Jenin
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 49,908 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Coslada, Sidi Bennour |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Jenin |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 37.3 km² |
Uwch y môr | 161 metr |
Gerllaw | Afon Iorddonen |
Cyfesurynnau | 32.4611°N 35.3°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Municipality of Jenin |
Corff deddfwriaethol | Municipality of Jenin |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Jenin |
Dinas yn Y Lan Orllewinol, Palesteina, yw Jenin (Arabeg: جنين ; Hebraeg: ג'נין). Jenin yw canolfan weinyddol talait Jenin. Mae'n ganolfan amaethyddol bwysig. Mae'n gorwedd ar fryn rhwng Dyffryn yr Iorddonen i'r dwyrain a'r Marj Ibn Amer (Dyffryn Jezreel) i'r gogledd. Mae tua 35,760 o bobl yn byw yno (2006). Cyfeirir at Jenin yn y Beibl wrth yr enw Ein Ganeem.
Lleolir gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd Jenin ar gyrion dinas Jenin, ac mae Jenin yn enw ar yr ardal o gwmpas y ddinas hefyd. Mae'r ddinas a'r ardal dan awdurdod swyddogol Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Oherwydd ei rhan amlwg yn yr intifada, sef gwrthsafiad y Palesteiniaid yn erbyn Israel, ymosodwyd ar wersyll ffoaduriaid Jenin gan Llu Amddiffyn Israel fel rhan o'r hyn y mae'r Israeliaid yn ei alw yn "Ymgyrch Taran Amddiffynnol" (Operation Defensive Shield) yn Ebrill 2002 ac mae milwyr Israelaidd wedi bod yn ôl sawl gwaith ers hynny hefyd. Lladdwyd dros hanner cant o Balesteiniaid gan yr Israeliaid yn ymosodiad Ebrill 2002, gyda thua eu hanner yn sifiliaid: cyfeirir at y digwyddiad fel "Cyflafan Jenin" gan y Palesteiniaid a "Brwydr Jenin" neu "Ymgyrch Jenin" gan yr Israeliaid. Parhaodd gwersyll Jenin i gael ei warchae, i bob pwrpas, gan yr Israeliaid. Saethwyd Iain Hook, rheolwr y gwersyll ar ran UNRWA, ym mhencadlys UNRWA yn Jenin gan sniper Israelaidd yn Nhachwedd 2002.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) Gwefan y ddinas (answyddogol) Archifwyd 2009-04-08 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwersyll Jenin ar wefan UNRWA
- (Saesneg) Who Lives In Jenin Refugee Camp?: A Brief Statistical Profile Archifwyd 2009-02-14 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Prosiect i adfer ac ailagor sinema ar gyfer dinas Jenin a'r gwersyll ffoaduriaid Archifwyd 2008-10-23 yn y Peiriant Wayback