Royal Court Theatre
1870: New Chelsea Theatre | |
Y Royal Court Theatre yn 2020 | |
Cyfeiriad | Sloane Square Llundain |
---|---|
Perchennog | English Stage Company |
Math | Theatr |
Cost codi | |
Agorwyd | 1870 |
Rebuilt | 1888 (Walter Emden & Bertie Crewe) 2000 (Haworth Tompkins) |
Website | |
royalcourttheatre.com |
Theatr anfasnachol yn Sloane Square, Llundain yw'r Royal Court Theatre [neu Theatr y Royal Court]. Cafwyd amrywiad yn yr enw dros y degawdau fel Court Theatre, y New Chelsea Theatre, a'r Belgravia Theatre . Ym 1956 fe’i prynwyd gan yr English Stage Company, ac mae’n parhau i fod yn gartref i'r cwmni, sy’n adnabyddus am ei gyfraniadau i theatr gyfoes gan ennill y Europe Prize Theatrical Realities ym 1999.
Hanes
[golygu | golygu cod]Y theatr gyntaf
[golygu | golygu cod]Capel Anghydffurfiol Ranelagh wedi'i drawsnewid oedd y theatr gyntaf ar Lower George Street, oddi ar Sgwâr Sloane, a agorwyd fel theatr ym 1870 dan yr enw The New Chelsea Theatre. Daeth Marie Litton yn reolwr arni ym 1871, gan logi Walter Emden i ailfodelu'r tu mewn, ac fe'i hailenwyd yn Court Theatre.
Llwyfannwyd nifer o ddramâu cynnar W.S.Gilbert yma, gan gynnwys Randall's Thumb, Creatures of Impulse (gyda cherddoriaeth gan Alberto Randegger), Great Expectations (addaswyd o nofel Dickens), ac On Guard (i gyd ym 1871); The Happy Land (1873, gyda Gilbert Abbott à Beckett; drama fwyaf dadleuol Gilbert); The Wedding March, a gyfieithwyd o Un Chapeau de Paille d'Italie gan Eugène Marin Labiche (1873); The Blue-Legged Lady, a gyfieithwyd o La Dame aux Jambes d'Azur gan Labiche a Marc-Michel (1874); a Broken Hearts (1875). Erbyn 1878, roedd John Hare a WH Kendal yn rheoli'r theatr. [1]
Addaswyd y theatr ymhellach ym 1882 gan Alexander Peebles, gyda 728 o seddau (gan gynnwys seddau ar y llawr [stalls] a bocsus, y cylch [dress circle] a balconi, amffitheatr, ac oriel). [2] Wedi hynny bu Arthur Cecil (a ymunodd â chwmni'r theatr yn 1881) yn gyd-reolwr y theatr gyda John Clayton. Ymhlith gweithiau eraill a lwyfannwyd mae cyfres o ffarsiau Arthur Wing Pinero, gan gynnwys The Rector, The Magistrate (1885), The Schoolmistress (1886), a Dandy Dick (1887), ymhlith eraill. [3] Caeodd y theatr ar 22 Gorffennaf 1887 a chafodd ei dymchwel. [4]
Y theatr bresennol: 1888-1952
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd yr adeilad presennol ar ochr ddwyreiniol Sgwâr Sloane, gan ddisodli'r adeilad cynharach, ac fe'i hagorwyd ar 24 Medi 1888 fel y New Court Theatre. Wedi'i ddylunio gan Walter Emden a Bertie Crewe, adeiladwyd gyda brics coch cain, brics wedi'u mowldio, a ffasâd carreg mewn arddull Eidalaidd rydd. Yn wreiddiol, roedd 841 o seddau ar y llawr [stalls] y cylch, [dress cirlce] yr amffitheatr ac oriel.
Rhoddodd Cecil a Clayton reolaeth y theatr i Mrs. John Wood ac Arthur Chudleigh ym 1887, er i Cecil barhau i actio yn eu cwmni (ac eraill) hyd 1895.[5] Y cynhyrchiad cyntaf yn yr adeilad newydd oedd drama gan Sydney Grundy o'r enw Mamma, gyda Mrs John Wood a John Hare, gydag Arthur Cecil ac Eric Lewis.[6] Erbyn diwedd y ganrif, roedd y theatr eto'n cael ei galw'n "Royal Court Theatre".[7]
Bu Harley Granville-Barker yn rheoli’r theatr am flynyddoedd cynta'r 20fed ganrif, a chynhyrchwyd dramâu George Bernard Shaw yn y New Court am gyfnod. IIldiwyd ei ddefnyddio fel theatr ym 1932, ond fe'i defnyddiwyd fel sinema o 1935 i 1940, nes i ddifrod bom yr Ail Ryfel Byd ei gau.[2]
The English Stage Company
[golygu | golygu cod]Ar ôl y rhyfel, cafodd ei ailadeiladu fel theatr gan Robert Cromie, a gostyngwyd nifer y seddi i lai na 500. Ail-agorwyd y theatr ym 1952,[8] gydag Oscar Lewenstein yn reolwr cyffredinol. Ym 1954, sefydlodd Lewenstein, ynghyd â George Devine, Ronald Duncan a Greville Poke, yr English Stage Company (ESC) gyda chenhadaeth i gyflwyno dramâu gan ddramodwyr ifanc ac arbrofol a'r "dramâu cyfoes gorau o dramor." [9] Gwasanaethodd Devine fel cyfarwyddwr artistig cyntaf yr ESC, tra bod Poke yn Ysgrifennydd Mygedol.[10] Prynodd yr ESC y Royal Court ym 1956 a dechreuodd gynhyrchu gweithiau anturus newydd, ynghyd â rhai adfywiadau clasurol. [11]
Adnabyddwyd trydydd cynhyrchiad y cwmni newydd ym 1956, Look Back in Anger gan John Osborne, fel drama gan un o'r Angry Young Men. Y cyfarwyddwr oedd Tony Richardson. Dilynodd Osborne Look Back in Anger gyda The Entertainer, gyda Laurence Olivier yn serennu fel Archie Rice, drama a gomisiynwyd gan yr actor, mwy neu lai. Gwrthododd bwrdd artistig yr ESC y ddrama i gychwyn, er iddynt wyrdroi'r penderfyniad hwnnw yn fuan. Gwrthwynebodd dau aelod o'r bwrdd The Entertainer: nid oedd Duncan yn hoff o waith Osborne, yn ôl y cofiannydd John Heilpern, [12] tra bod Lewenstein, cyn Gomiwnydd, [13] yn anhapus gyda'r ddrama ac yn poeni am roi gormod o sylw i'r prif actor. [12]
Yng nghanol y 1960au, dechreuodd yr ESC wynebu sensoriaeth. Roedd eu cynyrchiadau cyntaf o A Patriot for Me a Saved gan Edward Bond (y ddau ym 1965) yn golygu bod yn rhaid trawsnewid y theatr i fod yn "glwb aelodau preifat" i osgoi deddfau'r Arglwydd Chamberlain, oedd yn ffurfiol gyfrifol am drwyddedu dramâu hyd at Ddeddf Theatrau 1968 . Helpodd succès de scandale y ddwy ddrama i ddileu sensoriaeth theatr yn y DU. Yn ystod cyfnod Devine fel cyfarwyddwr, ar wahân i waith Osborne a Bond, llwyfannwyd gwaith dramodwyr fel Arnold Wesker, John Arden, Ann Jellicoe a NF Simpson, am y tro cyntaf.
Llwyfannodd Cyfarwyddwyr Artistig dilynol y Royal Court waith gan Christopher Hampton, Athol Fugard, Howard Brenton, Caryl Churchill, Hanif Kureishi, Sarah Daniels, Errol John, Timberlake Wertenbaker, Martin Crimp, Sarah Kane, Sylvia Wynter, Mark Ravenhill, Martin McDonagh, Mark Ravenhill, Martin McDonagh, Leo Butler, Polly Stenham a Nick Payne. Ymhlith y tymhorau cynnar roedd dramâu rhyngwladol newydd gan Bertolt Brecht, Eugène Ionesco, Samuel Beckett, Jean-Paul Sartre, a Marguerite Duras. Agorwyd theatr stiwdio lan lofft ym 1969, gyda 63 o seddau ar y pryd. Roedd hyn yn ychwanegol at y prif theatr fwa proseniwm 400 sedd ar y llawr isaf.[2] [14] Perfformiwyd The Rocky Horror Show am y tro cyntaf yn y stiwdio ym 1973. Rhestrwyd y theatr yn Radd II ym Mehefin 1972.[15]
Er bod y prif awditoriwm a'r ffasâd yn ddeniadol, roedd gweddill yr adeilad yn cynnig cyfleusterau gwael ar gyfer y gynulleidfa a'r perfformwyr, a thrwy gydol yr 20fed ganrif roedd seddau'r llawr [stalls] ac o dan y llwyfan yn aml yn gorlifo â dŵr. Erbyn dechrau’r 1990au roedd yr adeilad wedi dirywio’n beryglus, a bygythiwyd y byddai’n rhaid cau'r theatr ym 1995. Derbyniodd y Royal Court grant o £16.2 miliwn gan y Loteri Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau i’w ailddatblygu, gan ddechrau ar y gwaith ym 1996, dan gyfarwyddyd artistig Stephen Daldry. Fe’i hailadeiladwyd yn gyfan gwbl, heblaw am y ffasâd a’r awditoriwm. Y penseiri oedd Haworth Tompkins. Ailagorodd y theatr ym mis Chwefror 2000, gyda'r Jerwood Theatre Downstairs â 380 sedd, a'r theatr stiwdio Jerwood Theatre Upstairs gyda 85 o seddau. Ers 1994, mae cenhedlaeth newydd o ddramodwyr wedi llwyfannu eu gwaith yno am y tro cyntaf gan gynnwys Joe Penhall, Sarah Kane, Mark Ravenhill, a Roy Williams, ymhlith eraill.
Ers y 1990au mae'r Royal Court wedi rhoi pwyslais ar ddatblygu a chynhyrchu dramâu rhyngwladol. Erbyn 1993, roedd y Cyngor Prydeinig wedi dechrau cefnogi'r rhaglen Preswylio Rhyngwladol (a ddechreuodd ym 1989 fel Ysgol Haf Ryngwladol), ac yn fwy diweddar mae Sefydliad Genesis hefyd wedi cefnogi cynhyrchu dramâu rhyngwladol. Derbyniodd y theatr wobr Sefydliad Theatr Rhyngwladol 1999. [16] Ym mis Mai 2008, cyflwynodd y English Stage Company The Ugly One gan Marius von Mayenburg yng Ngŵyl Theatr Ryngwladol Cyswllt yng Ngwlad Pwyl.
Ymhlith y Cyfarwyddwyr Artistig mae George Devine (1956–1965), William Gaskill (1965–1972), Lindsay Anderson ac Anthony Page (1969–1972), Oscar Lewenstein (1972–1975), Nicholas Wright a Robert Kidd (1975–1977), Stuart Burge (1977–1979), Max Stafford-Clark (1979–1992), Stephen Daldry (1992–1998), Ian Rickson (1998–2006) [17] a Dominic Cooke (2007 i 2012). [18] Vicky Featherstone oedd y cyfarwyddwr artistig benywaidd cyntaf (2013–2024). [19] [20] Cymerodd David Byrne yr awenau yn gynnar yn 2024. [21]
Dadleuon gwrth-semitiaeth
[golygu | golygu cod]Ym 1987, rhoddwyd y gorau i gynhyrchiad Ken Loach o Perdition yn y Royal Court Theatre ar ôl protestiadau ac adolygiadau gan ddau hanesydd sef Martin Gilbert a David Cesarani. [22] [23] Dywedodd yr hanesydd o Rydychen, Gilbert, fod y ddrama'n "fradwriaeth o'r ffeithiau" ac yn "hynod antisemitig". [23] [24] Gwadodd Loach ac awdur y ddrama, Jim Allen, y cyhuddiadau gan gyhuddo'r "lobi Seionaidd" a'r "peiriant Seionyddol" o godi dadlau annheg. [23] [25]
Llwyfannwyd drama Caryl Churchill, Seven Jewish Children yn 2009. Beirniadodd llawer o arweinwyr a newyddiadurwyr Iddewig y ddrama fel un antisemitig. [26] [27] [28] [29] Galwyd y ddrama gan un adolygydd yn "bortread sarhaus ac enllibus o rieni a chyn-deidiau a neiniau Israel". Disgrifiodd Michael Billington y ddrama yn The Guardian fel "galarnad twymgalon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol" [30] a haerodd nad oedd y ddrama, er yn ddadleuol, yn antisemitig. [31] Roedd awdur arall yn y Guardian yn ystyried Seven Jewish Children yn gamarweiniad hanesyddol, ac yn feirniadol iawn o Iddewon. [32] Gwadodd y Royal Court y cyhuddiadau, gan ddweud: "Yn unol â'i hathroniaeth, mae'r Royal Court yn cyflwyno llu o safbwyntiau gwahanol." [33]
Ym mis Tachwedd 2021, ailenwyd prif gymeriad y ddrama Rare Earth Mettle gan Al Smith o "Hershel Fink" i "Henry Finn" yn dilyn beirniadaeth o stereoteipiau gwrth-Semitaidd parhaus. [34] [35] [36] Ymddiheurodd y Royal Court hefyd. [37] [38]
Cynyrchiadau nodedig ers y 1950au
[golygu | golygu cod]1950au
[golygu | golygu cod]- Look Back in Anger gan John Osborne, cyfarwyddwyd gan Tony Richardson, cerddoriaeth gan Tom Eastwood, gyda Kenneth Haigh (1956)
- The Entertainer gan John Osborne, cyfarwyddwyd gan Tony Richardson, gyda Laurence Olivier (1957) yn serennu
1960au
[golygu | golygu cod]- The Knack gan Ann Jellicoe (1962) [39]
- Exit the King gan Eugène Ionesco, cyfarwyddwyd gan George Devine, gyda Alec Guinness (1963) yn serennu
- A Patriot for Me gan John Osborne (1965)
- Saved gan Edward Bond, cyfarwyddwyd gan William Gaskill (1965)
1970au
[golygu | golygu cod]- Owners gan Caryl Churchill (1972)
- The Rocky Horror Show gyda cherddoriaeth, geiriau a llyfr gan Richard O'Brien, cyfarwyddwyd gan Jim Sharman (1973)
- Not I gan Samuel Beckett (1973)
- Class Enemy gan Nigel Williams (1978)
- Bent gan Martin Sherman (1979)
1980au
[golygu | golygu cod]- The Arbor gan Andrea Dunbar, cyfarwyddwyd gan Max Stafford-Clark (1980)
- Insignificance gan Terry Johnson (1982) [40]
- Top Girls gan Caryl Churchill (1982)
- Road gan Jim Cartwright (1986)
- Our Country's Good gan Timberlake Wertenbaker, wedi'i addasu o nofel Thomas Keneally The Playmaker (1988)
1990au
[golygu | golygu cod]- Death and the Maiden gan Ariel Dorfman, cyfarwyddwyd gan Lindsay Posner, gyda Juliet Stevenson (1991) yn serennu
- Hysteria gan Terry Johnson, cyfarwyddwyd gan Phyllida Lloyd (1993) [41]
- My Night with Reg gan Kevin Elyot, cyfarwyddwyd gan Roger Michell (1994)
- Blasted gan Sarah Kane, cyfarwyddwyd gan James Macdonald (1995)
- Mojo gan Jez Butterworth, cyfarwyddwyd gan Ian Rickson (1995)
- Shopping and Fucking gan Mark Ravenhill, cyfarwyddwyd gan Max Stafford-Clark (1996)
- The Weir gan Conor McPherson (1997)
- Cleansed gan Sarah Kane, cyfarwyddwyd gan James Macdonald (1998)
2000au
[golygu | golygu cod]- Dublin Carol gan Conor McPherson, cyfarwyddwyd gan Ian Rickson, gyda Brian Cox (2000) yn serennu
- 4.48 Psychosis gan Sarah Kane, cyfarwyddwyd gan James Macdonald (2000)
- Crave gan Sarah Kane, cyfarwyddwyd gan Vicky Featherstone (2001)
- The Sugar Syndrome gan Lucy Prebble, cyfarwyddwyd gan Marianne Elliott (2003)
- Drunk Enough to Say I Love You? gan Caryl Churchill, cyfarwyddwyd gan James Macdonald (2006)
- The Seagull gan Anton Chekhov, mewn fersiwn newydd gan Christopher Hampton, a gyfarwyddwyd gan Ian Rickson, gyda Kristin Scott Thomas, Mackenzie Crook a Chiwetel Ejiofor (2007) yn serennu
- That Face gan Polly Stenham, a gyfarwyddwyd gan Jeremy Herrin, gyda Felicity Jones, Matt Smith, Julian Wadham, a Lindsay Duncan (2007) yn serennu
- Jerusalem gan Jez Butterworth, cyfarwyddwyd gan Ian Rickson, gyda Mark Rylance a Mackenzie Crook (2009) yn serennu
- Seven Jewish Children gan Caryl Churchill, cyfarwyddwyd gan Dominic Cooke, gyda Ben Caplan, David Horovitch, Daisy Lewis, Ruth Posner, Samuel Roukin, Susannah Wise ac Alexis Zegerman (2009)
2010au
[golygu | golygu cod]- Posh gan Laura Wade, gyda Simon Sheperd, Joshua McGuire, Daniel Ryan, Richard Goulding, Kit Harington, Harry Hadden-Paton, Leo Bill, David Dawson, James Norton, Henry Lloyd-Hughes, Tom Mison, Fiona Button a Charlotte Lucas ( 2010 ) )
- Spur of the Moment gan Anya Reiss, cyfarwyddwyd gan Jeremy Herrin (2010)
- Hangmen gan Martin McDonagh, cyfarwyddwyd gan Matthew Dunster, gyda Johnny Flynn a David Morrissey (2015)
- The Ferryman gan Jez Butterworth, cyfarwyddwyd gan Sam Mendes, gyda Paddy Considine, Laura Donnelly, Genevieve O'Reilly, Bríd Brennan, Fra Fee, Stuart Graham, Gerard Horan, Conor MacNeill, Dearbhla Molloy, Tom Glynn-Carney, a Niall Wright ( 2017)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dyfyniadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ainger 2002
- ↑ Profile of the theatre and other Victorian theatres
- ↑ Howard, Deborah (1970). London Theatres and Music Halls 1850–1950. London: The Library Association. t. 54. OCLC 883157080.
- ↑ Knight, Joseph, rev. Nilanjana Banerji. "Cecil, Arthur (1843–1896)", Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004, accessed 7 October 2008
- ↑ "New Court Theatre". The Times. 25 September 1888. t. 9.
- ↑ "The Royal Court Theatre, Sloane Square, London: The New Court Theatre", ArthurLloyd.co.uk, accessed 19 December 2017
- ↑ Mackintosh, Iain; Sell, Michael (1982). Curtains!!!; or, A new life for old theatres. Eastbourne: John Offord. t. 155. See Plate 15.
- ↑ Benedick, Adam (31 March 1997). "Obituary: Oscar Lewenstein". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 December 2013. Cyrchwyd 20 April 2022.
- ↑ Roberts, Philip (1999). The Royal Court Theatre and the Modern Stage. Cambridge University Library. tt. 20–21. ISBN 0-521-47962-2.
- ↑ History Archifwyd 2024-04-17 yn y Peiriant Wayback, Royal Court Theatre. Retrieved 21 April 2022
- ↑ 12.0 12.1 Heilpern, John. John Osborne: A Patriot for Us, London: Vintage, 2007 [2006], p.216; "'It's me, isn't it?'", The Guardian, 6 March 2007 (extract)
- ↑ Murphy, Robert. "Lewenstein, (Silvion) Oscar (1917–1997)", Oxford Dictionary of National Biography
- ↑ 63 seat Theatre Upstairs
- ↑ English Heritage listing details accessed 28 April 2007
- ↑ International Department[dolen farw], Royal Court Theatre
- ↑ "About Us: Artistic Directors", Royal Court Theatre. Retrieved 28 July 2023
- ↑ Kellaway, Kate. "Royal Court theatre prepares to bid farewell to King Dominic", The Guardian, 10 March 2013
- ↑ "Royal Court names Vicky Featherstone as Cooke successor". BBC News. 11 May 2012. Cyrchwyd 12 May 2012.
- ↑ Dickson, Andrew (11 May 2012). "Royal Court hires Vicky Featherstone as first female artistic director". The Guardian. Cyrchwyd 17 July 2021.
- ↑ "Royal Court names David Byrne as AD". The Guardian. 20 July 2023. Cyrchwyd 28 July 2023.
- ↑ Abramson, Glenda (1998). Drama and ideology in modern Israel. New York: Cambridge University Press. ISBN 0-521-44159-5. OCLC 37721290.
- ↑ 23.0 23.1 23.2 Joffee, Linda (23 February 1987). "A play no theater will play". The Christian Science Monitor. ISSN 0882-7729. Cyrchwyd 7 November 2021.
- ↑ "London Theater Drops Disputed Play". The New York Times. Reuters. 22 January 1987. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 7 November 2021.
- ↑ Rich, Dave (2016). The Left's Jewish problem: Jeremy Corbyn, Israel and anti-Semitism. London: Biteback Publishing. ISBN 978-1-78590-151-5. OCLC 968510101.
- ↑ Symons, Leon. "Outrage over 'demonising' play for Gaza," The Jewish Chronicle, 12 February 2009
- ↑ Goldberg, Jeffrey. "The Royal Court Theatre's Blood Libel", Atlantic Monthly 9 February 2009
- ↑ Healy, Patrick. "Workshop May Present Play Critical of Israel", New York Times, 17 February 2009
- ↑ "The Stone and Seven Jewish Children" Archifwyd 2011-06-16 yn y Peiriant Wayback, The Sunday Times, 15 February 2009
- ↑ Billington, Michael (11 February 2009). "Theatre: Seven Jewish Children". The Guardian.
- ↑ Higgins, Charlotte (18 February 2009). "Is Seven Jewish Children anti-semitic?". The Guardian.
- ↑ Romain, Jonathan (20 February 2009). "Selective bravery is not very brave". The Guardian.
...the same standards must apply to all faiths
- ↑ Beckford, Martin (19 February 2009). "Prominent Jews accuse Royal Court play of demonising Israelis". The Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2022.
- ↑ Thorpe, Vanessa (6 November 2021). "Antisemitism row forces Royal Court theatre to change name of character". The Guardian. Cyrchwyd 7 November 2021.
- ↑ Sawer, Patrick (6 November 2021). "Royal Court theatre changes billionaire character's Jewish name after anti-Semitism accusations". The Daily Telegraph. ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 January 2022. Cyrchwyd 7 November 2021.
- ↑ "UK theater changes name of moneyman character in play after antisemitism outcry". The Times of Israel. Cyrchwyd 7 November 2021.
- ↑ Maltby, Kate. "The inside story of the Royal Court Theatre's antisemitism". The Times (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 22 November 2021.
- ↑ Malvern, Jack (8 November 2021). "The Royal Court Theatre renames Jewish character after complaint". The Times. ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 10 November 2021.
- ↑ The play was later adapted as a film. Steiner, Richard. "The Knack ...and How to Get It". Turner Classic Movies. Cyrchwyd 7 June 2017.
- ↑ The play was later adapted as a film. Sinyard, Neil. The Films of Nicolas Roeg, Charles Letts & Co. (1991), p. 97
- ↑ Wiegand, Chris (24 March 2016). "The Royal Court at 60: look back in wonder". The Guardian.
|access-date=
requires|url=
(help)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ainger, Michael (2002). Gilbert and Sullivan – A Dual Biography. Oxford: Oxford University Press. ISBN 0-19-514769-3.
- Bergan, Ronald (1992). The Great Theatres of London: An Illustrated Companion. London: Trafalgar Square Publishing. ISBN 1-85375-057-3.
- Earl, John; Sell, Michael (2000). Guide to British Theatres 1750–1950. Theatres Trust. tt. 135–36. ISBN 0-7136-5688-3.
- MacCarthy, Desmond (1907). The Court Theatre 1904–1907 A Commentary and Criticism. London: A. H. Bullen.
- Roberts, Philip (1999). The Royal Court Theatre and the modern stage. Cambridge, UK: Cambridge University Press. ISBN 0-521-47962-2.
- History of the theatre
- Profile of the theatre and other Victorian theatres
- Napoleon, Davi (1991). Chelsea on the Edge: The Adventures of an American Theater. Iowa State University Press. ISBN 0-8138-1713-7. (Includes a detailed comparison of the Royal Court and a theater in New York City that was influenced by it; also includes discussion of Royal Court plays that the Chelsea presented, including Saved, Total Eclipse, and The Contractor)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- English Stage Company/Royal Court Theatre Archive at the Victoria & Albert Museum
- English Stage Company Correspondence Collection at the Harry Ransom Center
- The Guardian, 21 July 2009, The Royal Court Upstairs marks 40 years of scaling new heights