John Evans (esgob)
John Evans | |
---|---|
Ganwyd | Unknown Llanarmon |
Bu farw | 22 Mawrth 1724 Dulyn |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | Bishop of Meath, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon |
Clerigwr Anglicanaidd o Gymro oedd John Evans (1651? – 22 Mawrth 1724).
Roedd yn enedigol o'r Plas Du, plwyf Llanarmon, Eifionydd. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Cafodd reithoriaeth Llanaelhaearn yn ei fro enedigol. Ar y 4ydd o Ionawr, 1701, fe urddwyd yn Esgob Bangor.
Yn 1715 cafodd ei symud i fod yn Esgob Meath yn Iwerddon. Ceisiodd ddiwygio'r drefn eglwysig yn yr esgobaeth. Enynnodd hynny aflonyddwch gan rai a wrthwynebai newid y drefn, yn cynnwys Jonathan Swift - awdur Gulliver's Travels - a ddaliai ddeoniaeth ym Meath. Ymosododd y Deon Swift ar Evans mewn cyfres o lythyrau dychanol a gyhoeddwyd ganddo yn y cylchgronau; daethant yn adnabyddus iawn ac maent yn cael eu hystyried yn enghreifftiau gwych o ddychan Swift.
Ar farwolaeth Evans ym Mawrth 1724, gadawodd ei holl eiddo at waith eglwysig yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.