Teisen hufen
Math o gacen neu deisen yw teisen hufen sydd â hufen fel un o'i brif gynhwysion. Ceir sawl math o deisen hufen ac nid oes diffiniad manwl o'r term. Gall yr hufen fod yn y deisen ei hun a/neu ar ei phen.
Teisen hufen Gymreig
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru ceir math arbennig o deisen hufen draddodiadol a wneir gyda blawd, siwgr gwyn, wyau a hufen ffres.[1]
Yn ôl rysáit traddodiadol o ardal Morgannwg, dylid cymysgu'r siwgr a'r blawd mewn dysgl a thorri wy ynddo a'i guro gyda fforc. Wedyn ychwanegir yr hufen ffres a chymysgu'r cyfan yn dda. Yn yr hen amser rhoddid y cymysgedd, sy'n debyg i gytew crempog, fesul llond llwy bwrdd ar faen poeth i'w crasu, ond mewn cegin fodern gellir gwneud yr un fath dan y gridyll hefyd, gyda gofal, gan grasu'r teisennau ar y ddwy ochr hyd nes eu bod o liw coch ysgafn ar y tu allan.[1]