[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Notre-Dame de Paris

Oddi ar Wicipedia
Notre-Dame de Paris
Matheglwys gadeiriol Gatholig, basilica minor, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôly Fendigaid Forwyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1163 Edit this on Wikidata
Nawddsanty Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadÎle de la Cité Edit this on Wikidata
SirNotre-Dame, 4ydd arrondissement Paris, Paris, Île-de-France Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd5,500 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.853°N 2.3498°E Edit this on Wikidata
Cod post75004 Edit this on Wikidata
Hyd127 metr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Ffrengig, Early Gothic architecture, Rayonnant, Gothig clasurol Edit this on Wikidata
Perchnogaethgwladwriaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Statws treftadaethmonument historique classé Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganMaurice de Sully Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
Deunydddimension stone Edit this on Wikidata
EsgobaethArchesgobaeth Paris Edit this on Wikidata

Eglwys gadeiriol ym Mharis yw Notre-Dame de Paris (Ffrangeg: Ein Harglwyddes o Baris). Saif ar ynys o'r enw Île de la Cité yn Afon Seine. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO.

Cychwynnwyd adeiladu'r gadeirlan yn 1160 a roedd y rhan fwyaf wedi ei gwblhau erbyn 1260, er fe'i addaswyd yn aml yn y canrifoedd ers hynny. Yn y 1790au halogwyd yr adeilad yn ystod Chwyldro Ffrainc pan ddinistriwyd neu difrodwyd ei ddelweddau crefyddol. Yn fuan wedi cyhoeddi nofel Victor Hugo Notre-Dame de Paris yn 1831, cododd ddiddordeb cyhoeddus yn yr adeilad unwaith eto. Cychwynnodd gynllun mawr i adfer yr adeilad gan Eugène Viollet-le-Duc yn 1845 a barhaodd am 25 mlynedd. Cafwyd cyfnod arall o lanhau ac adfer yn 1991–2000.[1]

Tân 2019

[golygu | golygu cod]
Y tân yn Notre-Dame, 15 Ebrill 2019

Ar brynhawn 15 Ebrill 2019, cychwynnodd tân yn nho'r adeilad a ledodd yn gyflym gan achosi difrod sylweddol. Dinistriwyd y to pren a dymchwelodd y prif feindwr. Gwnaed difrod sylweddol i'r adeilad ond achubwyd y prif strwythur a'r tri ffenest rhosyn enwog wedi eu gwneud o wydr lliw yn dyddio nôl i 1225. Achubwyd nifer fawr o weithiau celf a chreiriau o du fewn y gadeirlan.

Dywedodd Arlywydd Macron y byddai Notre Dame yn cael ei ailadeiladu.[2] O fewn diwrnod, codwyd o leiaf €600m tuag at adfer y gadeirlan.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "History of the Construction of Notre Dame de Paris" (yn Ffrangeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-02. Cyrchwyd 2019-04-15.
  2. Notre Dame Cathedral: spire collapses in huge fire – live news , guardian.co.uk, 15 Ebrill 2019.
  3. Notre Dame: €600m raised to help restore fire-damaged Paris cathedral , Sky News, 16 Ebrill 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.