Romain Rolland
Romain Rolland | |
---|---|
Ffotograff o Romain Rolland ar ei falconi yn 162 Boulevard de Montparnasse, Paris, ym 1914 | |
Ganwyd | 29 Ionawr 1866 Clamecy |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1944 Vézelay |
Man preswyl | Vézelay |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, awdur ysgrifau, hanesydd, nofelydd, cerddolegydd, rhyddieithwr, cofiannydd, cerddor, athro |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Jean-Christophe, Q2870231, Péguy, The life of Toistoi, Q52418853 |
Mudiad | rhyddfeddyliaeth |
Tad | Émile Rolland |
Priod | Marie Romain Rolland, Clothilde Bréal |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Prix Femina, Prif Wobr Llenyddol Academi Ffrainc |
llofnod | |
Nofelydd, dramodydd, ac ysgrifwr o Ffrainc oedd Romain Rolland (29 Ionawr 1866 – 30 Rhagfyr 1944) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1915.
Ganed yn Clamecy, Nièvre, yng nghyfnod Ail Ymerodraeth Ffrainc. Aeth i Baris yn 14 oed a chafodd ei dderbyn i'r École Normale Supérieure. Mewn awyrgylch o anhrefn ysbrydol, collodd ei ffydd Gristnogol a throdd at ysgrifeniadau Benedict de Spinoza a Lev Tolstoy. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth, ac aeth ati i astudio hanes yn y brifysgol ym 1889 cyn derbyn ei ddoethuriaeth mewn celf ym 1895. Aeth i'r École Française yn Rhufain am ddwy flynedd. Ysgrifennodd ei ddramâu cynharaf yn y 1890au a'r 1900au, mewn dau gylch: Les Tragédies de la foi (1913), sydd yn cynnwys Aërt (1898), a Le Théâtre de la révolution (1904), sydd yn cynnwys Les Loups (1898; am achos Dreyfus) a Danton (1900). Ysgrifennodd Rolland hefyd ar bynciau athrylith ac arwriaeth, ac archwiliodd fywydau rhai o wŷr mawr hanes yn y cofiannau Vie de Beethoven (1903), Vie de Michel-Ange (1905), a Vie de Tolstoi (1911).[1]
Cyfrannodd Rolland at y cylchgrawn llenyddol Cahiers de la Quinzaine, a sefydlwyd gan y bardd a golygydd Charles Péguy, ac yn yr hwnnw cyhoeddwyd ei gampwaith, y nofel hir, neu roman fleuve ("cylch nofelaidd"), Jean-Christophe, mewn deg cyfrol (1904–12). Gweithiodd am gyfnod fel athro celf a cherddoleg cyn penderfynu ym 1912 i ganolbwyntio ar lenydda yn unig, ac ym 1914 symudodd i'r Swistir.[1] Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ysgrifennodd bamffled o'r enw Au-dessus de la mêlée (1915) i annog heddwch rhwng Ffrainc a'r Almaen. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ffantasi bwrlésg Colas Breugnon (1919) a'i ail roman fleuve, L’Âme-enchantée (saith cyfrol; 1922–33).
Ymddiddorai Rolland mewn athroniaeth a chyfriniaeth y Dwyrain, yn enwedig India, ac ysgrifennodd lyfr am Gandhi (1924). Bu'n gohebu â nifer o feddylwyr amlycaf ei oes, gan gynnwys Albert Schweitzer, Albert Einstein, Bertrand Russell, a Rabindranath Tagore, a chesglir ei lythyrau wedi ei farwolaeth yn y gyfrol Cahiers Romain Rolland (1948). Dychwelodd Rolland i Ffrainc ym 1937. Bu farw yn Vézelay, Yonne, yn 78 oed. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei ysgrifeniadau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, Journal des années de guerre, 1914–1919 (1952), a'i hunangofiant Mémoires (1956).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Romain Rolland. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mawrth 2021.
- Genedigaethau 1866
- Marwolaethau 1944
- Bywgraffyddion yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Bywgraffyddion Ffrangeg o Ffrainc
- Dramodwyr y 19eg ganrif o Ffrainc
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Dramodwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Heddychwyr o Ffrainc
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Nofelwyr Ffrangeg o Ffrainc
- Pobl o Nièvre
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Ffrainc
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Ffrangeg o Ffrainc