Zenobia (planhigyn)
Gwedd
Zenobia | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Ericales |
Teulu: | Ericaceae |
Genws: | Zenobia D. Don |
Rhywogaeth: | Z.pulverulenta |
Enw deuenwol | |
Zenobia pulverulenta (Bartram ex Willd.) Pollard |
Zenobia pulverulenta (Saesneg: Honeycup) yw'r unig rywogaeth yn y genws Zenobia, yn nheulu planhigyn blodeuog yr Ericaceae. Mae'n blanhigyn sy'n frodorol i dde-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn Virginia, Gogledd Carolina a De Carolina.
Mae'n goeden fach gollddail neu rhannol-fytholwyrdd sy'n cyrraedd rhwng 0.5-1.8 m. Trefnir y dail yn droellog, yn wyffurf neu'n eliptig, â hyd 2–7 cm. Mae'r blodau yn wyn, o siâp clychog, hyd 12 mm a lled 10 mm, a chanddynt oglau persawrus, melys. Mae'r ffrwythau yn gapsiwls sych pump falf.