llygad
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈɬəɡad/
- ar lafar: /ˈɬɨ̞ɡad/
- yn y De: /ˈɬəɡad/
- ar lafar: /ˈɬɪɡad/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol llygat o'r Hen Gymraeg licat o'r Frythoneg *luk-ati- o'r gwreiddyn Indo-Ewropeg *leuk- ‘goleuni, disgleirdeb’ a welir hefyd mewn llug, lluch, lleu, golau, golwg ac yn y Lladin lūcēs ‘llygaid’ a'r Sansgrit locana (लोचन) ‘llygad’. Cymharer â'r Llydaweg lagad a'r Gernyweg lagas.
Enw
llygad b (lluosog: llygaid)
- (anatomeg) Organ gweld cau bron yn sfferig sy'n sensitif i olau. Newidia'r golau yn signalau trydanol a drosglwyddir i'r ymennydd, ac wrth wneud hynny gall anifeiliaid weld.
Cyfystyron
- (yn llenyddol) golygon
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: llygadog ~ llygeidiog, llygadol ~ llygeidiol, llygadu
- cyfansoddeiriau: drwglygad, llygad-drwynol, llygad-dynnu, llygatfain, llygatgam, llygatgraff, llygatsych, llygatsymudol, llygatwib
- cyfuniadau: llygad du
Idiomau
Cyfieithiadau
|
|