[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Ymgarthion

Oddi ar Wicipedia
Ymgarthion eliffant yn y gwyllt

Y gwastraff corfforol o system dreulio anifail yw ymgarthion neu ysgarthion (Saesneg: faeces).[1] Defnyddir y geiriau carthion a baw tail ar lafar gwlad gan amaethwyr wrth sôn am lanhau'r beudy. Defnyddir y gair dom yn y Beibl yn ei le. Gelwir y weithred o gael gwared â'r gwastraff hwn o'r corff yn ysgarthu.

Wedi i anifail fwyta a thrulio bwyd, mae'r hyn sydd'n weddill ohono'n cael ei yrru allan o'r corff drwy'r anws. Mae'r ymgarthion yma'n cynnwys hyd at 50% o'r maeth oedd ynddo cyn ei dreulio.[2] Mae llawer o organebau fel bacteria, ffyngau neu chwilen y dom, felly'n bwyta'r ymgarthion hyn a gallent ganfod y bwyd drwy ei ogla o hirbell.[3] Mae rhai'n arbenigo ar ei fwyta tra bod eraill hefyd yn bwyta bwydydd eraill. Mae rhai rhywogaethau'n ei fwyta fel atodiad i'w prif ddeiet ee llo eliffant yn bwyta ymgarthion ei fam a gelwir hyn yn garthysydd neu yn domysydd. Drwy hyn, mae'r llo'n derbyn bacteria da sydd yn eu tro'n helpu i dreulio bwyd. Anifeiliaid eraill sy'n gwneud hyn yw cŵn, cwningod a mwnciod.

Gall adar ysglyfaethus weld rhai ymgarthion neu biso anifail o bell, yn enwedig y rheiny sy'n adlewyrchu golau uwchfioled, ac mae hyn yn eu harwain at eu hysglyfaeth.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi; Gwasg Prifysgol Cymru, 1995; tudalen F:502
  2. Biology (4ydd rhifyn) N.A.Campbell (Benjamin Cummings NY, 1996) ISBN 0-8053-1957-3
  3. Heinrich B, Bartholomew GA (1979). "The ecology of the African dung beetle". Scientific American 241 (5): 146–56. doi:10.1038/scientificamerican1179-146. https://archive.org/details/sim_scientific-american_1979-11_241_5/page/146.
  4. "Document: Krestel". City of Manhattan, Kansas. Cyrchwyd 11 Chwefror 2012.[dolen farw]
Chwiliwch am ymgarthion
yn Wiciadur.