Wicipedia:Ar y dydd hwn/1 Mawrth
Gwedd
1 Mawrth: Dydd Gŵyl Dewi; Diwrnod annibyniaeth Bosnia-Hertsegofina (1992)
- 86 CC – Cipiodd Lucius Cornelius Sulla ddinas Athen.
- 1244 – bu farw Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain
- 1633 – bu farw George Herbert o Drefaldwyn, bardd yn yr iaith Saesneg
- 1683 – ganwyd Caroline o Ansbach, Tywysoges Cymru a Brenhines Prydain Fawr (m. 1737)
- 1869 – gorffennodd y cemegydd Rwsiaidd Dmitri Mendeleev ei gynllun cyntaf ar gyfer tabl cyfnodol yr elfennau
- 1979 – gwrthodwyd cynlluniau datganoli'r llywodraeth ar gyfer Cymru a'r Alban mewn refferendwm
- 2015 – estynwyd Rheilffordd Llangollen i Gorwen.
|