Polisi Pennal
Enghraifft o'r canlynol | llythyr |
---|---|
Awdur | Owain Glyn Dŵr |
Dechrau/Sefydlu | 1406 |
Enw a roddir ar ddwy ddogfen bwysig yw Polisi Pennal, un ohonynt wedi ei llunio ym Mhennal yn ystod cyfarfod o gynulliad Owain Glyn Dŵr ym Mawrth 1406, a'r llall yn ffrwyth ymweliad llysgenhadaeth Owain â llys Brenin Ffrainc ym Mharis yn sgil cyfarfod Pennal.
Llythyr Owain Glyn Dŵr at Siarl VI o Ffrainc
[golygu | golygu cod]Ysgrifennwyd y llythyr hwn ym mhlas Cefn Caer ym Mhennal, yn ôl traddodiad, a'i arwyddo yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula (Sant Pedr yn ei Gadwynau), Pennal, ger Machynlleth. Yn y llythyr hwn mae Owain yn gofyn i Siarl am gymorth i ymladd yn erbyn y Saeson. Ni chafod ateb. Mae'r llythyr, fodd bynnag, yn dangos gweledigaeth Owain: sonia am eglwys annibynnol yng Nghymru, gydag archesgob yn Nhyddewi. Mae'n crybwyll hefyd yr angen am ddwy brifysgol: y naill yn y Gogledd a'r llall yn y de. Yn eironig iawn ar y diwrnod hwn yn 1820 y Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru.
Cytundeb Owain a Siarl VI o Ffrainc
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei deyrnasiad, arwyddodd Siarl VI, brenin Ffrainc gytundeb gydag Owain Glyn Dŵr.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- T. Mathews (gol.), Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910).