[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Y Broads

Oddi ar Wicipedia
Y Broads
Mathardal gadwriaethol, parc cenedlaethol, cors Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,275 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1988 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNorfolk
Suffolk
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd303 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7242°N 1.6408°E, 52.6667°N 1.5°E Edit this on Wikidata
Cod SYGE26000007 Edit this on Wikidata
Map

Rhwydwaith o afonydd a llynnoedd yn Norfolk a Suffolk, Dwyrain Lloegr, yw'r Broads[1] neu Llynnoedd Norfolk[2] (Saesneg: The Broads neu Norfolk Broads). Mae statws yr ardal yn cyfateb i statws Parc Cenedlaethol.

Mae'r ardal yn ymestyn ar draws arwynebedd 303 km², y rhan fwyaf ohono yn Norfolk, gyda dros 200 km o ddyfrffyrdd y gellir eu mordwyo. Mae saith afon a 63 o lynnoedd, y rhan fwyaf yn llai na 4 metr (13 tr) o ddyfnder.

Y Broads yn Nwyrain Lloegr

Am nifer o flynyddoedd roedd y llynnoedd yn cael eu hystyried yn nodweddion naturiol y dirwedd. Dim ond yn y 1960au y profodd Joyce Lambert eu bod wedi'u creu gan bobl: mewn gwirionedd cloddiadau mawn gorlifiedig oeddent.[3] Yn yr Oesoedd Canol roedd y mynachlogydd lleol yn cloddio'r mawndiroedd fel busnes, gan werthu tanwydd i Norwich a Great Yarmouth. Cymerodd Eglwys Gadeiriol Norwich 320,000 tunnell o fawn y flwyddyn. Yna dechreuodd lefelau'r môr godi, a dechreuodd y pyllau orlifo. Er gwaethaf adeiladu pympiau gwynt a chloddiau, parhaodd y llifogydd. Y canlyniad oedd tirwedd nodweddiadol yr ardal a welir heddiw, gyda'i gwelyau cyrs, corsydd pori a choetir gwlyb.

Mae'r Broads wedi bod yn gyrchfan gwyliau cychod ers diwedd y 19g.

Mae'r Broads, er eu bod yn cael eu gweinyddu gan y Broads Authority, yn rhoi eu henw i ardal llywodraeth leol Broadland yn Norfolk, tra bod rhannau o'r Broads hefyd yn gorwedd o fewn ardaloedd llywodraeth eraill: Ardal Gogledd Norfolk, Ardal De Norfolk, Dinas Norwich a Bwrdeistref Great Yarmouth yn Norfolk, yn ogystal ag Ardal Dwyrain Suffolk.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Yr Atlas Cymraeg Newydd
  2. Geiriadur yr Academi, broad2 > the [Norfolk] Broads.
  3. Joyce M. Lambert, The Making of the Broads (Llundain: Royal Geographical Society, 1960)