Morris T. Williams
Morris T. Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1900 Groeslon |
Bu farw | 6 Ionawr 1946 Sir Gaernarfon |
Galwedigaeth | argraffydd |
Priod | Kate Roberts |
Argraffydd o Gymro oedd Morris Thomas Williams (1900 – 6 Ionawr 1946). Fe'i ganwyd yn y Groeslon ym 1900 yn fab i Morris a Mary Williams. Ei gartref oedd 5 Rhes Rathbone.[1] Roedd yn un o dri o blant ac roedd ei frawd hŷn, David Edmund Williams, yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925. Ar ôl cyfnod yn Ysgol Sir Pen-y-groes, aeth yn brentis i swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon, ond gwasanaethodd am gyfnod byr gyda'r Royal Flying Corps yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd gyfnodau byrion fel cysodydd yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth gyda'r Faner, ac yna yn 1924-5 fel cysodydd gyda'r Continental Daily Mail ym Mharis. Bu hefyd am gyfnod yn Hull gyda'r Daily Mail, cyn dod yn ôl i Gymru i weithio fel cysodydd yn Nhon-y-pandy gyda chwmni Evans a Short. Arhosodd yn y swydd honno tan 1935.[2]
Morris T. Williams, Kate Roberts a'r Blaid Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Ym 1926 fe ddechreuodd gyfeillgarwch â Kate Roberts yn Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol ym Machynlleth. Yn ôl pob sôn, Morris T. Williams oedd heart throb mawr yr Ysgolion Haf cynnar oherwydd ei wallt melyn a'i lygaid glas. Fe briododd â Kate Roberts yn eglwys Llanilltud Fawr ym 1928. Bu'r ddau yn weithgar iawn gyda'r Blaid Genedlaethol. Morris T. Williams oedd ysgrifennydd Pwyllgor Rhanbarth Dwyrain Morgannwg ac ef, ym 1933, oedd y cyntaf yn ne Cymru i sefyll etholiad yn enw'r Blaid pan ymgeisiodd am sedd ar Gyngor Trefol y Rhondda. Ni fu'n llwyddiannus. Rhwng 1933 a 1935 ef oedd golygydd y Welsh Nationalist (y Welsh Nation wedyn). Mynnodd fod y Blaid yn rhoi sylw i gyni'r glowyr ym 1933. Ymddengys hefyd ei fod wedi ystyried dechrau mudiad gweriniaethol. Bu'n undebwr llafur ac yn gysylltiedig â'r protestiadau yn erbyn y prawf moddion 1934-5. Cynhaliwyd dadl gyhoeddus nodedig rhyngddo a'r comiwnydd Lewis Jones, awdur Cwmardy a We Live. Ym 1935 prynodd Morris a Kate Wasg Gee. Erbyn 1938 roedd y ddau wedi prynu'r Faner.[2] Cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Tref Dinbych yn 1937, ac eto yn 1945, yn enw'r Blaid Genedlaethol. Bu'n ysgrifennydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Cenedlaethol Dinbych,1939. Bu farw'n 45 oed yn Ionawr 1946. Yn ôl ei Gofnod Marwolaeth, roedd alcoholiaeth yn un o achosion ei farwolaeth.[2]Parhaodd Kate Roberts i redeg y wasg ar ôl ei golli.[3]
Nofel Morris T. Williams: Troi a Throsi
[golygu | golygu cod]Rhwng 1924 a 1926 fe luniodd nofel sylweddol yn dwyn y teitl Troi a Throsi, ond ni chafodd ei chyhoeddi erioed. Mae'r llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol. Dechreuodd ei llunio yn ystod ei gyfnod ym Mharis 1924-5. Cwblhaodd y drafft cyntaf yn Hull yn 1926. Ymddengys ei fod wedi bwriadu cyflwyno'r nofel i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926, ond nid wnaeth hynny. Nofel seicolegol ydyw gyda Morris T. Williams yn brif gymeriad ynddi o dan yr enw Meurig Prisiart. Rhennir yn nofel yn dair rhan sy'n cyfateb i gyfnodau Morris yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Pharis. Yn ôl Peredur Lynch: 'Rhyw fath o Stephen Dedalus Cymreig yw Meurig Prisiart felly, yn ceisio ymddihatru oddi wrth y gorffennol gan ailesgor ar ei bersonoliaeth ei hun'.[2] Mae gan Meurig Prisiart ffrind agos iawn o'r enw Arthur Morgan sy'n newyddiadurwr mewn tref o'r enw Aber Deuddwr (hynny yw, Aberystwyth) ac mae'n amlwg felly mai E. Prosser Rhys yw Arthur Morgan.[2]
Morris T. Williams ac E. Prosser Rhys
[golygu | golygu cod]Roedd yn ffrind agos iawn i E. Prosser Rhys, y llenor a'r newyddiadurwr (1901-1945). Daethon nhw i adnabod ei gilydd yn 1920 yng Nghaernarfon pan oedd E. Prosser Rhys yn olygydd ar yr Herald. Bu'r ddau yn cydletya ar un cyfnod yn rhif 15 Eleanor Street, Twtil, Caernarfon. Ym 1922 aeth Prosser Rhys yn ôl i Aberystwyth, ond arhosodd y ddau'n ffrindiau agos.[2] Mae rhai yn credu mai Morris oedd y llanc penfelyn, rhadlon y cyfeirir ato ym mhryddest buddugol E. Prosser Rhys, 'Atgof' a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mhont-y-pŵl 1924. Mae'r bryddest yn trafod rhyw yn agored ac mewn un man disgrifir y ddau lanc yn hanner deffro, cael eu hunain yn cofleidio'n dynn a "Rhyw yn ein gorthrymu; a'i fwynhau".[4] Mae rhai o'r farn bod Morris Williams ac E. Prosser Rhys wedi cael perthynas gyfunrywiol ac at hynny mae'r bryddest yn cyfeirio. Mae 'Atgof' yn cael ei hystyried yn un o'r darnau llenyddol cyntaf i drafod cyfunrhywioldeb rhwng dynion yn Gymraeg.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hanes y Groeslon. Caaernarfon. 2000. t. 111.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Lynch, Peredur (Gwanwyn 1994). "Morris T. Williams y Nofelydd". Taliesin 85: [7]-25.
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1985), t.509
- ↑ Llwyd, Alan (2011). Cofiant Kate Roberts: Kate 1891-1985. Tal-y-bont: Y Lolfa. tt. 112–114. ISBN 978 1 84771 393 3.
- ↑ Evans-Jones, (Gol.), Gareth (2023). Curiadau. Llandysul: Barddas. tt. 69–71. ISBN 978-1-911584-74-2.