Jacobus de Voragine
Gwedd
Jacobus de Voragine | |
---|---|
Ganwyd | c. 1228 Varazze |
Bu farw | Gorffennaf 1298 Genova |
Galwedigaeth | cyfieithydd, diwinydd, croniclwr, archesgob, llenor, esgob Catholig |
Swydd | archbishop of Genoa |
Dydd gŵyl | 13 Gorffennaf |
Croniclydd Eidalaidd oedd Jacobus de Voragine (c. 1228 – Gorffennaf 1298).[1] Fe'i ganwyd yn Varagine (Varazze), Liguria, yr Eidal, a daeth yn Archesgob Genova. Mae'n fwyaf adnabyddus fel casglwr Y Llith Euraid, un o weithiau crefyddol mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol Diweddar.
Fe'i cyfieithwyd i'r Gatalaneg yn y 13g gyda'r argrraffiad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn Barcelona yn 1494. Bron mor boblogaidd oedd ei gasgliad o bregethau a alwyd hefyd yn "Aurei" a chafwyd sawl argraffiad yn y 15g o'r Pregethau hyn a gwaith o'r enw Mariale a argraffwyd yn Fenis yn 1497 ac yna ym Mharis yn 1503.
|
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Legenda sanctorum (= Y Llith Euraid)
- Chronicon januense
- Sermones de sanctis per circulum anni feliciter
- Laudes Beatae Mariae Virginis