Panaji
Gwedd
Math | dinas, endid tiriogaethol gweinyddol |
---|---|
Poblogaeth | 40,017 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Gefeilldref/i | Acapulco, Lisbon |
Daearyddiaeth | |
Sir | North Goa district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 36 km² |
Uwch y môr | 7 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 15.48°N 73.83°E |
Cod post | 403001 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | North Goa Lok Sabha constituency |
Prifddinas talaith Goa, India yw Panaji (Konkaneg: पणजी , IPA: /pɵɳɟĩ/ ). Lleolir ar lannau aber afon Mandovi, yng ngogledd Goa. Mae gan y ddinas boblogaeth o 65,000 (a phoblogaeth metropolitanaidd o 100,000 os cynhwysir y maesdrefi), gan wneud Panaji yn drydedd ddinas fwyaf Goa ar ôl Vasco a Margao.
Etymoleg
[golygu | golygu cod]Ar hyn o bryd, enw swyddogol y ddinas yw Panaji. Yr enw Portiwgaleg, o gyfnod rheolaeth Portiwgal ar Goa, oedd Pangim. Gelwir y ddinas yn Panjim yn Saesneg. Ers y 1960au mae wedi cael ei sillafu fel Panaji a chaiff ei alw'n Ponnje yn Konkani, prif iaith yr ardal leol.