Salah
Gwedd
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Yn athrawiaeth Islam, yr ail o Bum Colofn y Ffydd (Arabeg: Arkân al-Dîn), a adnabyddir hefyd fel y Farâ'idh, yw y Salah neu salat (ll. salawât), sef y pum gweddi defodol a adroddir pum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran, ysgrythur y Mwslemiaid.