arwydd
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈarwɨ̞ð/
- yn y De: /ˈa(ː)rʊi̯ð/, /ˈarwɪð/
Geirdarddiad
Cymraeg Canol arwyd o'r Gelteg *φarewēdiom o *φare ‘ar’ + *wēdiom fel yn gŵydd ‘presenoldeb; golwg’. Cymharer â'r Gernyweg arwodh, y Llydaweg arouez a'r Gwyddeleg Canol airde.
Enw
arwydd g (lluosog: arwyddion)
- Awgrym gweladwy.
- Roedd y cymylau duon yn arwydd sicr fod glaw ar ei ffordd.
- Gwrthrych y gellir ei weld yn glir, gyda neges byr ar ffurf geiriau neu luniau arno.
- Roedd arwydd ar ddrws y siop yn nodi ei fod ar gau.
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: arwyddo
- cyfansoddeiriau: arwyddair, arwyddlun
- iaith arwyddo
Cyfieithiadau
|
|