Jamie Bell
Jamie Bell | |
---|---|
Ganwyd | Andrew James Matfin Bell 14 Mawrth 1986 Billingham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, dawnsiwr bale, actor teledu |
Priod | Evan Rachel Wood, Kate Mara |
Partner | Kate Mara |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr Cymdeithas Beirniaid Ffilm Broadcast ar gyfer Perfformiwr Ifanc Gorau |
Mae Jamie Bell (ganed 14 Mawrth 1986) yn actor Prydeinig sydd wedi ennill BAFTA. Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y prif gymeriad yn y ffilm Billy Elliot (2000), sef y rôl yr enillodd Wobr BAFTA amdano yn 2001.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Bell ei eni yn Billingham,[1] ym mwrdeistref Stockton on Tees, Gogledd-orllewin Lloegr, lle tyfodd i fyny gyda'i fam, Eileen a'i chwaer hŷn[2]. Gadawodd ei dad y cartref teuluol cyn iddo gael ei eni. Mynychodd Bell Ysgol Northfield ac yna ysgol berfformio Stagecoach. Roedd yn aelod o'r Theatr Cerddoriaeth Ieuenctid Cenedlaethol. Ym 1999, cafodd ei ddewis allan o 2000 o fechgyn i chwarae rhan Billy Elliot, bachgen 11 mlwydd oed sy'n digalonni ei frawd a'i dad weddw, dosbarth gweithiol trwy ddechrau ymddiddori mewn ballet.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ers iddo gael y prif ran yn Billy Elliot, ymddangosodd Bell fel y gwas cloff mewn addasiad o Nicholas Nickleby, fel milwr ifanc yn Deathwatch, fel arddegwr a oedd yn ceisio ffoi yn Undertow, fel heddychwr a gariai gwn yn Dear Wendy ac fel y Jimmy ifanc yn y fersiwn ffilm o King Kong (2005). Hefyd chwaraeodd y prif ran yn Hallam Foe a chafodd ei enwebu am y wobr Actor Gorau yn Ngwobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain.
Roedd ganddo ddwy rôl mewn ffilmiau yn 2008: yn y ffilm gwyddonias Jumper ac yn y ffilm am yr Ail Ryfel Byd Defiance. Er y sibrydion, ni fydd yn ymddangos yng nghynhyrchiad y West End o ddrama Thea Sharrock, Equus, wedi iddo dynnu allan o drafodaethau pan na gynigiwyd y cytundeb iddi ar gyfer cynhyrchiad y sioe yn Broadway.
Ei Fywyd Personol
[golygu | golygu cod]Yn 2005 a 2006, roedd Bell yn canlyn yr actores Evan Rachel Wood - ymddangosodd y ddau ohonynt yn fideo cerddorol y band Green Day, "Wake Me Up When September Ends".
Ar hyn o bryd mae'n trigo yn Ninas Efrog Newydd ac mae hefyd yn perchen ar gartref yn Chelsea, London.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ "Erthygl The Times ar y we". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-07. Cyrchwyd 2009-01-11.