Otho
Otho | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 0032 Ferento, Rhufain |
Bu farw | 16 Ebrill 0069 o gwaediad Brixellum |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig |
Tad | Lucius Salvius Otho |
Mam | Albia Terentia |
Priod | Poppaea Sabina |
Partner | Crispina |
Llinach | Salvii Othones |
Marcus Otho Caesar Augustus neu Otho (25 Ebrill 32 OC – 16 Ebrill 69 OC) oedd seithfed Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Marcus Salvius Otho. Roedd yr ail o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).
Roedd Otho o hen deulu pendefigaidd yn Etruria. Daeth i amlygrwydd fel un o'r gŵyr ieuanc oedd yn gyfeillion i'r ymerawdwr Nero. Dywedir i Otho gyflwyno ei wraig Poppea Sabina i'r ymerawdwr, ac i Nero syrthio mewn cariad a hi. Gorfodwyd Otho i ysgaru ei wraig a gadael Rhufain, gan ddod yn rhaglaw talaith Lusitania.
Bu Otho yn Lusitania am ddeng mlynedd, a dywedir iddo lywodraethu'n dda. Pan fu gwrthryfel yn erbyn Nero, penodwyd Galba, rhaglaw talaith gyfagos Hispania Tarraconensis, yn ymerawdwr yn ei le, a chefnogwyd ef gan Otho. Dychwelodd Otho i Rufain yng nghwmni Galba, a chan fod yr ymerawdwr newydd yn 71 oed a'i ddau fab wedi marw o'i flaen, yr oedd Otho yn llawn gobaith cael ei ddewis gan Galba fel ei olynydd. Siomwyd ef pan ddewisodd Galba Lucius Calpurnius Piso Licinianus yn olynydd yn Ionawr 69.
Penderfynodd Otho geisio codu gwrthryfel, a daeth i gysylltiad a rhai o filwyr Gard y Praetoriwm. Ar fore y 15 Ionawr aeth Otho i wersyll y Praetoriaid, lle cyhoeddwyd ef yn ymerawdwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr. Fodd bynnag, yn fuan ar ôl dod yn ymerawdwr daeth Otho i wybod bod llengoedd Germania wedi cyhoeddi Vitellius yn ymerawdwr. Enillodd milwyr Otho un fuddugoliaeth dros ran o fyddin Vitellius ger Cremona dan y cadfridog Gaius Suetonius Paulinus. Fodd bynnag cododd amheuaeth am deyrngarwch Suetonius Paulinus, a phan gynghorodd y dylid osgoi brwydr am gyfnod, anwybyddwyd ei farn ac ymosododd milwyr Otho ar y gelyn. Gorchfygwyd llengoedd Otho gan lengoedd Vitellius ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum. Roedd Otho ei hun wedi aros ar ôl yn Brixellum i ddisgwyl canlyniad y frwydr, a phan glywodd fod ei fyddin wedi colli'r dydd, penderfynodd ei ladd ei hun yn hytrach na pharhau i ymladd.
Rhagflaenydd: Galba |
Ymerawdwr Rhufain 15 Ionawr – 16 Ebrill 69 OC |
Olynydd: Vitellius |