Vercingetorix
Vercingetorix | |
---|---|
Ganwyd | c. 80 CC Gâl |
Bu farw | 46 CC o garrote Rhufain |
Dinasyddiaeth | Arverni |
Galwedigaeth | penadur, person milwrol |
Tad | Celtillus |
Roedd Vercingetorix (bu farw 46 CC) yn bennaeth Galaidd o lwyth yr Arverni a ddaeth yn arweinydd y Galiaid yn eu gwrthwynebiad i'r Ymerodraeth Rufeinig.
Dechreuodd Iŵl Cesar ar ei ymgyrchoedd i goncro Gâl pan benodwyd ef yn llywodraethwr talaith Gallia Narbonensis yn 58 CC. Erbyn dechrau 52 CC roedd wedi concro rhan helaeth o'r wlad, ond roedd nifer o lwythau yn cynllunio gwrthryfel. Llwyth y Carnutes dan Cotuatus a Conetodunus a ymosododd ar y Rhufeiniaid gyntaf.
Ni wyddir llawer am hanes cynnar Vercingetorix ei hun. Roedd o deulu uchelwrol yn Gergovia, ac roedd ei dad, Celtillus, wedi cael ei ddienyddio am geisio cipio grym iddo'i hun. Pan ddechreuodd y gwrthryfel, cododd Vercingetorix fyddin o'i ddilynwyr i ymuno yn yr ymladd, ond gwrthododd prif arweinwyr y ddinas, yn cynnwys ei ewythr Gobanitio, ymuno, ac alltudiwyd Vercingetorix o'r ddinas. Gyda chymorth y bobl gyffredin, llwyddodd Vercingetorix i gipio Gergovia a chyhoeddwyd ef yn frenin.
Apwyntiwyd Vercingetorix yn arweinydd y gwrthryfel Galaidd, a llwyddodd i orchfygu Cesar a Titus Labienus mewn nifer o frwydrau bach. Llwyddodd y Rhufeiniaid i gipio prifddinas y llwyth, Avaricum (Bourges heddiw). Enillodd Vercingetorix fuddugoliaeth ym mrwydr Gergovia, ond pan ymosododd ar y Rhufeiniaid dan gredu eu bod yn encilio, dioddefodd y Galiaid golledion sylweddol.
Enciliodd Vercingetorix i Alesia, a gosododd Cesar warchae arno. Adeiladodd y Rhufeiniaid fur o amgylch y ddinas, gyda mur allanol i atal unrhyw ymgais gan y Galiaid tu allan i Alesia i godi'r gwarchae. Ceisiodd byddin fawr o nifer o lwythau godi'r gwarchae, ond gorchfygwyd hwy gan Cesar, a bu raid i Vercingetorix ildio. Cadwyd ef yn garcharor yn Rhufain am bum mlynedd cyn ei ddienyddio.
Ystyrir ef yn un o arwyr cededlaethol Ffrainc, ac yn 1865 cododd yr ymerawdwr Napoleon III gofgolofn iddo ar safle Alesia.