Trawsffurfiad geometrig
Gwedd
Mae trawsffurfiad geometrig yn dafluniad (bijection) o set geometrig. Yn fwy manwl:
- "...mae'n ffwythiant sydd a'i barth a'i ystod yn setiau o bwyntiau. Yn amlach na pheidio, mae'r parth ac ystod y trawsffurfiad hwn ill dau yn R2, neu ill dau yn R3. Yn aml, mae'n ofynnol i drawsffurfiadau geometrig fod yn ffwythiannau 1-1, fel bod ganddynt wrthdroeon (inverses)."[1]
-
y ddelwedd wreiddiol
-
cyflunedd (similarity)
-
trawsffurfiadau tafluniol
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Gellir edrych ar astudiaeth geometreg fel astudiaeth o'r trawsffurfiadau hyn.[2]
Gellir dosbarthu trawsffurfiad geometrig yn ôl dimensiwn eu setiau operand e.e. eu didoli yn ôl plân neu ofod. Gellir hefyd eu dosbarthu yn ôl eu nodweddion a berchir (neu "a brisyrfiwyd"):
- mae dadleoliad yn parchu pellter a chyfeiriadaeth onglau
- mae isometreg yn parchu pellter ac onlau
- mae cyflunedd yn parchu onglau a chymhareb pellteroedd
- mae trawsffurfiadau affin yn parchu cyflinedd (llinellau paralel)
- mae homograffeg (neu "drawsffurfiadau tafluniol") yn parchu unllinedd
- mae gwrthdroad yn parchu y set o'r holl linellau a chylchoedd yn y plân (er y gall y llinellau a'r cylchoedd gyfnewid), ac mae trawsffurfiadau Möbius yn parchu yr holl blanau a sfferau yn y gofod tri dimensiwn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Zalman Usiskin, Anthony L. Peressini, Elena Marchisotto – Mathematics for High School Teachers: An Advanced Perspective, t. 84.
- ↑ Venema, Gerard A. (2006), Foundations of Geometry, Pearson Prentice Hall, p. 285, ISBN 9780131437005