Swlŵeg
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Nguni, Zunda |
Label brodorol | isiZulu |
Enw brodorol | isiZulu |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | zu |
cod ISO 639-2 | zul |
cod ISO 639-3 | zul |
Gwladwriaeth | Lesotho, Mosambic, De Affrica |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Pan South African Language Board |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Swlŵeg (isiZulu yn Swlŵeg) yn iaith a siaredir yn Affrica Ddeheuol (yn arbennig yn Ne Affrica, ond hefyd yn Gwlad Swasi a Mosambic, yn bennaf gan grŵp ethnig y Swlŵiaid). Mae'n perthyn i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantŵ.
Mae tri phrif fath o gytsain glec yn Swlŵeg sy'n cyfateb yn fras i q /ǃ/, c /ǀ/ a x /ǂ/. Un o ieithoedd swyddogol De Affrica ydy hi. Deellir Swlŵeg gan siaradwyr Xhosa a Swati hefyd, oherwydd i'r ieithoedd hynny berthyn i grwp ieithoedd Nguni yr ieithoedd Bantŵ. Tua 10 miliwn o bobl sydd yn medru Swlŵeg yn Ne Affrica.
Creoliaith Gauteng
[golygu | golygu cod]Ceir tafodiaith neu greoliaith sy'n seiliedig ar ramadeg Swlŵeg yn maestrefi talaith Gauteng ac yn enwedig Soweto. Ei enw yw isiCamtho. Cyfeirir ato hefyd, weithiau, gan y term sydd wedi dod yn generic i ddatblygiadau tafodiaith o'r fath fel Tsotsitaal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ 2.0 2.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/