[go: up one dir, main page]

Neidio i'r cynnwys

John Ging

Oddi ar Wicipedia
John Ging
Ganwyd1965 Edit this on Wikidata
Port Laoise Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
John Ging yn siarad a'r wasg un o'r ysgol a fomiwyd gan yr IDF yn Gaza

Cyn swyddog o fyddin Iwerddon sydd wedi gwasanaethu fel pennaeth UNRWA (United Nations Relief and Works Agency) yn Llain Gaza ers 2006 yw John Ging (ganed 1965, Portlaoise, Gweriniaeth Iwerddon). Fel arweinydd gwaith y 10,000 o bobl sy'n gweithio i'r Cenhedloedd Unedig yn Gaza daeth yn ffigwr cyfarwydd yn rhyngwladol fel sylwebydd ar y sefyllfa yno a ffynhonnell gwybodaeth awdurdodol yn ystod ymosodiad Israel ar Lain Gaza ar ddiwedd 2008 a dechrau 2009.

Pennaeth UNRWA

[golygu | golygu cod]

Mae Ging wedi bod yn gyfrifol am arolygu cyllid $400 miliwn yr asiantaeth ddyngarol yn Llain Gaza ers Chwefror 1, 2006, gyda chyfrifoldeb am raglenni datblygu a gofalu fod anghenion sylfaenol tua 750,000 o ffoaduriaid Palesteinaidd yn cael eu cwrdd. Oherwydd ei safiad o blaid y Palesteiniaid dydy o ddim wedi bod ar dermau da â llywodraeth Israel. Yn 2007, goroesodd ymosodiad gan ddynion arfog anhysbys.[1]

Mae wedi beirniadu gweithgareddau milwrol Llu Amddiffyn Israel yn Gaza. Rhybuddiodd fod Gaza ar fin "catastroffi" mewn canlyniad i'r ymosodiad gan Israel a beirniadodd Israel am ymosod ar wersylloedd ac adeiladau y CU a safleoedd sifilaidd eraill.[2] Ar y 14eg o Ionawr 2009, cyhoeddodd fod "hanner miliwn o bobl heb ddŵr" yno a'r gwasanaeth iechyd mewn cyflwr peryglus. Roedd dros 1,000 o bobl wedi'u lladd erbyn hynny, llawer ohonyn nhw yn sifiliaid dinwed.[3]

Mae Ging yn un o'r rhai sydd wedi galw am ymchwiliad llawn i "droseddau rhyfel posibl gan Israel yn Llain Gaza." Ar y 15fed o Ionawr 2009, trawyd pencadlys UNRWA gan fomiau Israelaidd ac aeth y warws - a oedd yn llawn o stociau bwyd a meddyginiaethau yn aros i gael eu dosbarthu - ar dân; ymledodd y tân i storfa tanwydd UNRWA. Roedd tua 700 o bobl yn cysgodi yno ond llwyddodd pawb i ddianc. Yn ôl John Ging, defnyddiodd yr Israeliaid bomiau ffosfforws gwyn, sy'n ddeunydd anghyfreithlon dan gyfraith ryngwladol i'w defnyddio yn erbyn sifiliaid.[4][5] Ar 17 Ionawr, saethodd tanciau Israelaidd fomiau ffosfforws ar un o ysgolion UNRWA yn Beit Lahiya. Roedd 1,600 o sifiliaid yn cysgodi yno. Aeth rhan o'r adeilad ar dân ac yn fuan ar ôl hynny saethwyd rownd arall a laddodd ddau blentyn. Saethwyd eto wrth i'r ffoaduriaid geisio dianc a lladdwyd pedwar o sifiliad arall. Galwodd John Ging am ymchwiliad llawn i hyn ac ymosodiadau eraill gan Israel yn Gaza fel "troseddau rhyfel posibl".[6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]