R. Geraint Gruffydd
R. Geraint Gruffydd | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1928 Tal-y-bont |
Bu farw | 24 Mawrth 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, llyfrgellydd |
Cyflogwr | |
Tad | Moses Griffith |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Ysgolhaig ac Athro prifysgol oedd Robert Geraint Gruffydd, MA DPhil DLitt (9 Mehefin 1928 - 24 Mawrth 2015),[1][2] a arbenigodd mewn llenyddiaeth y Dadeni, y Diwygiad Protestannaidd a’r Piwritaniaid cynnar.
Roedd yn fab i Moses Griffith, a fu'n Drysorydd Plaid Cymru.
Bu farw'n 86 oed. Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn Ebrill 1996, sef Beirdd a Thywysogion.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Geraint Gruffydd yn Nhal-y-bont, Meirionnydd yn 1928, a’i fagu yng Ngheredigion yng Nghwm Ystwyth a Chapel Bangor.
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor (lle y graddiodd yn y Gymraeg) ac yn 1948 cychwynodd fel myfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.[3] Enillodd ei Ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen â'i draethawd ymchwil Religious Prose in Welsh from the Beginning of the Reign of Elizabeth to the Restoration (1953).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu’n olygydd cynorthwyol Geiriadur Prifysgol Cymru cyn cychwyn fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn 1955.
Yn 1970 fe'i penodwyd yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna'n llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1980. Rhwng 1985 a 1993 bu'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- "In that gentile country …": The Beginnings of Puritan Nonconformity in Wales (Pen-y-bont ar Ogwr: Evangelical Library of Wales, 1976)
- (gyda Emyr Roberts) Revival and its Fruit (Pen-y-bont ar Ogwr: Evangelical Library of Wales, 1981)
- (golygydd) Bardos (1982)
- (golygydd) Meistri'r Canrifoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982) - detholiad o ysgrifau llenyddol gan Saunders Lewis
- Y Gair ar Waith (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)
- "Y Beibl a droes i'w bobl draw": William Morgan yn 1588 / "The Translating of the Bible into the Welsh Tongue" by William Morgan in 1588 (Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, 1988)
- Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol 2 (Llandysul: Gwasg Gomer, 1989)
- William Morgan: Dyneiddiwr (Darlith Goffa Henry Lewis) (1989)
- (golygydd) Cerddi Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
- "Edmyg Dinbych": Cerdd Lys Gynnar o Ddyfed (1992)
- Y Ffordd Gadarn: Ysgrifau ar Lên a Chrefydd, gol. E. Wyn James (2008)
- Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)
Fel golygydd llawysgrifau Canoloesol, bu'n olygydd cyffredinol Cyfres Beirdd y Tywysogion a chyfrannodd i sawl cyfrol, yn cynnwys:
- Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)
- Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Gwaith Llywarch ap Llywelyn 'Prydydd y Moch' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991)
- Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill Ail Hanner y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)
- Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill o Feirdd hanner cyntaf y Drydedd Ganrif ar Ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
Yn ogystal, cyfranodd i sawl cyfrol yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.
Ceir llyfryddiaeth lawn o'i waith hyd at 1995 yn: Beirdd a Thywysogion, gol. B. F. Roberts ac M. E. Owen (1996)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.bbc.com/cymrufyw/32031727
- ↑ Golwg 360; adalwyd 26 Mawrth 2015
- ↑ "Honours and Awards". The Jesus College Record: 58. 1992.
- Genedigaethau 1928
- Marwolaethau 2015
- Academyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Academyddion yr 21ain ganrif o Gymru
- Academyddion Prifysgol Aberystwyth
- Academyddion Prifysgol Bangor
- Beirniaid llenyddol Cymraeg o Gymru
- Cyn Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor
- Golygyddion llyfrau o Gymru
- Hanesyddion llenyddol o Gymru
- Llyfrgellwyr o Gymru
- Pobl o Feirionnydd
- Trawsfynydd
- Ysgolheigion Cymraeg o Gymru