[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

Maelor

Oddi ar Wicipedia
Maelor
Mathcantref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTeyrnas Powys, Wrecsam, Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53°N 2.91°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal ar y ffin â Lloegr yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Maelor. Yn yr Oesoedd Canol bu'n un o gantrefi Teyrnas Powys. Ei chanolfan bwysicaf oedd Bangor-is-y-coed gyda'i chlas enwog.

Lleoliad Maelor ar fap o brif israniadau Powys

Ffiniai Maelor ag Iâl ac Ystrad Alun i'r gorllewin a'r gogledd, iarllaethau Caer ac Amwythig i'r dwyrain, yn Lloegr (siroedd Caer ac Amwythig heddiw), ac â chymydau Y Traean ac Elsmer (yn ardal Croesoswallt dros y ffin heddiw) a Nanheudwy (Powys) i'r de.

Tua'r flwyddyn 1202, ymranwyd cantref Maelor yn ddau gwmwd o bobtu afon Dyfrdwy, sef:

Cafodd Maelor ei gwahanu oddi ar weddill Cymru am gyfnod gyda chodi Clawdd Offa yn yr 8g, ond daeth yn ôl i feddiant brenhinoedd Powys yn ystod teyrnasiad Steffan o Loegr. Tua 1202, â Maelor bellach dan awdurdod tywysogion Powys Fadog, cafodd ei rhannu yn ddwy ran. Yn sgîl goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan Edward I o Loegr (1282-83), daethpwyd i alw'r ddau gwmwd hyn yn Faelor Gymraeg a Maelor Saesneg (camarweiniol braidd yw enw'r olaf am ei fod wedi aros yn bur Gymraeg am ganrifoedd).

Erbyn heddiw mae Maelor yn gorwedd ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae'r enw yn dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw am yr ardal.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]