Nabeul
Math | municipality of Tunisia |
---|---|
Poblogaeth | 73,128 |
Gefeilldref/i | Marbella, Montélimar, Seto, El Jadida |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nabeul |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 4 metr |
Cyfesurynnau | 36.45139°N 10.73611°E |
Cod post | 8000 |
Mae Nabeul (Arabeg: نابل) yn ddinas yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia a leolir yn ne penrhyn Cap Bon, tua 65 km i'r de-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis.
Nabeul yw prifddinas a chanolfan weinyddol y dalaith o'r un enw. Mae'n fwrdeistref gyda 56,387 o bobl yn byw ynddi. Gyda threfi cyfagos Dar Chaabane, Béni Khiar ac El Maamoura, mae Nabeul yn cynnwys 120,000 o bobl. Os cynhwysir tref dwristaidd Hammamet, mae hi'n ffurfio ardal ddinesig o 185,000 o bobl.
Nabeul yw un o'r trefi pwysicaf sy'n gorwedd ar hyd arfordir hir Gwlff Hammamet. Mae'n enwog yn Nhiwnisia am ei amgylchedd werdd o berllanau a gerddi. Oherwydd ei thraethau braf tywodlyd a'r hinsawdd Môr Canoldir, mae'r ardal yn gyrchfan poblogaidd iawn gan dwristiaid o Ewrop. sy'n heidio i Hammamet a threfi glan môr eraill yn yr haf.
Mae Nabeul yn adnabyddus iawn yn y wlad fel un o brif ganolfannau'r diwydiant crochenwaith.