[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Valériane Leblond

Oddi ar Wicipedia
Valériane Leblond
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Arlunydd Ffrengig sy'n byw yng Nghymru yw Valériane Leblond. Mae'n paentio ar bren yn bennaf, gan greu tirluniau, bythynnod a delweddau o wragedd wrth eu gwaith tŷ.[1]

Yn wreiddiol o Angers, Pays de la Loire, astudiodd Leblond yng ngholeg Rennes, a Phrifysgol Nantes, Llydaw.[2] Symudodd i Gymru yn 2006, mae'n byw ym mhentref Llangwyryfon yng Ngheredigion. Mae Leblond yn siarad Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg. Mae hefyd yn gweithio fel cynorthwyydd Ffrangeg yn Ysgol Gyfun Penglais.[1]

Cafodd y llyfr Dim Ond Traed Brain gan Anni Llŷn, a ddarluniwyd gan Leblond, ei osod ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2017.[3]

Yn 2019 enillodd Wobr Tir na n-Og ar y cyd gydag Elin Meek, am ei gwaith darlunio yn y llyfr Cymru ar y Map, a gyhoeddwyd gan Rily Publications.[4]

Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf i blant Y Cwilt gan Y Lolfa yn 2019. Mae'r stori yn ymwneud â theulu bach yn gadael Cymru a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America bell. Mae'r cwilt yn dod â chysur mawr pan mae hiraeth yn codi. Dyma'r gyfrol gyntaf i Valériane sgwennu'r stori a chreu'r lluniau.[5]

Mae ychydig o debygrwydd rhwng arddull Leblond ac elfennau o waith Lizzie Spikes.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (22 Hydref 2009) Brensiach y bratiau! Ffrances yn paentio byd gwragedd fferm Ceredigion, Cyfrol 22, Rhifyn 8. Golwg
  2. Taflen Adnabod Awdur: Elin Meek a Valériane Leblond[dolen farw], Cyngor Llyfrau Cymru, 2019.
  3. "Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og" Bethan Gwanas, 28 Mawrth 2017.
  4. "Catherine Fisher a'i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og"[dolen farw] Cyngor Llyfrau Cymru, 16 Mai 2019.
  5. "Y Cwilt (9781784617974) | Valeriane Leblond | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-01-10.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.