Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol
Math | oriel gelf, amgueddfa genedlaethol, corff cyhoeddus anadrannol |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Agoriad swyddogol | 1856 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | National Portrait Gallery Board of Trustees |
Lleoliad | St Martin's Place |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5094°N 0.1281°W, 51.5094°N 0.1281°W |
Cod OS | TQ2999580611 |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Adfywiad y Dadeni |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Mae'r Oriel Bortreadau Genedlaethol (Saesneg: National Portrait Gallery) yn oriel gelf yn Llundain. Mae ganddo gasgliad o bortreadau o bobl Brydeinig enwog o bwys hanesyddol. Hwn oedd yr oriel bortreadau gyntaf yn y byd pan agorodd ym 1856.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Symudodd yr oriel ym 1896 i'w safle presennol yn St Martin's Place, oddi ar Sgwâr Trafalgar; mae'r adeilad y tu cefn i'r Oriel Genedlaethol. Mae wedi cael ei ehangu ddwywaith ers hynny. Nid yw wedi'i gysylltu ag Oriel Bortreadau Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin. Mae'r NPG yn gwango a noddir gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Llywodraeth Brydeinig.
Allbyst
[golygu | golygu cod]Mae gan yr Oriel Bortreadau Genedlaethol dau allbost rhanbarthol yn Beningbrough Hall, yn Swydd Efrog, a Montacute House yng Ngwlad yr Haf. Rhwng 1988 a 2018 bu gan yr oriel allbost yng Nghastell Bodelwyddan hefyd. Roedd yn arddangos 130 o bortreadau o'r casgliad. Oherwydd torri cyllid i gefnogi'r arddangosfa gan Gyngor Sir Ddinbych yn 2017 cafodd y portreadau eu dychwelyd i Lundain.[2]
Y casgliad
[golygu | golygu cod]Mae'r oriel yn gartref i bortreadau o bobl Brydeinig o bwys hanesyddol ac enwog, wedi'u dewis ar sail arwyddocâd yr eisteddwr, nid yr artist. Mae'r casgliad yn cynnwys ffotograffau a gwawdluniau yn ogystal â phaentiadau, lluniadau a cherfluniau.[3]
Un o'i ddelweddau mwyaf adnabyddus yw'r portread Chandos, y portread enwocaf o William Shakespeare[4] er bod peth ansicrwydd ynghylch a yw'r darlun yn perthyn i'r dramodydd mewn gwirionedd.[5]
Er bod enghreifftiau o waith gan artistiaid megis Richard Willson, John Singer Sargent, William Hogarth, Syr Joshua Reynolds ac artistiaid nodedig eraill yn y casgliad nid yw'r holl bortreadau yn eithriadol o artistig. Yn aml, mae gwerth chwilfrydedd yn fwy na gwerth artistig yn y gwaith, fel yn achos y portread o Edward VI gan William Scrots, darlun Patrick Branwell Brontë o'i chwiorydd Charlotte, Emily ac Anne, neu gerflun o'r Frenhines Victoria a'r Tywysog Albert mewn gwisg ganoloesol.
Mae rhai o'r darluniau megis y portread grŵp o fynychwyr cynhadledd Somerset House 1604 i ddathlu cytundeb heddwch rhwng Lloegr a Sbaen yn ddogfennau hanesyddol pwysig ynddynt eu hunain.[6]
Caniatawyd portreadau o ffigurau byw ym 1969.
Yn ogystal â'i orielau parhaol o bortreadau hanesyddol, mae'r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn arddangos casgliad o waith cyfoes sy'n newid yn aml, yn cynnal arddangosfeydd o gelf bortreadau gan artistiaid unigol ac yn cynnal cystadleuaeth flynyddol Gwobr Bortread BP.
Mae gan yr Oriel lawer o bortreadau gan gerflunwyr. Mae'r cerflunwyr yn Brydeinwyr neu'n bobl sydd wedi byw ym Mhrydain yn bennaf, ac mae'r pynciau'n Brydeinig. Mae cerflunwyr yn cynnwys cerfluniau modern gan gerflunwyr fel Syr Jacob Epstein (14 enghraifft), y Fonesig Elisabeth Frink (5 enghraifft), a Syr Eduardo Paolozzi (pedwar cerflun hunanbortread).
Cyfarwyddwyr
[golygu | golygu cod]- 1857–1895 Syr George Scharf KCB
- 1895–1909 Syr Lionel Cust KCVO FSA
- 1909–1916 Charles John Holmes
- 1917–1927 James Milner
- 1927–1951 Henry Hake[7]
- 1951–1964 Charles Kingsley Adams
- 1964–1967 Syr David Piper
- 1967–1973 Syr Roy Strong
- 1974–1994 John Hayes
- 1994–2002 Charles Saumarez Smith
- 2002–2015 Sandy Nairne CBE, FSA
- 2015– Nicholas Cullinan
Hawlfraint lluniau'r NPG
[golygu | golygu cod]Yn 2009, bu anghydfod cyfreithiol rhwng yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac un o olygyddion Wikipedia, a lawr lwythodd filoedd o atgynhyrchiadau cydraniad uchel o bortreadau oedd yn y parth cyhoeddus o wefan yr NPG, a'u gosod ar Gomin Wikimedia.[8] Hawliodd yr Oriel ei bod yn dal hawlfraint yn y delweddau digidol a lwythwyd i Gomin, a'i bod wedi gwneud buddsoddiad ariannol sylweddol wrth greu'r atgynhyrchiadau digidol hyn.
Yn 2012 trwyddedodd yr Oriel 53,000 o ddelweddau cydraniad isel dan drwydded Creative Commons, gan sicrhau eu bod ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer defnydd anfasnachol.[9]
Mae 87,000 o ddelweddau cydraniad uchel eraill ar gael at ddefnydd academaidd o dan drwydded yr Oriel ei hun sy'n gwahodd rhoddion am eu defnyddio; yn flaenorol, cododd yr Oriel tâl am ddelweddau cydraniad uchel.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ""National Portrait Gallery: About"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-12-04. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "Bodelwyddan Castle's portrait gallery exhibition to close". BBC. 13 Mawrth 2017. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ "Every great country must have its portrait gallery". Canada.com. 12 Hydref 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ National Portrait Gallery | What's on? | Searching for Shakespeare
- ↑ Higgins, Charlotte (2 Mawrth 2006). "The only true painting of Shakespeare – probably". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ "The Somerset House Conference, 19 August 1604 (Painting)". Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ "Cofiant i'w dad y cemegydd Henry Wilson Hake". Rsc.org. 1 Ionawr 1930. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ "Gallery in Wikipedia legal threat". BBC News. British Broadcasting Corporation. 15 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.
- ↑ Atkinson, Rebecca (22 Awst 2012). "NPG changes image licensing to allow free downloads". Museums Journal. Cyrchwyd 12 Mawrth 2019.