Saethu cyfeillgar
Gwedd
Term milwrol a fathwyd yn wreiddiol gan luoedd arfog yr Unol Daleithiau i ddynodi saethu sy'n lladd neu'n anafu milwyr ar yr un ochr â'r milwyr sy'n saethu, a hynny yn anfwriadol, yw saethu cyfeillgar (Cymreigiad o'r term Saesneg friendly fire). Mae'n ymadrodd a ddefnyddir yn aml mewn ystyr eironig i olygu anfedrusrwydd milwrol.
Mae ystadegau'n dangos fod 14% o'r milwyr Americanaidd a laddwyd neu a glwyfwyd yn Rhyfel Fietnam (tua 8,000) a 23% yn Operation Desert Storm yn 1991 (35) wedi marw o'r hyn a elwir yn "saethu cyfeillgar".
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.