[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

YesCymru

Oddi ar Wicipedia
YesCymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Idiolegcenedlaetholdeb Cymreig, annibyniaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2014 Edit this on Wikidata
PencadlysCaerdydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://yes.cymru/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Logo YesCymru
Baner YesCymru yn cael ei chwifio gan band 'Tŷ Gwydr' mewn gig yn Eisteddfod Caerdydd, 2018

Mudiad amhleidiol, Cymreig yw YesCymru a sefydlwyd ym Medi 2014, gyda'r nod o ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae YesCymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]

Ar 1 Medi 2014, wedi'u hysbrydoli gan refferendwm annibyniaeth yr Alban a oedd i'w chynnal ar 18 Medi, cynhaliwyd cyfarfod dros y we a oedd yn cynnwys Branwen Alaw, Hedd Gwynfor, Armon Gwilym ac Iestyn ap Rhobert i drafod cynnal rali yn Nghaerdydd i gefnogi annibyniaeth i'r Alban. Fe ymunodd Leon Russel a Siôn Jobbins gyda'r gwaith trefnu ac ar 13 Medi 2014 cynhaliwyd rali o flaen adeilad y Senedd dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba'. Ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[2]

Ar 27 Medi 2014 cynhaliwyd cyfarfod cyntaf wedi'r rali i drafod ffurfio mudiad dros Annibyniaeth i Gymru yn Chapter, Caerdydd. Yn bresennol roedd: Armon Gwilym, Catrin Dafydd, Iestyn ap Rhobert, Branwen Alaw Evans, Colin Nosworthy, Osian Rhys, Emyr Gruffydd a chafwyd ymddiheuriad gan Hedd Gwynfor.

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[3]

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Ar 2 Tachwedd 2020, roedd gan y mudiad 12,000 o aelodau.[4][5] Golygai hyn y gwelwyd cynnydd o 3,000 o aelodau mewn llai na tridiau (30 Hydref - 2 Tachwedd; a chynnydd o 9,000 o aelodau rhwng Chwefror a Thachwedd. Tyfodd aelodaeth ac amlygrwydd YesCymru yn esbonyddol yn ystod y pandemig COVID-19. Yng ngwanwyn 2020 dyblodd nifer yr aelodau o 2,500 i 5,000 dros ddau fis yn unig. Cafodd y sefydliad gynnydd pellach o oddeutu 3,000 o aelodau dros dri diwrnod ddiwedd mis Hydref 2020; roedd y codiad hwn yn cyd-fynd â llywodraeth San Steffan yn gwrthod rhoi hwb i fusnesau Cymru ar gyfer y cyfnod cau tân '17 diwrnod' yng Nghymru. Yn Ionawr 2021, honnodd YesCymru fod ganddo fwy na 17,000 o aelodau cofrestredig. Cred Siôn Jobbins mai un o'r rhesymau dros dwf mor gyflym yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig. Erbyn Medi 2024 roedd yr aelodaeth ychydig dros 6,000.

Gorymdeithiau Cenedlaethol

[golygu | golygu cod]

Ym Mai 2019, gyda Pawb Dan Un Faner (AUOB Cymru), trefnwyd yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd. Yn ogystal â'r ddau fudiad yma, cefnogwyd yr orymdaith gan Awoken Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Cefnogwyr Peldroed dros Annibyniaeth, Llafur dros Annibyniaeth, Gellir Gwell!, ac Undod. Anerchwyd y dorf gan Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru), Carys Eleri (Actor), Ben Gwalchmai (Llafur Dros Annibyniaeth), Siôn Jobbins (Cadeirydd YesCymru), Sandra Clubb (mudiad chwith dros annibyniaeth, Undod) ac Ali Goolyad (Bardd). Yn ôl y wasg, roedd dros 2,000 yn bresennol.

Rhestr gorymdeithiau a niferoedd

[golygu | golygu cod]
1. 11 Mai 2019: Caerdydd 3,000[6] (Comin)
2. 27 Gorffennaf 2019: Caernarfon 8,000[7] (Comin)
3. 7 Medi 2019: Merthyr Tudful 5,200[8] (Comin)
4. 2 July 2022: Wrecsam 8,000[9](Comin)
5. 1 Hydref 2022: Caerdydd 10,000[10] (Comin)
6. 10 Mai 2023: Abertawe 7,000[11] (Comin)
7. 23 Medi 2023 Bangor: 10,000[12] (Comin)
8. 22 Mehefin: Caerfyrddin 5,500[13]

Llyfryn Annibyniaeth yn dy Boced

[golygu | golygu cod]
'Annibyniaeth yn dy Boced'

Yn 2017 cyhoeddodd y mudiad lyfryn ddwyieithog maint A6 o'r enw 'Annibyniaeth yn dy Boced' ('Independence in your pocket'). Argraffwyd y llyfr gan Gwasg y Lolfa. Rhoddwyd fersiwn pdf am ddim o'r llyfr ar wefan YesCymru yn ogystal â'r copi print.

Gludyn YesCymru

Radio YesCymru

[golygu | golygu cod]

Darlledwyd Radio YesCymru ar y we yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Darlledwyd ar wefan cymru.fm a hefyd Radio Beca. Roedd y darllediadau byw rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener 8-19 Awst. Recordiwyd y rhaglenni o swyddfa Indycube ar Sgwâr Mount Stewart. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins a cafwyd cyfweliadau amrywiol gyda chenedlaetholwyr gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, Adam Price, Eurfyl ap Gwilym, y llenor Catrin Dafydd (enillydd Cadair yn Eisteddfod Caerdydd), Huw Marshall, Llwyd Owen a Gareth Bonello.


Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Gwefan swyddogol y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-04. Cyrchwyd 2015-08-29.
  2. Rali Ewch amdani Alba
  3. Rali’n galw am “chwarae teg” i Gymru
  4. "Canghennau YesCymru yn rhan annatod o'r ymgyrch am annibyniaeth". Golwg360. 2020-11-02. Cyrchwyd 2020-11-02.
  5. Cyfri Twitter @YesCymru; adalwyd 2 Tachwedd 2020
  6. nation.cymru; adalwyd 19 Medi 2024.
  7. Gwefan YesCymru; adalwyd 19 Medi 2024.
  8. bbc.co.uk; adalwyd 19 Medi 2024.
  9. nation.cymru; adalwyd 19 Medi 2024.
  10. thenational.scot; adalwyd 19 Medi 2024.
  11. walesonline.co.uk; adalwyd 19 Medi 2024.
  12. nation.cymru; adalwyd 19 Medi 2024.
  13. www.yes.cymru; adalwyd 19 Medi 2024.