Tartessos
Math | dinas â phorthladd, teyrnas, diwylliant, pobl, gwareiddiad, diwylliant archeolegol, dinas hynafol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhyn Iberia |
Gerllaw | Afon Guadalquivir |
Cyfesurynnau | 37°N 6.2°W |
Hyd at yr 20g, credai haneswyr mai gwareiddiad, diwylliant a dinas yr Henfyd oedd Tartessos (Groeg: Τάρτησσος), a leolwyd ar benrhyn Iberia. Ers yr 20g, fodd bynnag, profwyd mai ardal gyfoethog iawn o gwmpas Huelva, Sbaen ydyw, gyda phorthladd mewn lleoliad masnachol hynod bwysig. Yma, canfyddwyd oddeutu cant o feddfaeni, neu gerrig bedd ac arnynt ysgrif yr iaith Geltaidd.
Fe'i disgrifiwyd yn gyntaf gan y Groegiaid (gan gynnwys Herodotus) ac roedd yr ardal yn nodedig am ei mwynau, arian a tun. Yn ôl Hesychius lleolwyd "dinas Tartessos ger 'Colofnau Hercwles' (Culfor Gibraltar) a bod yno ffuredau ac anifeiliaid mytholegol milain iawn". Credwyd, tan yn ddiweddar, fod y ddinas, ers rhai canrifoedd, o dan y môr.
Cerrig beddau Celtaidd
[golygu | golygu cod]Yn 2009, cyflwynodd yr Athro John Koch, o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Aberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, de Sbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, ac yn dyddio i gychwyn Oes yr Haearn. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur, ac yna fel llyfr.[1] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[2] Er bod anghytundeb ynglŷn â hyn, mae'r dystiolaeth yn cynyddu.
Dyma'r ysgrifen (dwy fil a hanner o flynyddoedd oed) ar un o'r cerrig hyn:[3]
- Lokobo nurabo to araiai kalte lokonane narke kak isiinkolobo ii te-ro-bare be tasiioonii.
Yn ôl Koch, dyma gyfieithiad o'r sgript (Ffenicaidd):
- Lokobo - y duw Lleu (neu Lugh chwedloniaeth Wyddelig; Locobo mewn Galisieg)
- nurabo - y Neri, llwyth Celtaidd
- araiai kalte - araiai o'r un tarddiad a thir âr (aredig) + arwr neu 'y Celt'. 'Dan y tir hwn, rhoed arwr / Celt'.
- lokon - claddedigaeth neu wrn
- narke - oddi tano neu di-syfl / di-symyd
- isiinkolobo - arwyr
- te-ro-bare - cludo i fynwent y person marw o'r enw...
- tasiioonii - Ta[ch]seoonus
-
Fonte Velha (Bensafrim, Lagos)
-
Museu da Reinha D. Leonor; Beja, Portiwgal
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Leponteg - iaith Geltaidd a siaredid gan lwyth y Lepontii ac eraill yng ngogledd yr Eidal rhwng tua 700 CC a 400 CC
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Koch, John T. (2009). "A Case for Tartessian as a Celtic Language". Acta Palaeohispanica (Aberystwyth University) X (9): 339–351. ISSN 1578-5386. http://ifc.dpz.es/recursos/publicaciones/29/54/26koch.pdf. Adalwyd 2010-05-17.
- ↑ Alice Roberts, The Celts: Search for a Civilization (BBC / Heron Books, 2016)
- ↑ Roberts, The Celts, t.242