Tikal
Math | safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tikal National Park |
Sir | Petén Department |
Gwlad | Gwatemala |
Cyfesurynnau | 17.2221°N 89.6236°W |
Hen ddinas yn perthyn i'r gwareiddiad Maya yng ngogledd Gwatemala yw Tikal neu Tik'al. Enw'r trigolion ar eu dinas oedd Yax Mutal. Saif yn departement El Petén.
Roedd y ddinas yn ganolfan bwysig o tua 400 CC hyd tua 1000 OC, gan gyrraedd ei hychafbwynt rhwng 300 a 850. Er fod Tikal yn un o ddinasoedd mwyaf pwerus cyfnod clasurol diwylliant y Maya, gorchfygwyd hi o dro i dro gan ei chymdogion, er enghraifft yn 378 pan laddwyd ei brenin Pawen Jagiwar I gan Siyah K'ak', brenin Teotihuacan, ac yn 562 pan gipiwyd y ddinas gan ddonas Caracol. Cyrhaeddodd uchafbwynt ei grym yn 711, pan orchfygodd ddinas Calakmul. Adeiladwyd Teml Offeiriad y Jaguar yn 810. Mae'r arysgrif olaf yn y ddinas yn dyddio o 889. Dynodwyd Tikal yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1979.