awdur a aeth i’r carchar dros ei argyhoeddiadau
gwleidyddol. Yr oedd yn gyfaill i David Davis (Castell-hywel), Iolo Morganwg ac Edward
Evan, ac yn rhan annatod o rwydweithiau radical-grefyddol a barddol de-orllewin Cymru.76
Dedfrydwyd ef i ddwy flynedd o garchar ym 1801 am ganu cân ymfflamychol,77 ond dengys
dogfennau yr achos llys yn ei erbyn ac erledigaeth bellach yn ystod ei amser yn y carchar, mai
sail yr erlid oedd ei lwyddiant yn lledaenu syniadau radicalaidd, ‘amongst the people of this
country from his abilities in writing in the Welch language’.78 Yn ddigwestiwn, Tomos Glyn
Cothi oedd prif ladmerydd athrawiaeth Undodiaeth i’r Gymraeg. Rhwng 1792 a 1824,
cyfieithodd wyth o destunau gan yr Undodwyr blaengar Joseph Priestley, Theophilus Lindsay
a William Frend i’r Gymraeg, gan eu cyhoeddi fel pamffledi neu eu cynnwys yn ei gylchgrawn,
Y Drysorfa Gymmysgedig.79 Yno hefyd y cyhoeddodd gyfieithiadau amlycach wleidyddol, gan
J. J. Evans, Morgan John Rhys a’i Amserau (Caerdydd, 1935), tt. 125–35; Hywel M. Davies, ‘Morgan John
Rhys and James Bicheno: Anti-Christ and the French Revolution in England and Wales’, Bulletin of the Board
of Celtic Studies, XXIX, rhan I (1980), 111–27; Löffler, Welsh Responses, tt. 46–7; eadem (gyda Jenkins),
Political Pamphlets, tt. 16–17; Mary-Ann Constantine, ‘The Welsh in Revolutionary Paris’, yn eadem a
Johnston (goln.), ‘Footsteps of Liberty and Revolt’, tt. 75–8.
75
Ond gweler R. T. Jenkins, ‘William Richards o Lynn’, Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru Trafodion 1930
(1930), 17–68; John Oddy, The Writings of the Radical Welsh Baptist Minister William Richards (1749–1818)
Selected, Edited and, Annotated with an Introduction (Lampeter, 2008).
76
Geraint Dyfnallt Owen, Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi). Trem ar ei Fywyd (s.l., 1963).
77
G. J. Williams, ‘Carchariad Tomos Glyn Cothi’, Llên Cymru, III (1954–55), 120–2; Geraint H. Jenkins, ‘“A
Very Horrid Affair”: Sedition and Unitarianism in the Age of Revolutions’, yn R. R. Davies a Geraint H.
Jenkins (goln.), From Medieval to Modern Wales: Historical Essays in Honour of Kenneth O. Morgan and
Ralph A. Griffiths (Cardiff, 2004), tt. 175–96.
78
LlGC Llsgr. 2137D, ff. 3; PRO H.O. 47/27 Judge’s Report, 20 March 1802; PRO H.O. 42/44, 23 November
1802, yn Owen, Thomas Evans, tt. 62–4.
79
Daniel Lleufer Thomas, Cyfieithiadau Dienw Tomos Glyn Clothi (Y Parch. Thomas Evans, 1764–1833)
(Caerfyrddin, 1931); Irene George, ‘Tomos Glyn Cothi’, The Journal of the Welsh Bibliographical Society, IV/3
(1933), 106–11; [Thomas Evans], ‘Y Bibell, gan Dr. Franklin’, Y Drysorfa Gymmysgedig, II (1795), 49–51;
idem, ‘Annerch at Aelodau Eglwys Loegr, ac at Ddrindodiaid Protestanaidd yn Gyffredin Oll i’r Diben i’w
Hannog Hwynt i Droi oddi wrth yr Addoliad Gau o Dri Bersonau i’r Addoliad o’r Un Gwir Dduw yn Saesonaeg
gan W. Frend’, ibid., III (1795), 127–35.
74
20
guddio ffynonellau a defnyddio amrywiaeth o dechnegau i greu barddoniaeth a rhyddiaith
Gymraeg rywiog.80 Rhydd ei nodiadau helaeth mewn tri almanac o’i eiddo,81 a’i unig lawysgrif
sylweddol, ‘Y Gell Gymysg’,82 olwg ar ei fyd deallusol tua 1797–8, ac ym 1814, 1817 a 1818.83
Cofnododd ynddynt gerddi a baledi Cymraeg y bu’n eu hysgrifennu, darllen, canu, clywed a
chyfnewid gyda chyfeillion, y pynciau y dewisodd bregethu arnynt a’r gynulleidfa, a’r arian a
gasglwyd, enillwyd ac a wariwyd ganddo. Yn anad dim, copïodd yno ddarnau trawiadol a
phwysig iddo o lyfrau, pamffledi, papurau newydd a chylchgronau a oedd o fewn ei gyrraedd,
a’u cyfieithu fel rhan o’r gwaith paratoadol i’w gynyrchiadau gorffenedig a chyhoeddedig.84 Y
mae ‘Y Gell Gymysg’, yn enwedig, yn llawn testunau o’r Cambridge Intelligencer, ‘the most
liberal and outspoken periodical of its day’,85 a gyhoeddwyd gan yr Undodwr Benjamin Flower
rhwng 1793 a 1803.86 Ceir dyfyniadau yno hefyd o’r Protestant Dissenter’s Magazine, ac o
weithiau llu o awduron Saesneg, yn eu plith Locke, Watts a Godwin. Tuedda Tomos i nodi
barddoniaeth yn yr iaith wreiddiol, ond fersiwn Cymraeg yn unig a geir ynghyd â darnau o
ryddiaith wleidyddol yn aml. Ymddengys i’r ‘cyfieithu cyfnewid’ hwn, h.y. cyfieithu testun
neu ddarn ar gyfer addasu a chyfieithu pellach yn yr un iaith,87 fod yn rhan o broses rhyngieithol
Ceir testun cyfieithiad o emyn a gweddi yn Löffler, Welsh Responses, tt. 47–9. Atgynhyrchir y testun fel
gwaith David Davis, Castell-hywel, gan gymryd nad yw’n gyfieithiad, yn Charnell-White, Welsh Poetry, tt.
141–4, ond mae’n fwy tebygol mai gwaith Tomos Glyn Cothi ydyw.
81
LlGC, Mân Gasgliadau, 312A, Almanac am y flwyddyn 1814; LlGC, Mân Gasgliadau 313A, Almanac am y
flwyddyn 1817; LlGC Llsgr. 21970A, Almanac am y flwyddyn 1818.
82
LlGC Llsgr. 6238A, ‘Y Gell Gymysg’.
83
O gofio’r erlid a’i amser yng ngharchar Caerfyrddin, y mae’n ddealladwy i’w wraig ddinistrio’r deunydd
ymfflamychol, a gwyddom iddo orfod gwerthu llawer o lyfrau oherwydd prinder arian ym 1804. Gweler
‘Thomas Evans, Pen-pistyll, at Edward Williams, Flimston, 12 Gorffennaf 1804’, yn Geraint H. Jenkins, Ffion
Mair Jones a David Ceri Jones (goln.), The Correspondence of Iolo Morganwg Volume II 1797–1809 (Cardiff,
2007), t. 615.
84
Ceir cyfieithiadau gorffenedig nas cyhoeddwyd mewn llawysgrifau hefyd, e.e. ‘Hymn i’w chanu gan
Orthrymwyr Dynion ar eu Dyddiau Ympryd’, cyfieithiad o ‘Hymn for the Fast-Day to be Sung by the Privileged
Orders of Europe’, LlGC Llsgr. 12365D, Alcwyn C. Evans ‘Collectiana relating to the Town and County of
Caermarthen’, f. 526.
85
J. E. Cookson, The Friends of Peace. Anti-War Liberalism in England 1793–1815 (Cambridge, 1982), t. 92.
86
Ceir casgliad helaeth o lythyrau Flower yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan i’r hynafiaethydd siroedd
Caerfyrddin a Cheredigion a’r Undodwr pybyr, George Eyre Evans, ei brynu a’i roddi ar ei farwolaeth. Gweler
Timothy D. Whelan (gol.), Politics, Religion and Romance. The Letters of Benjamin Flower and Eliza Gould
Flower, 1794–1808 (Aberystwyth, 2008).
87
Am ‘gyfieithu cyfnewid’ yn yr ystyr hwn, gweler St André, ‘Relay’, tt. 230–2. Y mae hi’n bosib felly, yn y
Gymraeg, i wahaniaethu rhwng ‘cyfieithu dilynol’ a ‘c[h]yfieithu cyfnewid’.
80
21
o ddeall a chrynhoi testun a’i baratoi tuag at ddefnydd pellach. Ceir, er enghraifft, gyfieithiadau
o lythyrau Napoleon, areithiau Sir Francis Corbett, a ‘Deddf, neu Sefydliad Cymmanfa
Ffraingc Mai 7 1794’, heb nodi ffynhonnell na thestun Saesneg.88 Ble y nodir y ffynhonnell, y
mae’n goleuo’r ffyrdd y trosglwyddwyd syniadau newydd i Gymru a’r Gymraeg. Cofnododd
ffynhonnell, er enghraifft, o dan y darn ar ‘Hawl a Dyledswydd dyn’, fel a ganlyn: ‘Trenchard.
the foregoing was translated from a Book named “The Manual of Liberty” printed 1795.
Octavo, 406 pages’.89 Ceir yr argraff iddo gyfieithu darn o gasgliad gan ryw Trenchard, ond y
mae’r proses o drosglwyddo syniadau yn fwy cymhleth o lawer, gyda mwy nag un ffynhonnell.
‘Translated’ ysgrifenna Tomos, ond crynodeb a chyfansoddiad Cymraeg sydd yma o ddeg
tudalen o ddyfyniadau yn y casgliad hwn o ‘testimonies in behalf of the rights of mankind;
selected from the best authorities, in prose and verse, and methodically arranged’, a
gyhoeddasid yn ddienw ym 1795.90 Fel yn achos chwedl Bersiaidd Eiddil, Saesneg yw iaith
darnau’r gyfrol, ond ymhlith yr hanner cant o awduron a ffynonellau a restrir, y mae Cicero,
Montesquieu, Montaine, Voltaire a Rousseau yn ogystal â Burke, Swift, Shakespeare a Sterne.
Ceir hefyd y New Testament, yr Old Testament, Macciavelli, ‘the author of Common Sense’,91
y ‘Pennsylvania Declaration of Rights’, y ‘King of Prussia’, y Morning Chronicle, ‘Old Italian
Proverbs’ a’r ‘Reeves Crown and Anchor Association Paper’. Cadwyn cyfieithu dilynol a geir
yma eto, a Tomos yn derbyn y testunau wedi’u hidlo drwy’r Saesneg ac wedi eu trefnu i fynegi
tirwedd feddyliol radicaliaid Lloegr ac America. Y mae ef yn ei dro yn parhau’r proses hwn yn
y Gymraeg. Yn wahanol i ymddangosiad cofnod Tomos, dwy ffynhonnell Saesneg sydd i’w
faniffesto isod ar degwch cymdeithasol a rhyddid:
88
LlGC Llsgr. 6238A, ff. 47–9, 133–49, 162–7.
LlGC Llsgr. 6238A, ff. 101–2.
90
Anhysbys, The Manual of Liberty: or testimonies in behalf of the rights of mankind; selected from the best
authorities, in prose and verse, and methodically arranged (London, 1795). Y mae’r gyfrol ar gael yn ddigidol ar
Eighteenth Century Collections Online.
91
Y mae’n arwyddocaol i enw Thomas Paine gael ei hepgor gan olygydd y gyfrol.
89
22
1. Nis gall un Tad drosglwyddo i’w Fab yr hawl o fod yn ddi-ddefnydd i’w gydgreaduriaid.
2. Mewn sefyllfa gymdeithasol yn yr hon y mae yn rhaid i bob un gael ei gynnal ar
draul y gymdeithas, y mae’n ddyled ar bob un weithio gwerth ei gynhaliaeth a hynny
heb edrych ar radd neu sefyllfa. Pob segurddyn, cyfoethog a thylawd, gwan a chryf,
sydd ddihiryn, neu anonest ddyn.
3. Nid yw’r dyn sydd yn bwyta bara seguryd, heb ynnill ei gynhaliaeth, ddim gwell na
lleidr; ac nid yw yr hwn sydd yn derbyn Tal (pension) am ddim gan lywodraeth, yn
gwahaniaethu fawr oddi wrth leidr pen ffordd a fyddo yn byw war ei ysglyfaeth
ledradaidd. Rousseau
4. Pob dyn sydd yn cael ei eni yn rhydd: – rhodd Duw yw rhyddid i ddyn ac nis gall ei
throsglwyddo yn gyfreithlon ac ewyllysgar i arall, er o bosibl y geill ei cholli trwy
drosedd.
5. Nid oes un dyn ac awdurdod ar ei fywyd, nac ar ei Grefydd, yn ganlynol nis gall
drosglwyddo yr awdurdod arnynt i neb arall.
6. Yn enwedig nis geill roddi ar werth, neu ymmaith, fywydau Rhyddid a Chrefydd ei
hiliogaeth, y rhai a enir mor rhydd ag ef ei hun ac nas gallant fod yn rhwym i sefyll
wrth ei fargenion drygionus a byrbwyll ef.
Trenchard
The foregoing was translated from a Book named “The Manual of Liberty” printed
1795. Octavo, 406 pages.92
Ffynhonnell pwyntiau un, dau a thri Tomos yw’r darn hwn o nofel Émile gan Jean-Jaques
Rousseau a atgynhyrchir o dan y bennawd ‘Rights of Man’ gan olygydd y Manual of Liberty
(yn dilyn dyfyniad o’r Contrat Social gan Rousseau):
No father can transmit to his son the right of being useless to his fellow creatures. – In
a state of society, where every man must be necessarily maintained at the expence of
the community, he certainly owes the state so much labour as will pay for his
subsistence, and this without exception of rank or persons. Rich or poor, strong or weak,
every idle citizen is a knave.
The man who earns not his subsistence, but eats the bread of idleness, is no better than
a thief; and a pensioner who is paid by the state for doing nothing, differs little from a
robber who is supported by the plunder he makes on the highway.
Idem. [Rousseau] Emile, liv. 3.93
Cyfieithodd y ddau baragraff i’w dri phwynt cyntaf. Ychwanegodd atynt bwyntiau pedwar,
pump, a chwech, cyfieithiadau o’r ‘Cato’s Letters’, a ddarganfu nes ymlaen yn y gyfrol:
All men are born free: liberty is a gift which they received from God himself, nor can
they alienate the same by consent, through possibly they may forfeit it by crimes.
92
93
LlGC Llsgr. 6238A, ff. 101–2.
Anhysbys, Manual of Liberty, tt. 37–8.
23
No man has power over his own life, or to dispose of his own religion, and cannot
consequently transfer the power of either to any body else, much less can he give away
the lives, liberties, religion, — of his posterity, who will be born as free as himself, and
can never be bound by his wicked and ridiculous bargain.
TRENCHARD.
Cato’s Letters, vol. ii No. 5994
Cyfeiriad at gyfres o ysgrifau gwleidyddol gan y Chwigiaid John Trenchard (1662–1723) a
Thomas Gordon (1671–1750) a ymddangosodd rhwng 1720 a 1723 yn y London a’r British
Journal oedd y ‘Cato’s Letters’. Cyhoeddwyd hwy fel Essays on Liberty, Civil and Religious
mewn pedair cyfrol sawl gwaith drwy gydol y ganrif. A hwythau’n llawn ystyriaethau ar ryddid
a natur dyn, cyfrifoldebau llywodraethau a pheryglon unbeniaeth, yr oeddent o ddylanwad
eithriadol ar arweinwyr Chwyldro America.95 Yn amlwg ystyrid hwy yn bwysig o hyd gan
ddiwygwyr a gweriniaethwyr Saesneg yn y 1790au. Dewiswyd y ddwy frawddeg ar ryddid fel
genedigaeth-fraint dyn o lythyr 59, ac ychwanegodd Tomos hwy at ei destun Cymraeg i greu
maniffesto chwe phwynt. Asiodd felly destunau o ddau gyfnod a dau ddiwylliant gwleidyddol
i destun Cymraeg â neges newydd. Ni chyhoeddwyd y testun hwn. Fel y rhan fwyaf o
synfyfyrdodau radicalaidd Iolo Morganwg, a darnau eraill ymfflamychol yn ‘Y Gell
Gymmysg’, goroesa mewn llawysgrif yn unig. Emynau, pregethau a gweddïau gwleidyddol
ond llai ymfflamychol, yw’r eitemau y tueddai Tomos eu cyhoeddi, yn ogystal â gwaith ei
athrawon Undodaidd. Goddefgarwch crefyddol, gosodiadau Duw fel sail i greu cymdeithas
gyfiawn o unigolion rhydd, a heddychiaeth yn anad dim, oedd ei negeseuon mwyaf. Gwelir
hyn mewn cyfieithiad a ymddangosodd yn rhifyn olaf ei Drysorfa Gymmysgedig, ac sydd yn
ei gysylltu â radicaliaid ei ardal y tu hwnt i’w farwolaeth.
94
Ibid., t. 39.
John Trenchard, ‘NO. 59. SATURDAY, DECEMBER 30, 1721. Liberty proved to be the unalienable Right of
all Mankind’, yn idem a Thomas Gordon, Cato’s Letters, or Essays on Liberty, Civil and Religious, and Other
Important
Subjects
Edited
and
Annotated
by
Ronald
Hamowy
(Indianapolis,
1995),
http://oll.libertyfund.org/titles/1238#lf0226-02_head_029, cyrchwyd 1 Mawrth 2016.
95
24
Fel y soniwyd uchod, y Cambridge Intelligencer oedd un o ffynonellau pennaf Tomos
Glyn Cothi yn ‘Y Gell Gymmysg’. Ymddengys i’r papur gyrraedd siroedd Caerfyrddin a
Cheredigion a Morgannwg, ac i radicaliaid a beirdd gyfnewid rhifynnau, fel y gwnaethant
gyda’r Chester Chronicle a’r Hog’s Wash.96 Y Cambridge Intelligencer oedd ffynhonnell
emyn a gyhoeddodd Tomos yn rhifyn olaf ei Drysorfa Gymmysgedig, tebyg i’r rhai a
gyfieithodd o Politics for the People ar gyfer y rhifyn cyntaf, ac i’r cyfieithiad o’r un
ffynhonnell a geir yn llawysgrif Alcwyn Evans.97 Ni fu ei natur fel cyfieithiad yn amlwg, am i
Tomos hepgor cyd-destun a ffynhonnell yr ‘Hymn berthynol ar Ddydd Ympryd’ hwn. Canfûm
ei fod yn un o bedwar fersiwn Cymraeg o emyn Saesneg drwy gwrso llythyr a anfonwyd at
olygydd Yr Ymofynnydd, John E. Jones, gan un J. Jones ym 1848:
BARCHEDIG YMOFYNYDD: – Dilys y bydd yn hoff gan lawer o’ch darllenwyr weled
y cyfieithiad isod, o’r Hymn a ganwyd yn Sheffield, ar ddydd gwyl y brenhin, (neu yn ol
y saesneg dydd Ympryd) yn y flwyddyn 1794, gan mai yr enwog D. Davis, gynt o Gastell
Howell a’i trödd i’r Gymraeg. Mae dau gyfieithiad arall eisiws o flaen y Cymry. Y naill
gan y Parchedig Edward Evan o Aberdar yn ‘Afalau’r Awen’, tu dalen 60; a’r llall gan y
Parchedig Thomas Evans, o’r un lle, yn ei Hymnau, tu dalen 94. Efallai Syr, byddai yn
ddoeth i chwi i argraffu y Saesnaeg gyda llaw, fel y gallo y rhai, a fedrant wneuthur barn
gyfiawn, weled pa un o’r tri Bardd oedd y cyfieithydd goreu.98
Cawn wybod am gyfieithiadau’r gweinidog Presbyteraidd, bardd a chyfieithydd Edward Evan,
Aberdâr (1716–98), ac un y gweinidog Ariaidd, ysgolfeistr enwog, bardd a chyfieithydd David
Davis, Castell-hywel (1749–1827), y ddau yn gyfeillion i Tomos, ac am fersiwn ychwanegol
gan Tomos yntau o 1811. Canwyd y gwreiddiol mewn gwrthdystiad radicalaidd awyr agored
ar 28 Chwefror 1794 ar un o’r diwrnodau o Ympryd a orchmynnwyd o leiaf unwaith y
Noder bod benthyg papurau newydd, cylchgronau a deunydd darllen tebyg, a’u copïo i lawysgrifau, yn arferol
yn y cyfnod. Gweler Löffler, Welsh Responses, t. 1; Charnell-White, Welsh Poetry, t. 337. Ynglŷn â’r
Cambridge Intelligencer, cymharer, e.e., LlGC Llsgr. 6238A, f. 150, ‘General Thanksgiving’ â LlGC Llsgr.
12350A, Diary &c. of John Davies, Ystrad, 1796–99’, ff. 108–9, ‘General Thanksgiving’. Dengys ‘Newyddion
Mawrth Ionawr 28’, yn y Cylch-grawn Cynmraeg, 5 (1794), 285–7, berthynas agos gyda thestunau yn y
Cambridge Intelligencer.
97
[Thomas Evans], ‘Hymn berthynol ar Ddydd Ympryd’, Y Drysorfa Gymmysgedig, 3 (1795), 106–7; LlGC
Llsgr. 12365D, Alcwyn C. Evans, ‘Collectiana relating to the Town and County of Caermarthen’, f. 526;
Löffler, Welsh Responses, tt. 226–34.
98
J. Jones, ‘Barchedig Ymofynydd’, Yr Ymofynnydd, I/9 (1848), 216.
96
25
flwyddyn gan y Goron i ddeiliaid y deyrnas ymprydio a gweddïo dros ymdrech y rhyfel.99
Ymddangosodd y testun ffynhonnell mewn taflen ar y cyd â phenderfyniadau gwleidyddol
ymfflamychol, megis ‘that war, the wretched artifice of Courts, is a system of rapine and blood
unworthy of rational beings’, a ‘that if the present war be a war of combined Kings against the
people of France, to overthrow that liberty which they are struggling to establish, it is in our
opinion a war of the most diabolical kind’.100 Gwyddom hyn, canys y cyflwynwyd tri phennill
ohono a’r penderfyniadau hyn fel tystiolaeth y wladwriaeth yn erbyn Thomas Hardy yn ei
achos llys am deyrnfradwriaeth yn Hydref 1795.101 Erbyn hyn yr oedd yr ‘Hymn. Sung at a
Meeting of the Friends of Peace and Reform in Sheffield, held on the late fast Day’ wedi hen
ymddangos yn y Cambridge Intelligencer,102 a dyma destun ffynhonnell y cyfieithiadau i’r
Gymraeg. James Montgomery (1771–1854) oedd yr awdur, a symudodd i Sheffield ym 1792,
gan sefydlu’r papur newydd y Sheffield Iris ym 1794 a chael ei garcharu ddwywaith am
gyhoeddi testunau radicalaidd cyn diwedd y 1790au. Mewn llawysgrif yn Llyfrgell
Genedlaethol Cymru y deuthum i o hyd i’w enw a deall beth oedd y ddolen rhwng
llawysgrifau’r cyfieithiadau a’r gohebydd, ‘J. Jones’. Yn un o lawysgrifau’r Undodwr R. J.
Jones, Broniestyn, sydd yn llawn o waith cyfnod Chwyldro Ffrengig 1789, ceir y testun
Saesneg, esboniad ar y cyfieithiadau, a chyfeiriad at gyfieithiad cyntaf Tomos:
Cyfieithiad o’r uchod gan D. Davis, o Gastell Hywel. [Gwel un arall gan T. Evans,
Aberdar, yn ei Eirgrawn [sic], ac un arall gan Ed. Evans yn Afalau’r Awen] … From
the Rev John Jones, Aberdare’s copy of the Rev.end Evans’ MS.103
Roland Bartel, ‘The Story of the Public Fast Days in England’, Anglican Theological Review, XXXVII/3
(1955), 190–200; Owen H. Morris, ‘Ffurfiau Gweddi’, Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, XXIII/2
(1983), 130–40.
100
Anhysbys, Fast Day As Observed at Sheffield: A Serious Lecture Delivered at Sheffield; February 28, 1794,
being they day appointed for a General Fast, to which are added a Hymn and Resolutions (London, 1794), yn
Barrell a Mee (goln.), Trials for Treason and Sedition, V , tt. 333–4.
101
Ibid.
102
‘Hymn. Anon. The Cambridge Intelligencer (March 15, 1794) Sung at a Meeting of the Friends of Peace and
Reform in Sheffield, held on the late fast Day’, yn Betty T. Bennett ac Orianne Smith (goln.), ‘British War
Poetry in the Age of Romanticism, 1793–1815’, http://www.rc.umd.edu/editions/warpoetry/1794/1794_8.html
cyrchwyd 1 Mawrth 2016. Am y testun ffynhonnell a’r testunau Cymraeg, gweler Marion Löffler,
‘Cyfieithiadau emyn heddychol Saesneg i’r Gymraeg, 1794–1848’, tt. xx–xx yn y rhifyn hwn.
103
LlGC Llsgr. R. J. Jones, Broniestin, Aberdâr, ff. 144–8.
99
26
Yr oedd llawysgrif â mwy nag un fersiwn wedi bod ym meddiant Tomos Glyn Cothi felly, cyn
dod i law i John Jones (1802–63), cyn-ddisgybl i David Davis ac olynydd i Tomos Glyn Cothi
fel gweinidog Undodaidd yr Hen Dŷ Cwrdd, Aberdâr. Ef oedd y gohebydd ym 1848, ac yr
oedd yn dad i Rees Jenkin Jones, Broniestyn, golygydd yr Ymofynydd.104 Yr oedd
rhwydweithiau Undodwyr, gweinidogion yr efengyl a beirdd de Cymru mor ddwys a
hirhoedlog, fel y goroesodd y cyfieithiadau a’r wybodaeth am eu perthynas i ail hanner y
bedwaredd ganrif ar bymtheg.
O ystyried y fersiynau Cymraeg yng nghyd-destun y cyfnod, nid yw’n syndod i Tomos
Glyn Cothi hepgor unrhyw gyfeiriad at darddiad yr emyn ym 1795. Yr oedd awdur ei destun
ffynhonnell yn y carchar, a llywodraeth Prydain Fawr wedi pasio nifer o ddeddfau yn ogystal
â chynnal achosion llys cyhoeddus yn erbyn y sawl a gyhuddwyd o deyrnfradwriaeth, fel y rhai
yn erbyn John Thelwall a Thomas Hardy. Y dewis doeth oedd cuddio cynnwys chwyldroadol
y gwaith, nid ei amlygu. Sefyllfa debyg a geid cyn 1798 (pan fu farw’r ail gyfieithydd Edward
Evan) ac ym 1811, a Phrydain mewn rhyfel yn erbyn ymerodraeth Napoleon tan 1815, gyda
hawliau deiliaid y deyrnas yn gyfyngedig. Atgynhyrchwyd y testun ffynhonnell a’r ail
gyfieithiad ochr yn ochr ym 1804, gan gynnig teitl amwys a’r gair ‘parchus’ yn amlwg, sef ‘An
Hymn composed by a respectable person in the time of war and tumult, in the year 1794’. Dim
ond ‘The Following is a translation of the Hymn’, a geir fel teitl Cymraeg, gan fachu ar y cyfle
i symud y cyfrifoldeb am y cynnwys i awdur y gwreiddiol.105 Ymddangosodd ail fersiwn
Tomos Glyn Cothi ym 1811 fel ‘Hymn XCIV. Galarnad ar Ddydd Ympryd’ yn ei lyfr emynau
a chyda’r ychwanegiad ‘Galarnad’ yn y teitl, cyfeiriad amlycach at y cynnwys, ond heb fod yn
‘Y Bywgraffiadur Cymreig’, d.e. Jones, John (1802–1863); Jones, Rees Jenkin (1835–1924),
http://yba.llgc.org.uk/, cyrchwyd 1 Mawrth 2016.
105
Edward Evan, Afalau’r Awen: Sef Caniadau, Moesol a Duwiol, yn Cynnwys Anerchiadau i Fyw yn
Weddaidd, Ac i Ymddwyn yn Gariadus at Bawb o Ddynol Ryw (Merthyr Tydfil, 1804), tt. 56–7.
104
27
wleidyddol.106 Nid yw cyfieithiad David Davis, Castell-hywel, yn y casgliad o gerddi a
chyfieithiadau o’i law a ymddangosodd ym 1824, dair blynedd cyn iddo farw.107 Ym 1848 y
daeth allan heb unrhyw deitl, ond yn gysylltiedig ag enwau a gwaith Tomos Glyn Cothi ac
Edward Evan. Yn ôl arfer Oes Fictoria, crëwyd cystadleuaeth fel y byddai’r sawl ‘a fedrant
wneuthur barn gyfiawn, weled pa un o’r tri Bardd oedd y cyfieithydd goreu’.108 Er ei bod hi’n
ddichonadwy i’r tri chyfaill gynnal cystadleuaeth – o gofio’r cydweithio rhyngddynt ym
meysydd crefydd a barddoniaeth a’r ffaith fod o leiaf tri fersiwn wedi bod ym meddiant Tomos
Glyn Cothi – nid oes modd cadarnhau eto os a pha bryd y cynhaliwyd eu ‘talwrn y cyfieithwyr’.
Fel y gwelir o’r testunau a ymddengys ar dudalennau’r cylchgrawn hwn, y mae’n sicr i Edward
Evan fynd at y gwaith o drosi’r testun ymfflamychol hwn i’r Gymraeg mewn ffordd wahanol
i Tomos Glyn Cothi a David Davis.109
Heb amheuaeth, y testun Cymraeg mwyaf uniongyrchol a thaer, o ran y neges
wleidyddol, yw un Tomos Glyn Cothi, 1795. Y rheswm, yn fy marn i, yw iddo allu defnyddio
ei lais ‘niwtral’ yn y proses o drosi’r testun o un iaith i’r llall, sef y llais y byddai’n ei
ddefnyddio’n anianol i gyfansoddi testun yn ei famiaith, ac a fyddai’n creu agosatrwydd at y
gynulleidfa.110 Gwnaed hyn yn bosib oherwydd ei fod yn rhannu’r un cefndir gwleidyddol a
chrefyddol ag awdur y testun ffynhonnell ac iddo ysgrifennu a chyfieithu emynau a gweddïau
tebyg iawn, yn tanseilio gwleidyddiaeth y llywodraeth, yn y cyfnod hwn. Ceir yr argraff, serch
hynny, o gymharu â’i fersiwn o 1811, iddo gyfieithu’r gerdd braidd ar hast. Cyfieithiad
Thomas Evans, Cyfansoddiad o hymnau, wedi cael eu hamcanu at addoliad cyhoeddus; ag yn enwedig at
wasanaeth Undodiaid Cristianogol (Caerfyrddin, 1811), t. 94.
107
Y Colwynydd/The Editor (gol.), Telyn Dewi; Sef Gwaith Prydyddawl y Parch. David Davis o Gastell-Hywel,
Ceredigion; Yn Cynnwys Amryw Gyfansoddiadau o ei eiddo ei hun, a chyfieithiadau allan o waith rhai o’r
prydyddion enwocaf yn y Iaith Saesonaeg; Addison, Young, Gray, Barbauld, Pope, &c. Ar Destynau Crefyddol,
Hyfforddus, A Difyr (Llundain, 1824).
108
Jones, ‘Barchedig Ymofynydd’, 216.
109
Gweler, Löffler, ‘Cyfieithiadau emyn heddychol’, xx–xx.
110
Am ddewisiadau (anymwybodol) cyfieithwyr o leisiau ‘niwtral’ neu ‘neutralizing’, ‘tafleisiol’ neu
‘ventriloquizing’, a ‘pellhaol’ neu ‘distancing’, wrth ymgymryd â’r proses o gyfieithu, gweler Brian Mossop,
‘The Translator’s Intervention through Voice Selection’, yn Jeremy Munday (gol.), Translation as Intervention
(London, 2007), tt. 18–37.
106
28
gweddol agos o’r gerdd Saesneg chwe phennill o bedair llinell, â dau gwpled odliadol ym mhob
un, a geir yma. Eto i gyd, newidia Tomos eiriau a threfn llinellau, gollynga eiriau, ac
ychwanega ddeunydd, i gyfleu ei neges ei hun. O asesu’r effaith, y mae’r cyfanwaith yn llai
darluniadol o dywyll neu Gothig ei arddull, ac yn fwy gweithredol na’r gwreiddiol. Egyr
pennill un ag apêl ganolog at ‘Dduw’r tosturi’. Tomos, o’r pedwar bardd, yw’r unig un i
ddefnyddio’r gosodiad hwn am Dduw fel bod cydymdeimladol yn hytrach nag arglwydd
lluoedd mawr, sy’n creu agosatrwydd yn syth. Yn lle cwestiwn pryderus y gwreiddiol a
chyfieithiadau Evans a Davis, ceir datganiad byr ar ddioddefaint ‘gweddwon a’r ymddifaid
prudd, sy’n llefain arnat nos a dydd’, fel her i Dduw dalu sylw. Ym mhennill dau, troir ‘red
and terrible hand’ yr arglwydd yn wialen a fflangella Ewrop, dyfais a ddefnyddir hefyd gan
David Davis, o bosib am fod y ddelwedd hon yn gyfarwydd o ddisgẃrs filflwyddiaethol y
cyfnod.111 Cyfieitha’r ymadrodd beiblaidd ‘thy flaming vengeance’ fel ‘dy ddyrnod dig’, a’r
mynegiant hwnnw’n fwy agos at iaith y bobl gyffredin. Yn bwysicaf, y mae’n hepgor y gair
‘guilty’ sydd yn y testun ffynhonnell a’r cyfieithiadau eraill, gan warantu maddeuant i’r
gynulleidfa. Egyr pennill tri â chyfieithiad agos o linell un y ffynhonnell, sef bod afonydd
Ewrop yn waed i gyd, ond try’r ‘veins’ yn ‘ffrydiau’, er dealltwriaeth well. Disodla’r ‘towers’,
‘ashes’ a ‘graves’ Gothig gyda ‘meirw sethrir dan draed’, delwedd drawiadol, ond mwy
diriaethol. Yn lle’r delweddau tywyll a ddilyna, ac a gyfieithir yn ffyddlon gan Edward Evan,
ymddengys llinellau tri a phedwar fel Versatzstücke, ymadroddion gosodedig a arferwyd
ganddo mewn cyfieithiadau eraill ar y pryd.112 Siawns iddo geisio osgoi delweddau’r
gwreiddiol, a gorfod canfod llinellau addas ar hast. Ceir geiriad gwahanol, mwy rhugl, yn ei
fersiwn o 1811, sef ‘Ein cedyrn, trwy ffyrnigrwydd mawr, / Eu rhifo gânt i lwch y llawr’. Yr
un amcan sydd gan y ddau fersiwn, serch hynny, sef delweddu tra-arglwyddiaeth Duw dros
111
112
Ceir enghreifftiau o’r ddisgẃrs hon yn y Gymraeg yng ngwaith Morgan John Rhys.
Löffler, Welsh Responses, tt. 229–30; LlGC Llsgr. 12365D, Alcwyn C. Evans, ‘Collectiana’, f. 526.
29
fawrion Ewrop. Y mae’n arwyddocaol fod cyfieithiad David Davis o’r llinellau hyn yn
defnyddio’r un syniad o wŷr mawr darostyngedig gan Dduw yn lle’r delweddau Gothig yn y
gwreiddiol ac yng nghyfieithiad Edward Evan. Cryfhânt y teimlad fod Tomos Glyn Cothi a
David Davis yn ymwybodol o gyfieithiadau ei gilydd.
Yn ôl ym 1795, y newid mwyaf trawiadol a wna Tomos Glyn Cothi ym mhennill
pedwar yw newid yr ansoddair i ‘uchel ffroen’ yn hytrach na chyfieithu ‘mad’ i’r Gymraeg. Y
mae gormeswyr Ewrop yn gyfrifol am eu gweithredoedd eu hunain, felly. Gofynna i Dduw eu
gwneud nhw’n ‘addfwyn megis oen’, gan osgoi’r gosodiad anghyfarwydd hyd yn oed yn
Saesneg y cyfnod, ‘whose haughty foreheads beat the sky’. Ym mhennill pump, cyfieitha ‘That
Arm alone Salvation brings’ fel ‘I’n cadw rhag gorthrymder llym’, gan bersonoli trwy newid
y mynegiant i’r person cyntaf lluosog a pholiticeiddio drwy fewnosod ‘gorthrymder llym’.
Cynydda ei gyfieithiad o’r pennill olaf neges wleidyddol y testun ffynhonnell yn ogystal, a
fynegir yno drwy’r allweddeiriau ‘rights’, ‘truth’ a ‘peace’. Ychwanegir ‘rhyddid’ gan Tomos
Glyn Cothi – allweddair pwysicaf disgẃrs radicalaidd y cyfnod o bosib – ddwywaith.
Erbyn i Tomos Glyn Cothi ddiwygio ei gyfieithiad ym 1811, treuliasai ddwy flynedd
yn y carchar, bu’n sefyll yn y carchar cyffion ddwywaith ac fe’i rhwymwyd i gadw’r heddwch
am saith mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau. O ganlyniad ceir yr argraff iddo fod yn fwy
gofalus. Mabwysiadwyd llais mwy ‘tafleisiol’ ganddo o bosib, a’i broses o gyfieithu y tro hwn
yn fwy gwybodus o ddisgwyliadau’r sawl a fyddai’n darllen y testun, gan gynnwys yr
awdurdodau.113 Ni cheir ‘rhyddid’ pellach yn y pennill olaf, sydd wedi newid yn gyfan gwbl i
ddatgan neges heddychol yn hytrach nag un wleidyddol, a gobaith am ddiwedd rhyfel. Y mae’n
bosib, wrth gwrs, i’r newid agwedd darddu o fyw gyda rhyfel am un mlynedd ar bymtheg.
Mae’r ail fersiwn yn fwy caboledig hefyd, fel y gwelwyd yn achos llinellau tri a phedwar ym
113
Gweler nodyn 110.
30
mhennill tri. Cofier bod gan Tomos bymtheg mlynedd yn ychwaneg o brofiad ysgrifennu a
chyfieithu, ac iddo gyhoeddi casgliad o emynau ym 1811. Cyfuna’r profiad â fflachiadau o’r
hen ysbryd gwleidyddol yn y newidiadau i bennill pump, ble y disodlir y cyfeiriad beiblaidd at
yr iau Eifftaidd, a geir ym mhob un o’r testunau eraill, yn gyfan gwbl. Yn ei le ceir testun mwy
cyffredinol a erfynia ar Dduw ‘i’n cadw rhag gorthrymder llym; / Y fraich waredodd lawer
gwaith, y caethion o gyfyngder maith’.
Cyfieithiad agos iawn yw un Edward Evan, a wnaethpwyd cyn 1798, er nad
ymddangosodd y testun tan 1804. Gosodwyd y testun dwyieithog hwn yn ofalus, i’r darllenydd
gymharu’r Saesneg â’r Gymraeg gyfochrog linell wrth linell, bron â bod air am air, ac y mae
cyfieithydd a golygydd yn ei gwneud hi’n glir mai adrodd llais rhywun arall y maent.
Disgrifiwyd yr agwedd hon at y proses o gyfieithu fel un ‘pellhaol’, gan fod y cyfieithydd yn
ceisio cyfeirio’r testun yn ôl at y gwreiddiol ac ymbellhau oddi wrth y cynnyrch.114 Amlygir
hyn mewn gosodiadau Cymraeg anghyfarwydd braidd, megis ‘gogwydda nawr dy glust’ yn
llinell un y gerdd, neu ‘bob talcen balch ac uchel, sy’n curo’r awyr fry’ ym mhennill pedwar,
llinell pedwar. O ganlyniad i’r arddull o gyfieithu llythrennol, y mae gan y gerdd hon arlliw
dywyll, Gothig, yn enwedig o ystyried y trydydd pennill. Yr unig newid sylfaenol a wneir gan
Edward Evan yw ei benderfyniad i gyfyngu’r olygfa i Brydain yn lle Ewrop ym mhennill dau,
sydd yn newid ansawdd a neges gweddill y gân. Ychwanega yntau’r gair ‘rhyddid’ ym
mhennill chwech, ond ‘rhyddid gwir dy ras’, sef gras Duw, yw ei amcan ar gyfer y gynulleidfa.
Cyfieithiad David Davis, o bosib, yw’r un mwyaf llwyddiannus o ran disgwyliadau i
gerdd yn yr iaith Gymraeg. Teimla’r darllenydd ei fod yn hollol gyfforddus yn ei groen yn y
proses o drosi’r testun i greu cerdd Gymraeg wych. Ceidw’n agosach at drefn a geiriad y testun
ffynhonnell na Tomos, gan gadw ansoddeiriau megis ‘guilty’ fel ‘euog’, a delweddau megis
114
Gweler nodyn 110.
31
un y tân ym mhennill dau, llinell pedwar. Y mae’r mannau ble y cyfieitha’n fwy rhydd yn cyddaro â dewisiadau Tomos Glyn Cothi, yn enwedig y newidiadau a wnaed i greu fersiwn 1811.
Gwelir hyn ym mhennill dau, llinellau un a dau, ble y mae’r ddau fardd yn newid trefn y
llinellau, yn newid ‘war’ am gosbau neu deimladau mwy pendant, a defnyddio’r trosiad o
wialen fflangellu Duw yn lle’r un o’i law goch. Y mae’n ddiddorol i David Davis erfyn ar i
Dduw ddarostwng, nid y ‘gorthrymwyr’ bydol a geir yn y gwreiddiol ac yn y cyfieithiadau
eraill yn unig, ond hefyd y ‘cablwyr hyll’ sy’n gwyrdroi neges Duw. Terfyna’r cyfieithiad hwn
gyda mynegi gobaith am ryddid i bawb, yn debyg i’r gwreiddiol, ond ychydig yn fwy miniog
drwy ei gyfuniad o ‘gaethion’ â ‘breintiau rhydd-did’. Y mae ychwanegu’r gair ‘rhyddid’ at y
gwreiddiol yn ein hatgoffa o gyfieithiad 1795 Tomos Glyn Cothi unwaith yn rhagor. Y mae
hi’n glir i’r cyfieithiadau ffurfio grŵp, a chaniatâ eu bodolaeth i ni gymharu techneg ac arddull
gyfieithu’r tri bardd, ond ni ellir gwybod i ba raddau y cydweithient.
Casgliadau
Yr wyf yn ymwybodol iawn ei bod yn amhosib rhoddi dadansoddiad llawn o ystod ac ystyr y
gwaith cyfieithu a wnaed gan radicaliaid Cymru yn sgil Chwyldro Ffrengig 1789 a’i effeithiau
hir dymor. Amcan yr ysgrif hon oedd arddangos rhai o nodweddion y ddisgẃrs gyhoeddus a’r
farn breifat am gyfieithu, llwybrau troellog y ffynonellau i Gymru a’r Gymraeg, yr agweddau
a ddylanwadodd a’r technegau a ddefnyddiwyd i drosi’r testunau ffynhonnell Saesneg, y
rhwydweithiau o feirdd a chyfieithwyr, a’r modd y derbyniwyd eu gwaith y tu hwnt i ddiwedd
y ddeunawfed ganrif. Yn ychwanegol, amcenais hyrwyddo ein gallu i drafod cyfieithu
diwylliannol yng nghyfnodau hanesyddol y Gymraeg drwy briodoli cysyniadau megis
‘cyfieithu dilynol’, ‘cyfieithu cyfnewid’, ‘ffug-gyfieithu’, a’r cysyniad o leisiau ‘niwtral’,
‘tafleisiol’ a ‘pellhaol’ i’r maes ymchwil yng Nghymru a’r derminoleg i’r Gymraeg. Yn anad
32
dim, gobeithio i mi hyrwyddo ein gwerthfawrogiad o gyfraniad cyfieithwyr megis Eiddil, Jac
Glan-y-gors, Tomos Glyn Cothi, David Davis ac Edward Evan i iaith a llên Cymru.
Marion Löffler
ABERYSTWYTH
33