Manuel González Flores
Manuel González Flores | |
---|---|
Portread o Manuel González | |
Ganwyd | 18 Mehefin 1833 Matamoros |
Bu farw | 10 Ebrill 1893 Chapingo |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Llyweodraethwr Michoacán, Governor of Guanajuato |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
Priod | Laura Mantecón Arteaga |
Milwr a gwleidydd o Fecsico oedd Manuel del Refugio González Flores (18 Mehefin 1833 – 8 Mai 1893) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1880 i 1884.
Ganed ar fferm ger Matamoros, yn nhalaith Tamaulipas, gogledd Mecsico. Cychwynnodd ar ei yrfa filwrol ym 1847, a chafodd ei ddyrchafu'n gadfridog yn ystod Rhyfel La Reforma (1857–60).
Wedi i'w gyfaill Porfirio Díaz ddymchwel yr Arlywydd Sebastián Lerdo de Tejada a dal yr arlywyddiaeth o 1877 i 1880, penodwyd González yn arlywydd gan Díaz yn y cyfnod o 1880 i 1884. Un o brif lwyddiannau'r Arlywydd González oedd i amddiffyn ffiniau Mecsico mewn dadl ryngwladol â Gwatemala. Bu hefyd yn dosbarthu hawliau cloddio a chodi rheilffyrdd, gan gyfrannu at ddatblygiad y wlad. Er gwaethaf, nodweddai ei lywodraeth gan lygredigaeth a gwastraff, er enghraifft y ddeddf arolwg tir a roddai ffafriaeth i'r tirfeddianwyr a hapfasnachwyr mwyaf. Cynyddodd chwyddiant yn sgil ei ymdrech i adfer yr arian cyfred gyda darnau nicel newydd, a throdd Díaz yn erbyn ei lywodraeth. Ailetholwyd Díaz yn arlywydd ym 1884 ac ildiodd González ei swydd, a'i wlad ar fin methdaliad.[1]
Treuliodd González ei flynyddoedd olaf yn gwasanaethu yn Llywodraethwr Guanajuato, a bu farw yn Hacienda de Chapingo, ger dinas Guanajuato, yn 59 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Manuel González. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Chwefror 2021.