Sither
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | offeryn â thannau wedi'i blycio, true board zithers with resonator box |
Gwlad | Alpine states |
Dechrau/Sefydlu | 18 g |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Offeryn llinynnol yw sither. Mae'r tannau fel arfer wedi'u bwriadu ar gyfer chwarae "rhydd", hynny yw, heb gael eu byrhau gan fysedd y chwaraewr. Yn nodweddiadol genir drwy blyciadau i'r tannau.
Mae'r offeryn yn gymharol diarth i'r rhan fwyaf o Gymry, ac, efallai mae'r cysylltiad fwyaf amlwg gyda'i sain bydd adnabyddiaeth o'r ffilm enwog, The Third Man o 1950 [1] a leolwyr yn Fienna ac sy'n cynnwys canu'r sither gan Anton Karas.
Mae'r sither yn i'w glywed yn bennaf mewn cerddoriaeth draddodiadol, yn fwyaf cyffredin mewn gwledydd Almaeneg eu hiaith yn yr Alpau a Dwyrain Ewrop . Mae'n perthyn ac yn cael ei gyd-ganu'n aml gyda'r simbalom mewn cerddoriaeth Canol Ewrop.[2]
Esboniad
[golygu | golygu cod]Mae'r gair Sither yn Gymraeg o'r Saesneg "zither" cofnodwyd yn yr 20g.[3] Wrth ystyried yr yngennid y gair yn y Gymraeg fel y mae yn y Saesneg z|ɪ|ð|ər| lle mae'r 'th' yn cael ei lefaru fel 'dd' Gymraeg, yna, efallai y dylid ei sillafu fel "sidder".
Daw'r gair Saesneg, drwy'r Almaeneg (a yngennir gyda'r "z" Almaeneg fel "ts") o'r gair Groeg cithara, sef, gwraidd y gair modern "gitâr" hefyd. Yn hanesyddol, fe'i cymhwyswyd i unrhyw offeryn yn nheulu'r cittern, neu i offeryn sy'n cynnwys llawer o dannau wedi'u hymestyn ar draws corff tenau, gwastad - tebyg i saltring (Saesneg: psaltery). Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r amrywiaeth o'r offeryn a ddisgrifir gan Eiriadur Prifysgol Cymru fel "offeryn cerdd, sef seinflwch pren llorweddol ac arno nifer mawr o dannau a gennir â'r bysedd ac â phlectrwm."[4]
Gwahanol fathau
[golygu | golygu cod]Mae sitherau yn cael eu chwarae trwy strumio neu bigo'r tannau, naill ai gyda'r bysedd (weithiau'n defnyddio affeithiwr o'r enw plectrwm neu bigiad), yn swnio'r tannau gyda bwa, neu, gydag amrywiaethau o'r offeryn fel y santur neu'r simbalom, trwy guro'r tannau gyda morthwylion siâp arbennig. Fel gitâr neu liwt, mae corff zither yn gwasanaethu fel siambr atseiniol (blwch sain), ond, yn wahanol i gitarau a liwiau, nid oes gan zither gynulliad gwddf ar wahân. Mae nifer y tannau yn amrywio, o un i fwy na hanner cant.
Mewn defnydd cyffredin cyfredol mae'r term "sither" yn cyfeirio at dri offeryn penodol: y sither cyngerdd (Almaeneg: Konzertzither), ei amrywiad y sither Alpaidd (y ddau yn defnyddio bwrdd bys fretted), a'r sither cribell (Saesneg: "chord zither", a ddisgrifir yn fwy diweddar fel zither di-freint neu "sither gitâr"). Yn draddodiadol mae sitherau Cyngerdd ac Alpaidd i'w cael yn Slofenia, Awstria, Hwngari, Ffrainc, gogledd-orllewin Croatia, rhanbarthau deheuol yr Almaen, Ewrop Alpaidd, Gwlad Pwyl, y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Rwsia, Wcrain a Belarus. Cyflwynodd ymfudo o'r ardaloedd hyn yn ystod y 19g y cyngerdd a Sither Alpaiddr i Ogledd a De America. Daeth sitherau cord tebyg i'r offeryn yn y ffotograff hefyd yn boblogaidd yng Ngogledd America ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae'r amrywiadau hyn i gyd yn defnyddio tannau metel, tebyg i'r cithern (Saesneg: cittern).
Ceir hefyd amrywiad ar y sither yn y byd Arabaidd, Twrci a'r Dwyrain Canol sef y kanun a chwareir gyda phlectrwm.[5][6]
-
Sither cyngerdd gyda bysellfwrdd cribell
-
Sither Aplaidd. Noder y postyn telyn ar dop y ddelwedd.
-
Chwaraewr sither yr Alpau
Arddull canu
[golygu | golygu cod]Ar Sitherau cyngerdd ac Alpaidd mae'r tannau alaw yn cael eu pwyso i'r bwrdd bysedd ("fretted") gyda bysedd y llaw chwith, a'u plicio â plectrwm ar y bawd dde. Mae bysedd cyntaf ac ail law dde yn plicio'r llinynnau cyfeilio a bâs, ac mae trydydd bys y llaw dde yn plicio'r tannau contrabas (mae yna amrywiadau ar y dechneg hon).
Mae cysyniad y Sither Cord yn wahanol i gysyniad y sitherau cyngerdd aa alpaidd. Gall fod gan yr offerynnau hyn rhwng 12 a 50 (neu fwy) o dannau, yn dibynnu ar y dyluniad. Mae'r llinynnau i gyd yn cael eu chwarae ar agor, yn null telyn. Trefnir y tannau ar y chwith mewn grwpiau o dri neu bedwar, sy'n ffurfio cordiau amrywiol i'w chwarae gan y llaw chwith. Mae'r tannau ar y dde yn llinynnau sengl (neu mewn parau) a fwriadwyd ar gyfer y llaw dde i ddewis yr alaw. Gall tiwnio amrywio'n fawr o wneuthurwr i wneuthurwr a hyd yn oed o fodel i fodel, ond fel rheol fe'i nodir ar yr offeryn ei hun, ar ffurf siart wedi'i baentio neu ei gludo o dan y tannau.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tôn "The Harry Lime Theme" o ffilm The Third Man
- Sither Alpaidd
- Sither Alpaidd ar deledu Bafaria
- Cân 'Love my Life' gan Queen ar Sither cyngerdd
- Fideo dysgu canu'r Sither, (Yn Almaeng)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=C5ZnzNCXgLY
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=0S7mzkcLVDw&list=PL511QOleXXByW50ruw7x95djAqdaIUtfn&index=6
- ↑ http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ sither. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 16 Hydref 2022.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=e351z9H5MB8
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=VS3LafxrMIs