[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Martin Waldseemüller

Oddi ar Wicipedia
Martin Waldseemüller
Ganwyd1470, 1470 Edit this on Wikidata
Schallstadt Edit this on Wikidata
Bu farw16 Mawrth 1520, 1521 Edit this on Wikidata
Saint-Dié-des-Vosges Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMargraviate Hachberg-Sausenberg Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmapiwr, cosmograffwr, diwinydd, daearyddwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1500 Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Almaenig Edit this on Wikidata

Cartograffwr a thorluniwr pren Almaenig oedd Martin Waldseemüller (hefyd Waltzemüller neu Walzenmüller; tua 14701520) sydd yn nodedig am gyhoeddi'r map cyntaf i ddefnyddio'r enw America.

Ganed yn Radolfzell, ar lannau'r Bodensee, yn Iarllaeth Württemberg, rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Freiburg ym 1490. Symudodd i Saint-Dié-des-Vosges, Lorraine, a daeth i'r amlwg fel un o wŷr llys René II, Dug Lorraine.[1] Ymgasglodd cylch o ddyneiddwyr, ysgolheigion, a daearyddwyr o'r enw Gymnasium Vosagense yno dan nawdd Gauthier Lud, ysgrifennydd y Dug René, a chawsant ddylanwad pwysig ar gartograffeg a byd-ddarlunio yn yr Almaen yn yr 16g.[2]

Yn Saint-Dié ym 1507 ailgyhoeddodd Waldseemüller gyfieithiad Lladin o lythyr a briodolir i'r fforiwr Amerigo Vespucci, Quattuor Americi navigationes, gyda rhagarweiniad dan y teitl Cosmographiae introductio. Awgrymai Waldseemüller roddi enw Amerigo ar y cyfandir newydd a ddisgrifiwyd yn y llythyr. Ar y pryd, ni chlywodd Waldseemüller am ddarganfyddiadau Cristoforo Colombo yn y Byd Newydd. Yn ddiweddarach, wedi iddo ddysgu am fordeithiau Colombo, ceisiai Waldseemüller hyrwyddo enw arall am y cyfandir, ond erbyn hynny roedd America wedi ennill ei blwyf. Am iddo boblogeiddio'r enw America, gelwir Waldseemüller yn "dad bedydd America".[1]

Universalis Cosmographia

Hefyd ym 1507, cyhoeddodd Waldseemüller fil o argraffiadau o'i fap o'r byd, Universalis Cosmographia, torlun pren a wnaed gyda 12 o flociau ac ar sail traddodiad y Geographia gan Ptolemi a mordeithiau Vespucci.[3] Dim ond un copi o'r map sydd yn goroesi, a gedwir yn Llyfrgell y Gyngres. Ymddengys yr enw America am y tro cyntaf ar y map hwn, i ddisgrifio De America, a dyma'r map cyntaf i ddangos tiroedd y Byd Newydd ar wahân i gyfandir Asia. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr enw i gyfeirio at Ogledd America hefyd gan Gerardus Mercator a chartograffwyr eraill.

Ym 1507 hefyd creodd Waldseemüller glôb, ac yn ddiweddarach dyluniodd ragor o fapiau o Ewrop (1511) ac ar gyfer argraffiad o weithiau Ptolemi yn Strasbwrg (1513).[1] Dyluniodd ei Carta marina (1516) ar ffurf siart forwrol. Bu farw Martin Waldseemüller yn Saint-Dié tua 50 oed.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Martin Waldseemüller" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Tachwedd 2020.
  2. (Saesneg) George Kish, "Waldseemüller, Martin" yn Complete Dictionary of Scientific Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Tachwedd 2020.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Martin Waldseemüller. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2020.