Pwnc yr erthygl hon yw'r band. Am eu halbwm cyntaf, gweler Ramones (albwm).
Band roc o'r Unol Daleithiau a ystyrid yn aml fel y grŵp pync-roc gyntaf oedd y Ramones.[1][2] Ffurfiodd y band yn Forest Hills, Queens, Dinas Efrog Newydd, yn 1974,[2] a mabwysiadodd pob aelod enw perfformio gyda'r cyfenw "Ramone", er nad oeddent yn perthyn i'w gilydd. Perfformiant 2263 o gyngherddau tra buont yn teithio a pherfformio bron heb egwyl am 22 o flynyddoedd.[2] Yn 1996, ar ôl taith berfformio gyda'r ŵyl gerddorol Lollapalooza, canodd y band eu sioe olaf ac yna dadfyddinant. O fewn ychydig mwy nag wyth mlynedd wedi iddynt torri lan, roedd tri aelod cychwynnol y band—y prif ganwr Joey Ramone, y gitarydd Johnny Ramone, a'r gitarydd bas Dee Dee Ramone—wedi marw.[3]
Roedd y Ramones yn ddylanwad mawr ar y mudiad pync-roc yn yr Unol Daleithiau ac ym Mhrydain, er nad oedd eu llwyddiant masnachol yn eithriadol. Eu hunig record gyda digon o werthiannau yn yr UD i dderbyn tystysgrif aur oedd yr albwm detholRamones Mania.[4] Cynyddodd gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y band dros y blynyddoedd, a heddiw fe gynrychiolant yn aml mewn nifer o asesiadau o'r gerddoriaeth roc orau erioed, megis rhestrau Rolling Stone o'r 50 Artist Gorau Erioed[5] a'r 25 Albwm Byw Gorau Erioed,[6] rhestr VH1 o'r 100 Artist Roc Galed Gorau,[7] a rhestr Mojo o'r 100 Albwm Gorau.[8] Yn 2002, fe gafodd y Ramones eu hethol fel yr ail fand roc a rôl gorau erioed gan y cylchgrawn Spin, gan golli'r prif safle i The Beatles.[9] Ar 18 Mawrth, 2002, fe gafodd y Ramones—gan gynnwys y tri sylfaenydd a'r drymwyr Marky a Tommy Ramone—eu derbyn i Neuadd Fri Roc a Rôl.[2][10]