Richard Dimbleby
Gwedd
Richard Dimbleby | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mai 1913 Richmond upon Thames |
Bu farw | 22 Rhagfyr 1965 Ysbyty Sant Tomos |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu |
Cyflogwr | |
Tad | Frederick Jabez George Dimbleby |
Mam | Gwendoline Mabel Bolwell |
Priod | Dilys Violet Constance Thomas |
Plant | David Dimbleby, Jonathan Dimbleby, Nicholas Dimbleby |
Gwobr/au | CBE |
Newyddiadurwr a darlledwr o Loegr oedd Richard Dimbleby (25 Mai 1913 – 22 Rhagfyr 1965).[1]
Ganwyd yn Richmond, Surrey, a chafodd ei addysg yn Ysgol Mill Hill. Daeth yn ohebydd rhyfel cyntaf y BBC ym 1939 ac aeth i Ffrainc gyda'r Fyddin Alldeithiol Brydeinig. Bu'n sylwebu ar goroni'r Brenin Siôr VI a'r Frenhines Elisabeth II ac angladdau'r Arlywydd John F. Kennedy a'r Prif Weinidog Winston Churchill.
Bu farw yn 52 oed o ganser. Roedd yn dad i'r darlledwyr David Dimbleby a Jonathan Dimbleby. Mae Darlith flynyddol Richard Dimbleby yn dwyn ei enw ac yn goffâd ohono.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Richard Dimbleby. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Chwefror 2014.